Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 21 Medi 2021.
Rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod y Gweinidog addysg yn gweithio'n agos iawn gyda'n hysgolion a'n penaethiaid. Mae Llywodraeth Cymru, pan fyddwn ni'n cyflwyno unrhyw bolisi neu ganllawiau, yn dilyn y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf. Os bydd hynny'n newid, bydd y Gweinidog addysg yn amlwg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.