6. Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 15 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:43, 15 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Beth yw £20 yr wythnos? Nid yw'n gymaint â hynny, does bosibl? Dyna mae rhai o'r biliwnyddion yn San Steffan wedi awgrymu, ond mae £20 yn dod yn £1,040 y flwyddyn: swm enfawr i deuluoedd y mae'r pandemig ymhell o fod ar ben iddynt. A bydd y toriad hwn, fel y clywsom, yn digwydd yr wythnos ar ôl yr adeg y mae'n debygol y daw'r cynllun ffyrlo i ben ac ar adeg pan fydd costau byw'n codi. Rydym wedi clywed y term nifer o weithiau'n barod, 'storm berffaith', wel, mae'n storm berffaith pan fydd y to wedi chwythu i ffwrdd. A Ddirprwy Lywydd, rwy'n defnyddio termau fel hyn, 'pandemig', 'ffyrlo': dylent fod yn bwyntiau angori sy'n ein hatgoffa nad ydym yn byw mewn cyfnod normal; rydym yn byw mewn cyfnod o argyfwng byd-eang ac mae'r argyfwng byd-eang hwnnw'n effeithio'n drychinebus bob dydd ar bobl sy'n byw mewn tlodi—'trychinebus' yn ei wir ystyr: newidiadau sydyn, pethau'n cael eu troi ben i waered.

Ac ynghanol yr argyfwng hwn, pan fo'r holl ddarnau o fywydau pobl yn cael eu dal yn y fantol ansicr hon, caiff darn hanfodol ei gipio ymaith, a chaiff ychwanegiad a oedd i fod i gadw'r ddysgl yn wastad i bobl ei daro allan, ac fel tŵr Jenga, fel pecyn o gardiau, gall y cyfan ddymchwel, oherwydd dyna'r celwydd, onid e, wrth wraidd ein system fudd-daliadau. Nid yw'n ymwneud â rhoi diwedd ar dlodi; mae'n ymwneud â chadw pethau mewn cydbwysedd amhosibl: system sy'n gwthio teuluoedd i ddyled cyn iddynt gael eu taliad cyntaf, gan sicrhau eu bod ar ei hôl hi cyn iddynt ddechrau, a'u gorfodi i fywyd o geisio ymdopi, o ymdrechu diddiwedd, heb allu teimlo'n gyfforddus neu'n dawel eu meddwl byth, yn ceisio dal tŷ o bapur a chardiau at ei gilydd.

Bydd y toriad hwn yn effeithio ar fwy na 61,000 o deuluoedd yn ne-ddwyrain Cymru. Ym Merthyr, Torfaen a Dwyrain Casnewydd, effeithir ar fwy na chwarter yr holl deuluoedd. Dyna 61,000 o deuluoedd. Gadewch inni beidio â diystyru'r ystadegyn hwnnw—bydd 61,290 o deuluoedd, i fod yn fanwl gywir, yn colli arian sy'n eu helpu i fyw, ac mae'n rhaid bod unrhyw un sy'n dweud y gall pobl sy'n cael credyd cynhwysol fforddio colli'r arian hwn wedi camddeall yn sylfaenol sut y mae tlodi'n gweithio. Gall £20 yr wythnos fod yn wahaniaeth sy'n golygu bod gan blant foliau llawn, sy'n golygu y gall teuluoedd gadw'r gwres ymlaen, ond mae hefyd yn golygu y gall plant gael llyfrau, arian poced, a'u bod yn gallu mynd ar dripiau ysgol. Gan na ddylai'r pethau hynny fod yn foethusrwydd, ni ddylent fod ar gyfer plant cefnog yn unig; dylent fod yn normal. Bydd y toriad yn hunan-drechol. Ar adeg pan fo Llywodraethau am roi hwb i'n heconomi, mae mynd â £286 miliwn o bocedi pobl a fyddai'n ei wario'n lleol yn gam gwag economaidd ar y gorau. Mae'n doriad budd-daliadau a osodir ar Gymru heb unrhyw fandad.

Mae system fudd-daliadau'r DU sydd gennym ymhell o fod yn gynhwysol o ran ei fudd. Nid yw'n gredyd i'n cymdeithas; mae'n ynysu pobl, mae'n eu gosod ar wahân ac yn ceisio eu diraddio. Bydd effaith y toriad hwn, £20 yr wythnos, yn cael ei fesur mewn cortisol ac adfyd. Mae effaith tlodi ar iechyd meddwl, ergydion sydyn i incwm, ansicrwydd a phanig, wedi'u dogfennu'n dda. Bydd perthynas pobl dan straen, bydd cynnydd mewn dyledion a benthyciadau a bydd gorbryder i'w deimlo bob dydd gan y teuluoedd hynny—y miloedd o deuluoedd a fydd yn mynd drwy fywyd gydag ychydig bach mwy o anhawster, gan fynd heb ychydig mwy o'r pethau hynny, y pethau hanfodol na fyddai'r un ohonom byth yn amddifadu ein hunain ohonynt. Nid tŷ o gardiau mwyach, ond gwydr a fydd yn chwalu unrhyw gamargraff o degwch o ran sut y mae credyd cynhwysol yn gweithio.

Rwyf am orffen, Ddirprwy Lywydd, gyda her i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi cael Torïaid San Steffan yn rheoli lles ers dros ddegawd, ac mae angen inni newid pethau ar frys. Daw'r toriad hwn i rym mewn llai na mis. Mae Plaid Cymru wedi cynnig taliad ar gyfer plant Cymru, gan ddysgu o'r Alban, lle mae teuluoedd incwm isel sydd â phlant o dan chwech oed yn cael taliad o £10 yr wythnos. Rwy'n deall y bydd hyn yn cael ei ddyblu a'i ymestyn yn fuan. Oni fyddai nawr yn amser delfrydol i gyflwyno polisi tebyg yng Nghymru? Nawr yw'r adeg i helpu'r teuluoedd hyn.