Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau a'r Gweinidog, wrth gwrs, am ateb a'r cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Efallai nad oeddwn yn cytuno â phob un, ond diolch serch hynny.
Ddirprwy Lywydd, ni allai'r ddadl hon fod yn fwy amserol. Y bore yma, ar y bws i mewn, roedd pennawd newyddion y BBC yn dweud bod prisiau wedi codi'n uwch nag erioed o'r blaen wrth i gostau bwyd gynyddu ym mis Awst. Y cynnydd mwyaf mewn chwyddiant ers dechrau cadw cofnodion yn 1997, ac eto ni chlywn ddim, dim o gwbl gan y Llywodraeth Dorïaidd: dim tro pedol ar ddileu'r cynnydd o £20 i gredyd cynhwysol, dim ynglŷn â pha fesurau y bydd yn eu cymryd i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas na'r gostyngiad mwyaf i unrhyw daliad nawdd cymdeithasol ers y 1930au. Yn hytrach, mae gennym yr Ysgrifennydd gwaith a phensiynau'n cefnogi'r toriad i gredyd cynhwysol gan ddweud na fyddai ond yn golygu dwy awr o waith ychwanegol. O na bai mor syml â hynny. Mae'n debyg mai 'cywilyddus' yw'r gair mwyaf priodol sy'n dod i'r meddwl. Rwy'n siŵr na fyddai'r Dirprwy Lywydd yn ymateb yn garedig iawn i'r geiriau a ddefnyddiais pan glywais y sylwadau gyntaf, felly mae'n well i mi beidio â'u hailadrodd.
Nawr, gwyddom y bydd gan y gostyngiad mewn credyd cynhwysol a chredydau treth gwaith oblygiadau i economi Cymru. Mae Sefydliad Bevan wedi amcangyfrif y bydd y toriad yn mynd â £286 miliwn yn uniongyrchol o bocedi teuluoedd incwm isel yng Nghymru bob blwyddyn. Clywn am y pwyslais ar adferiad economaidd. Wel, mae'n siŵr y caiff ei lesteirio gan y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Dorïaidd y DU, y byddai'n well ganddynt gosbi'r dosbarth gweithiol a helpu eu ffrindiau cyfoethog. Fel y mae Delyth Jewell eisoes wedi gofyn i ni: beth yw £20? Dyna arian a allai fod wedi mynd ar hanfodion—arian a fyddai wedi'i wario yn ein heconomi, arian a allai fod wedi mynd ar drît achlysurol.
Tynnodd Sioned Williams sylw'n briodol at yr effaith y byddai'r toriad i gredyd cynhwysol yn ei chael ar deuluoedd sy'n gweithio. Fel y nododd eisoes, mae'r TUC yn dweud wrthym y bydd traean o'r teuluoedd yr effeithir arnynt yng Nghymru yn deuluoedd sy'n gweithio, ac mae'r rheini'n deuluoedd ym mhob un o'n hetholaethau a'n rhanbarthau. Mae a wnelo hyn ag urddas a pharch tuag at ein cyd-ddinasyddion, ac ar y pwynt hwn ynglŷn ag urddas a pharch, gyda'r dystiolaeth—ac wrth gwrs, tystiolaeth a gasglwyd dros gyfnod o bron i ddegawd, gyda llaw—yn erbyn credyd cynhwysol, rwy'n ei chael hi'n anodd credu bod y Ceidwadwyr Cymreig yn dal i'w amddiffyn. Achos ar ôl achos ar ôl achos lle mae teuluoedd yn sownd mewn cylch dieflig o dlodi. Ac rwyf wedi eistedd yma hefyd, drwy gydol y ddadl hon, a'r cyfan a glywais oedd Aelodau Ceidwadol ar y meinciau'n chwerthin. Yn chwerthin. Dylech fod â chywilydd llwyr. [Torri ar draws.] Na, nid wyf am dderbyn ymyriad, diolch. Na, nid wyf yn derbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad. Rydych wedi bod yn chwerthin drwy gydol ddadl hon.
Dewch gyda mi; dewch gyda mi i fy rhanbarth. A Sarah Murphy hefyd rwy'n siŵr—mae'r ddau ohonom yn cynrychioli'r un ardal. Awn â chi at rai o'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan y Llywodraeth Dorïaidd, a chawn weld beth yw eu barn hwy am y ffaith eich bod chi'n chwerthin ar eich meinciau. Dylech fod â chywilydd mawr—