Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 15 Medi 2021.
Mae Jane Dodds yn llygad ei lle—creulon ydy'r gair, a dwi'n meddwl bod rhaid i ni dderbyn heddiw mai nid bai pobl sy'n byw mewn tlodi ydy'r ffaith eu bod nhw'n byw mewn tlodi. Dwi'n meddwl bod rhaid i ni dderbyn bod £20 yr wythnos ychwanegol ddim wedi datrys tlodi chwaith, ac mae gweld pobl yn gwenu a chwerthin yn fy nghynddeiriogi i'n aruthrol pan dwi'n gwybod am y straeon sydd tu ôl i'r ystadegau yma; pan dwi'n cael galwadau ffôn gan bobl sydd yn gweithio, ac fel dywedodd Sioned Williams wrth agor y ddadl heddiw, pobl sy'n weithwyr allweddol ac sy'n methu fforddio rhoi bwyd i'w plant. Sori, dwi jest yn cael fy nghynddeiriogi gymaint i weld pobl ddim yn gweld y gwir dlodi sydd yn ein cymunedau ni, a'r datrysiadau y mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd arnynt, oherwydd os nad ydym ni'n derbyn bod yna broblem, yna sut ydym ni'n mynd i ddatrys hyn? Sut ydym ni'n mynd i newid bywydau pobl?
Fe fydd 65,230 o deuluoedd yn cael eu heffeithio gan y toriad mewn credyd cynhwysol yn y rhanbarth rwyf yn ei gynrychioli, sef Canol De Cymru. Mae Sefydliad Bevan wedi amcangyfrif y bydd symiau mawr yn cael eu colli o economïau lleol etholaethau yn y rhanbarth. Mae'r colledion fel a ganlyn: mae Canol Caerdydd yn colli £8.4 miliwn, Gogledd Caerdydd yn colli £5.2 miliwn, De Caerdydd a Phenarth yn colli £13.2 miliwn, Gorllewin Caerdydd yn colli £10.5 miliwn, Cwm Cynon yn colli £7.6 miliwn, Pontypridd yn colli £6.1 miliwn, Rhondda yn colli £7.8miliwn, a Bro Morgannwg yn colli £8.6 miliwn. Cyfanswm y colledion, felly, yw £67.4 miliwn, sydd yn swm aruthrol, dim ond yng Nghanol De Cymru.
Mae fy rhanbarth i a’i etholaethau wedi dioddef yn economaidd ac yn gymdeithasol am ddegawdau. Yn ystod adeg o’r pandemig, Rhondda Cynon Taf oedd wedi dioddef y mwyaf o farwolaethau y pen nag unrhyw ardal arall yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n parhau i ddioddef cyfraddau uchel o ledaeniad. Maent hefyd wedi profi’r gwaethaf o ran newid hinsawdd yng Nghymru, gan ddioddef llifogydd dinistriol. Yn ogystal â hyn, mae'r rhanbarth eto'n dioddef o iechyd gwaeth na rhanbarthoedd eraill yng Nghymru. Mae pobl yn marw'n gynt, mae mwy o bobl yn dioddef ansicrwydd bwyd ac yn ddibynnol ar fanciau bwyd, ac mae'r lefelau tlodi plant y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig, os nad yn Ewrop. [Torri ar draws.] Wel, a'r Ceidwadwyr, sori. Os ydych chi'n mynd i herio Llywodraeth, mae'r ddwy Lywodraeth yr un mor euog â'i gilydd.
Mae’r cynnydd credyd cynhwysol o £20 yr wythnos wedi bod yn achubiaeth i bobl Canol De Cymru, ond ddim wedi bod yn ddatrysiad. Mae o wedi caniatáu i fwy o deuluoedd fforddio byw, fforddio bwydo eu plant, prynu dillad, talu am drydan, golau, gwres, cysylltiad band eang angenrheidiol, ac wedi lleihau rhai ond ddim bob un o effeithiau gwaethaf economaidd y pandemig. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gwneud popeth y mae’n gallu i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wyrdroi ei phenderfyniad creulon ar gredyd cynhwysol. Mae’n rhaid iddi wneud popeth o fewn ei phwerau datganoledig i liniaru effaith tlodi yng Nghanol De Cymru, ac ar draws gweddill y wlad.
Rydym angen strategaeth i fynd i’r afael a rhoi diwedd ar dlodi—cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd. Ac, wrth gwrs, mae yna lu o bolisïau eraill y medrwn ni ddod i rym fydd yn gwneud gwahaniaeth, megis ehangu cymhwysedd cinio ysgol am ddim i bob plentyn mewn tlodi, neu bob plentyn yng Nghymru, fel yr hoffem weld, ac mae angen i’r Llywodraeth gynnal hyblygrwydd y gronfa cymorth dewisol i leddfu effaith gostyngiad credyd cynhwysol ar bobl yng Nghymru.