Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 21 Medi 2021.
Llywydd, rwyf i wedi dilyn y ddadl ddiweddar am wasanaethau gofal dydd yng Nghaerffili ac rwy'n eithaf sicr y bydd y rhai sy'n gyfrifol am wneud y penderfyniadau anodd hynny wedi bod yn gwrando'n astud ar yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud heddiw ac ar safbwyntiau eu cymunedau lleol. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau ar yr holl faterion hyn ac yn monitro gwariant awdurdodau lleol drwy amrywiaeth gymhleth o lwybrau, gan gynnwys ym maes gwasanaethau cymdeithasol. Yn y pen draw, penderfyniadau lleol yw'r rhain sy'n cael eu gwneud gan y bobl hynny sydd agosaf at y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, gan ystyried, fel y mae cyngor Caerffili yn ei wneud rwy'n siŵr, safbwyntiau eu trigolion lleol eu hunain.