2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 21 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:29, 21 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Trefnydd, gyda'r gaeaf yn prysur agosáu, mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi yn mynegi pryder ynghylch y nifer o fasleoedd mewn afonydd wrth ymyl cymunedau a gafodd eu dinistrio gan lifogydd ym mis Chwefror 2020, gan gynnwys Teras Clydach yn Ynysybwl a Stryd Rhydychen yn Nantgarw. Er bod rhywfaint o waith wedi'i wneud mewn rhai ardaloedd, oherwydd effaith y llifogydd ar lannau'r afon, mae nifer y basleoedd yn parhau i fod yn helaeth. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud wrth drigolion nad oes ganddyn nhw'r arian i wneud mwy o waith yn y meysydd hyn. Ac felly a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn benodol ynghylch carthu a lleihau basleoedd mewn afonydd wrth ymyl cymunedau sydd mewn perygl, ac ar y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth genedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru ers ei chyhoeddi ym mis Hydref 2020?