Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 15 Medi 2021.
Dyletswydd y Senedd hon a'r Llywodraeth hon, fel y dywedais ar y dechrau, yw gwasanaethu buddiannau pobl Cymru yn y ffordd orau. Bydd diwedd y cynnydd mewn credyd cynhwysol yn drychinebus i bobl ledled y Deyrnas Unedig, ond bydd teuluoedd yng Nghymru yn cael eu taro'n galetach, ac effeithir ar gyfran sylweddol uwch o deuluoedd â phlant yng Nghymru na rhai ardaloedd eraill. Mae ymgyrchwyr gwrth-dlodi a chyfiawnder cymdeithasol a ninnau fel plaid wedi rhybuddio ynglŷn â storm berffaith. Daw'r cynllun ffyrlo i ben wythnos yn unig cyn i'r toriad ddod i rym. Rhagwelir y bydd costau byw yn codi dros y misoedd nesaf, sy'n golygu y bydd incwm teuluoedd sy'n agored i niwed yn gostwng ar yr union adeg y mae costau byw'n codi. Ac mae dyled aelwydydd yn saethu i fyny, yn ôl adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd heddiw.
Mae'r ystadegau'n dweud y cyfan. Mae cyfanswm o dros 275,000 o deuluoedd yn hawlio credyd cynhwysol neu gredydau treth gwaith yng Nghymru—mwy nag un o bob pump o'r holl deuluoedd. Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd sy'n hawlio'r budd-daliadau hyn yn deuluoedd â phlant, ac mae 42 y cant o'r holl deuluoedd â phlant yn hawlio un o'r budd-daliadau hyn. Mae 14 y cant o'r holl deuluoedd heb blant yn hawlio credyd cynhwysol neu gredydau treth gwaith. Yn ddaearyddol, effeithir ar fwy na chwarter y teuluoedd â phlant ym mhob etholaeth yng Nghymru; mewn rhai etholaethau, bydd y toriad hwn yn effeithio ar hanner y teuluoedd â phlant.
Roedd Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn cyfiawnhau'r gostyngiad ar y sail y byddai'n helpu i gael pobl yn ôl i'r gwaith. Fodd bynnag, mae Cyngres Undebau Llafur Cymru yn awgrymu y bydd mwy na thraean y rhai a gaiff eu taro yng Nghymru yn deuluoedd sy'n gweithio, gyda llawer ohonynt yn weithwyr allweddol. Meddyliwch am hynny. Mae'r penderfyniad ar gredyd cynhwysol, wrth gwrs, yn nwylo San Steffan, ond mae'n rhaid i ni yng Nghymru weithredu, oherwydd mae ein pobl yn cael eu gwthio i ddyled a thlodi dyfnach, ac mae cannoedd o filiynau o bunnoedd yn cael eu colli o'n heconomïau lleol o ganlyniad.
Mae angen i Lywodraeth Cymru bwyso am ddatganoli pwerau lles i Gymru—[Torri ar draws.]—er mwyn gwneud mwy i liniaru effeithiau gwaethaf y toriad i'r credyd cynhwysol—. Na, nid wyf am ildio. Ddoe, wrth ateb cwestiwn Adam Price ar y mater hwn, awgrymodd Prif Weinidog Cymru y byddai'n aros i'r Pwyllgor Materion Cymreig gyflwyno adroddiad, yn dilyn eu hymchwiliad cyfredol i'r system fudd-daliadau yng Nghymru a datganoli lles. Nid wyf ond wedi bod yn Aelod o'r Senedd hon ers pedwar mis, ac rwyf eisoes wedi clywed gormod o 'Gadewch inni aros i weld. Rydym yn edrych arno'.
Pan fydd argyfwng yn ein hwynebu, mae'n rhaid inni weithredu. Os ydym wedi dysgu unrhyw beth dros y misoedd diwethaf, mae'n amlwg, ac ni ellir gwadu o ystyried yr ystadegau rwyf wedi'u rhannu, fod hwn yn argyfwng ofnadwy, ac rydym yn gwybod ei fod ar y ffordd y tro hwn. Er mwyn mynd i'r afael â thlodi o ddifrif, mae angen dull strategol gwell. Heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd. Ar ôl trafod gydag amrywiaeth o grwpiau sy'n gweithio ym maes cyfiawnder cymdeithasol, mae'n amlwg i mi fod angen i Lywodraeth Cymru weithredu gyda mwy o ffocws ac yn fwy cydgysylltiedig i roi diwedd ar effeithiau parhaus gwaethaf tlodi. Mae sôn am fwriadau da, ond mae sôn hefyd am ddyblygu mentrau a diffyg cyfeiriad clir, sy'n rhwystredig, oherwydd, heb strategaeth glir a heb dargedau mesuradwy, y canlyniad weithiau yw dull aneffeithiol, gwasgaredig o weithredu, sydd weithiau hefyd yn loteri cod post annheg ac anghyfiawn.