Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 15 Medi 2021.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog wrth ei chlywed yn dweud y byddai'n falch o weld mwy o ddiffibrilwyr yng Nghymru. Chi yw'r Gweinidog. A wnewch chi osod targed ar gyfer nifer y diffibrilwyr a allai fod ar gael ledled Cymru erbyn diwedd tymor pum mlynedd y Cynulliad hwn? O leiaf, wedyn, os oes gennym darged, mae gennym rywbeth i anelu ato, yn hytrach na'r geiriau cynnes—a geiriau diffuant, rwy'n cymryd—y mae'r Gweinidog wedi'u dweud ar goedd heddiw. Mae angen inni wybod pa fath o niferoedd rydym yn sôn amdanynt yma.