Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd am ddod â'r ddadl hon i'r Senedd ar ddechrau'r tymor newydd hwn, a diolch am y geiriau caredig rydym newydd eu clywed.
O ran ble'r ydym, mae'r araith a wnaed gan Andrew R.T. Davies yn gwbl gywir: mae'n dda ac rydym yn croesawu ac rydym yn ddiolchgar am y gwaith y mae'r Llywodraeth wedi'i gwblhau, ac rydym yn hynod ddiolchgar am waith unigolion a grwpiau a chymunedau ar hyd a lled y wlad sydd wedi gosod offer achub bywyd mewn cymunedau ledled Cymru. Ond yr hyn a ddywedaf wrth y Gweinidog y prynhawn yma yw na allwch ddibynnu ar elusen i ymateb ar frys pan fydd rhywun yn gorwedd rhwng byw a marw gyda dim ond munudau i'w sbario. Ni allwch ddibynnu ar ewyllys da na dymuniadau gorau ar brynhawn dydd Mercher i ddarparu'r driniaeth sydd ei hangen. Dim ond Llywodraeth a all gyflawni hynny. Rwy'n gobeithio y gallwn fyfyrio ar brofiad pobl y prynhawn yma—nid yn gymaint profiad pobl fel fi sydd wedi dioddef ataliad y galon ac wedi goroesi, ond y teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid am na wnaethant oroesi, a gwyddom fod hynny wedi effeithio ar Aelodau yma yn y Siambr hon.
Gwyddom fod pobl sy'n ymddangos fel pe baent mewn iechyd ardderchog wedi dioddef ataliad y galon heb rybudd, heb symptomau, a heb gyfle i gael cymorth meddygol. Roedd yn frawychus gwylio'r hyn a ddigwyddodd i Christian Eriksen yn yr haf. Yr hyn a ddigwyddodd iddo ef oedd yr hyn y disgrifiwyd ei fod wedi digwydd i mi—dim rhybudd, dim gwybodaeth, ynghanol rhyw weithgarwch corfforol roeddech yn rhagweld, roeddech yn disgwyl, ei oroesi. Fe syrthiodd gydag ataliad y galon yn union yn yr un ffordd ag y gwnes innau. Dim ond cefnogaeth a chymorth pobl yn ein cymuned a fydd yn galluogi'r parafeddygon, y cardiolegwyr a'r llawfeddygon i ddefnyddio eu sgiliau, i ddefnyddio eu gwybodaeth, i ddefnyddio eu profiad i sicrhau y gall pobl fwrw ymlaen â'u bywydau. Yn sicr, mae'r driniaeth a gefais yma yng Nghaerdydd wedi fy ngalluogi i barhau i fyw fy mywyd. Ac rwy'n ymddiheuro, Andrew R.T. Davies, os wyf fi weithiau'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, ond wedi dweud hynny, ni fyddech yn disgwyl iddi fod fel arall.
Gadewch imi ddweud hyn: mae gennym gyfrifoldeb yn y lle hwn i wneud mwy na gwneud areithiau, ac i wneud mwy na mynegi ewyllys da a dymuniadau da i bobl ledled y wlad hon. Mae gennym gyfrifoldeb i sefydlu'r strwythurau a fydd yn galluogi pobl i oroesi'r profiadau hyn. Gobeithio y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cefnogi'r ddeddfwriaeth Aelod preifat y byddaf yn ei chyflwyno eto yr wythnos hon. Roedd yr Aelodau'n ddigon caredig i gefnogi'r cynnig deddfwriaethol a wneuthum yn y Senedd ddiwethaf i ddarparu cyfrifoldeb cyfreithiol, statudol ar Weinidogion Cymru i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad, a bod pobl yn cael yr hyfforddiant sydd ar gael i ddefnyddio'r diffibrilwyr hynny ac i ddarparu CPR nes y gellir defnyddio diffibriliwr. Oherwydd nid lleoliad y diffibriliwr yn unig sy'n bwysig, ond cynnal a chadw'r diffibriliwr, sicrhau bod y diffibriliwr ar gael i'w ddefnyddio pan fydd ei angen. Cefais ataliad y galon am 7 o'r gloch ar nos Wener. Ni allwch ddibynnu ar bobl i gael ataliad y galon o fewn oriau gwaith mewn lleoliad cyfleus. Rydym eisoes yn pennu ac yn mynnu deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn ein cymdeithas drwyddi draw, o ddiogelwch tân i bob dull arall o gynnal a sicrhau bod bywyd yn cael ei ddiogelu. Mae hyn hefyd yn rhywbeth y dylem ei wneud yn orfodol.
Hoffwn ddweud hyn wrth gloi. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr, fel y dywedais eisoes, ac yn ddiolchgar am y geiriau caredig, ac nid wyf am dreulio gormod o amser yn siarad am fy mhrofiad fy hun, ond mae geiriau'n bwysig. Mae geiriau'n sicr yn bwysig, ond yr hyn sy'n bwysicach na geiriau yw gweithredu. Cawn gyfle yn y Senedd hon i ddeddfu i ddarparu ar gyfer fframwaith statudol i alluogi pobl ledled Cymru i wybod bod ganddynt offer achub bywyd ar gael mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad. Byddwn yn adeiladu ar y gwaith a arweiniodd Suzy Davies yn y Senedd ddiwethaf i sicrhau bod hyfforddiant ar gael. Ac ni allwn ddibynnu'n syml ar ysgolion i gyflawni hynny; rhaid inni fynd i weithleoedd a chymunedau i gyflawni hynny hefyd. Yna mae'n rhaid inni sicrhau bod cadwyn oroesi ar waith sy'n ein galluogi—