Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 15 Medi 2021.
Ceir 2,000 o achosion o ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru bob blwyddyn. Gall CPR a diffibriliwr ar unwaith fwy na dyblu'r gobaith o oroesi. Rydym i gyd yn cytuno y bydd rhwydwaith o ddiffibrilwyr yn achub bywydau. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi, serch hynny, i gondemnio pwy bynnag a oedd yn gyfrifol yn ddiweddar iawn am ymosod ar gyfarpar diffibrilio allanol awtomatig a brynwyd gan y gymuned, ac a oedd newydd ei osod ar draeth y Gorllewin, Llandudno. Mae'r weithred ddinistriol, ddifeddwl hon yn dangos bod angen i ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig a CPR wella'n helaeth.
Wrth gwrs, rwy'n ategu'r sylwadau a wnaed, a'n diolch enfawr i'n cyn gyd-Aelod Suzy Davies, a ymgyrchodd yn ddiflino i weld Cymru'n ymuno â Lloegr a'r Alban i wneud addysgu sgiliau achub bywyd yn un o ofynion y cwricwlwm ysgol newydd. Bydd addysgu sgiliau achub bywyd mewn ysgolion yn helpu i fynd i'r afael â'r ffaith na fyddai cynifer â thri chwarter y bobl a holwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon yn teimlo'n ddigon hyderus i weithredu pe baent yn gweld rhywun yn cael ataliad y galon. Fodd bynnag, er ein bod yn disgwyl i'r canllawiau ar faes dysgu a phrofiad iechyd a lles gael eu diwygio i ddatgan y dylai dysgwyr ddysgu sgiliau achub bywyd a chymorth cyntaf, pam na chawn fynd gam ymhellach drwy ddweud bod hyfforddiant diffibrilio yn orfodol hefyd?
Drwy gydol y pandemig, rwyf wedi bod yn cymryd camau i helpu, addysgu a diogelu'r cyhoedd. Rwyf wedi cefnogi ymgyrch Cadwch Curiadau Awyr Las, sy'n annog trigolion o bob oed i ymarfer CPR yn niogelwch eu cartref eu hunain drwy ddefnyddio eitemau cyffredin yn y cartref fel peli, clustogau a thedis. Mae fy nhîm etholaethol wedi dilyn cwrs hyfforddi CPR a diffibrilio gydag Ambiwlans Sant Ioan, felly diolch i Ambiwlans Sant Ioan am hynny, gan sicrhau bod gwybodaeth lawn a phriodol am weithdrefnau achub bywyd wedi gwreiddio'n iawn yng nghalon fy etholaeth yn Llandudno. Byddwn yn sicr yn annog Aelodau eraill i wneud yr un peth gyda'u timau swyddfa, fel ein bod yn cynyddu nifer y bobl sy'n gallu ac yn barod i ymateb pe bai ataliad y galon yn digwydd y tu allan i'r ysbyty.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi amcangyfrif y gallai fod cannoedd neu hyd yn oed filoedd o ddiffibrilwyr mewn cymunedau ledled Cymru nad ydynt byth yn cael eu defnyddio am nad yw'r gwasanaethau brys yn gwybod ble y maent. I fynd i'r afael â hyn, mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn lansio 'The Circuit', gyda'r Gymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlans, Ambiwlans Sant Ioan a Chyngor Dadebru'r DU. O gofio eich bod wedi ymrwymo i £500,000 arall i gynyddu nifer y diffibrilwyr ymhellach, tybed a allech ei wneud yn un o amodau'r cyllid hwn y dylid cofrestru cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig ar y rhestr hon.
Mae GIG Cymru a Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod bod cymunedau difreintiedig yn fwy tebygol o ddioddef o glefydau cardiofasgwlaidd ac ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, ac maent yn llai tebygol o oroesi na phobl o ardaloedd mwy cefnog. Nododd cynllun ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty ym mis Mehefin 2017 y dylid gwneud gwaith i sicrhau nad yw'r cyhoedd o dan anfantais oherwydd daearyddiaeth neu heriau cymdeithasol. Mae llawer ohonom yn teithio ar hyd Cymru yn wythnosol, a gallaf ddweud yn ddiogel nad wyf ond wedi gweld un cyfarpar diffibrilio allanol awtomatig, wrth ochr yr A5 ym Mhadog, Ysbyty Ifan. Mae hynny'n dystiolaeth glir o anfantais ddaearyddol. Dylai fod gan gymunedau sydd ag offer achub bywyd arwyddion amlwg sy'n rhoi gwybod i'r cyhoedd am eu presenoldeb. Dylent fod yr un mor bwysig ag arwyddion twristiaeth brown. Felly, a wnewch chi gysylltu â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ddarparu arwyddion ffyrdd yn tynnu sylw at gyfarpar diffibrilio allanol awtomatig?
Ochr yn ochr â chyflwyno arwyddion, rwy'n cefnogi'r galwadau i sicrhau bod cyllid grant ar gael i alluogi neuaddau cymunedol, meysydd chwaraeon a siopau annibynnol i brynu a gosod diffibriliwr. Yn bersonol, byddwn yn mynd gam ymhellach ac yn cynnig y dylent fod ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru. Gallai hynny, Weinidog, fod yn un o'r prif ysgytiadau sydd eu hangen ar Gymru i symud gam yn nes at fod yn genedl sy'n achub bywydau go iawn. Diolch.