Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 21 Medi 2021.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac, yn ddi-os, mae Cymru wedi elwa'n economaidd ar y cynnydd i wyliau cartref eleni. Mae gennym ni wlad mor wych i'w harddangos, felly sut gall Llywodraeth Cymru annog pobl i barhau i fynd ar wyliau yng Nghymru wrth i'r farchnad dwristiaeth fyd-eang agor eto yn y dyfodol?