Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 21 Medi 2021.
Diolchaf i Vikki Howells am y cwestiwn, Llywydd. Mae arwyddion cynnar yn cadarnhau yr hyn y bydd llawer o'r Aelodau wedi ei weld drostyn nhw eu hunain: bod hwn wedi bod yn haf bywiog i'r sector twristiaeth yng Nghymru, gyda nifer uchel o bobl o Gymru a ledled y Deyrnas Unedig yn dewis mwynhau popeth sydd gan Gymru i'w gynnig.