Part of the debate – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 21 Medi 2021.
Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gael gweld datganiad heddiw ymlaen llaw, ac mae'n un amserol iawn hefyd, Llywydd, gan fy mod i wedi gofyn i'r Gweinidog am eglurder ynghylch dyfodol cyllid Glastir ddydd Mercher diwethaf, ac er na chynigiwyd unrhyw ymrwymiad bryd hynny, mae'r gymuned ffermio a minnau'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw yn fawr. Serch hynny, fe fydd yna rai sy'n crafu eu pennau o hyd oherwydd, ar ôl cael gwybod am ddiweddariad a fyddai'n dod ym mis Gorffennaf, maen nhw wedi gorfod aros yn nerfus drwy'r misoedd diwethaf am y diweddariad heddiw. Ond, unwaith eto, rwy'n ymuno â'r undebau ffermio i groesawu ymrwymiad heddiw.
Yn gyntaf i gyd, a gaf i ofyn am eglurhad ynglŷn â'r pwyntiau ynghylch y safonau gofynnol cenedlaethol? Fe soniodd y Gweinidog am ei bwriad hi i sicrhau bod y rhain yn cael eu gweithredu o flaen y cynllun newydd arfaethedig. Mae'n rhaid cyflwyno'r safonau newydd hyn mewn da bryd, gan y bydd angen cyfnod ar ffermwyr i weithredu newidiadau yn eu harferion nhw ac uwchraddio seilwaith, yn ogystal â rhai sydd ag angen buddsoddiad o gyfalaf. Os rhoddir rhybudd byr cyn cyflwyno'r safonau gofynnol newydd, a wnaiff y Gweinidog ganiatáu cyfnod pontio i sicrhau nad yw ffermwyr sy'n awyddus i weithredu yn briodol yn cael eu cosbi oherwydd cyfyngiadau amser?
Ni ddylid anwybyddu pwysigrwydd amaethyddiaeth wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ac er bod cynlluniau amaeth-amgylcheddol Glastir yn sicrhau newidiadau adeiladol ar ffermydd ledled Cymru, fe allwn ni leihau ein hôl troed carbon ymhellach drwy gynyddu ein cyfradd ni o hunangynhaliaeth. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gynhyrchu bwyd a diogelwch bwyd yn rhan o gynlluniau i'r dyfodol yn yr ymdrech i leihau nifer y mewnforion sy'n niweidiol i'r amgylchedd wrth gefnogi ein diwydiant domestig ni? Ac a oes yna nod canrannol o hunangynhaliaeth yr ydym ni'n bwriadu ei daro?
Yn olaf, Llywydd, rwy'n nodi hefyd o ddatganiad y Gweinidog y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2025. Mae estyniad y Cynllun Taliad Sylfaenol a Glastir tan 2023, sy'n golygu y ceir diffyg eglurder o ran y cymorth a roddir i ffermwyr yn 2024, y flwyddyn rhwng diwedd un cynllun a dechrau cynllun newydd. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru am ei gynnig yn y cyfnod pontio hwn i sicrhau y gellir osgoi'r arian yn dod i ben yn sydyn? A chyda'r Alban yn addo cyflawni eu cynllun newydd nhw'n llawn erbyn 2023, a chymhorthdal newydd Lloegr ar y gweill eisoes, beth yw'r rheswm am yr oedi hwn cyn cyflwyno'r cynllun yma yng Nghymru? Diolch, Llywydd.