Part of the debate – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 21 Medi 2021.
Diolch. Wel, yn anffodus, dioddefodd yr ardal yr ydych chi'n cyfeirio ati lifogydd difrifol ym mis Chwefror 2020, ychydig cyn pandemig COVID-19, ac rwy'n ymwybodol o lawer iawn o waith sydd wedi'i wneud gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdod lleol. Fe wnaf i yn sicr ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch chi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch y cwestiwn penodol y gwnaethoch chi ei ofyn.