Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 21 Medi 2021.
Diolch, Llywydd. Fel y mae ein rhaglen lywodraethu ni'n ei nodi, mae mynd i'r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Fe fyddwn ni'n llunio system newydd o gymorth i ffermwyr ar gyfer gwneud yn fawr o rym amddiffynnol natur drwy gyfrwng ffermio ac mae'r Bil amaethyddiaeth yn allweddol i gyflawni'r uchelgeisiau hyn. Yn y dyfodol, fe fydd cymorth i ffermwyr yn gwobrwyo ffermwyr gweithgar sy'n cymryd camau i ymateb i'r heriau o ran ein hymateb ni i gyd i'r argyfwng hinsawdd a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, gan eu cefnogi nhw i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.
Mae Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru) yn nodi ein cynigion ni i gefnogi ffermwyr i fabwysiadu dulliau sy'n gynaliadwy. Fe fydd hyn yn sicrhau dyfodol hirdymor i ffermio sy'n cydnabod ei bwysigrwydd i'r gymdeithas yng Nghymru. Fe ddaeth ymgynghoriad y Papur Gwyn i ben ym mis Mawrth, ac mae hi'n bleser gennyf i gyhoeddi heddiw ddadansoddiad annibynnol o'r ymatebion ac ymateb Llywodraeth Cymru ei hun. Rwy'n ddiolchgar i bawb am roi o'u hamser i ymateb i hwn.
Ar y 6 o fis Gorffennaf, roedd y Cwnsler Cyffredinol yn nodi ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol ni. Roedd honno'n cadarnhau y byddwn ni'n cyflwyno Bil amaethyddiaeth newydd ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd. Fe fydd hwn yn ddarn uchelgeisiol o ddeddfwriaeth sy'n diwygio degawdau o gymorth i ffermwyr gan yr UE ac yn cynrychioli newid sylweddol i'r sector. Rwyf i wedi penderfynu canolbwyntio'r Bil ar y meysydd allweddol y mae eu hangen nhw ar gyfer cefnogi ffermwyr yn y blynyddoedd i ddod, ac, yn hollbwysig, i sefydlu system newydd o gymorth i ffermwyr sy'n seiliedig ar egwyddorion rheoli tir mewn dulliau sy'n gynaliadwy. Yn ogystal â hynny, fe fydd y Bil yn disodli'r pwerau sydd â chyfyngiad amser iddyn nhw yn Neddf Amaethyddiaeth y DU 2020. Dyma'r cam cyntaf yn niwygiad amaethyddiaeth, a fydd yn sicrhau bod ffermydd Cymru yn rhai cynaliadwy.
Ein bwriad parhaus ni yw lleihau'r baich sydd ar ffermwyr o ran rheoleiddio. Rydym ni'n awyddus i'w gwneud hi'n haws i ffermwyr ddeall yr hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud i gydymffurfio â'r gyfraith drwy gyflwyniad cenedlaethol o safonau sy'n ofynnol. Rydym ni o'r farn hefyd y dylai gorfodaeth fod yn gymesur â difrifoldeb y drosedd, ac y dylid ymatal rhag gwneud ffermwyr yn droseddwyr am droseddau sy'n llai difrifol. Er hynny, rydym ni'n cydnabod bod y cynigion hyn yn rhai cymhleth ac fe ddylid eu hystyried nhw'n ofalus. Yn y cam nesaf o ddiwygio, fe fyddwn ni'n gweithio yn agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod safonau gofynnol cenedlaethol yn cael eu gweithredu yn ddigon cynnar i gyflwyno'r cynllun arfaethedig.
I roi eglurder i ffermwyr Cymru, rwyf i am gyhoeddi cynllun cyflawni sy'n amlinellu'r cerrig milltir allweddol yn y broses hon o ddiwygio y dylid eu cyrraedd yn ystod y tymor Seneddol hwn. Pan gyflwynir deddfwriaeth y flwyddyn nesaf, fe fyddaf i'n cyhoeddi amlinelliad o'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Nid hwn fydd y cynllun terfynol, ond fe fydd yn cynnwys manylion am y strwythur y gofynnir i ffermwyr ymgymryd ag ef. Fe gaiff y camau gweithredu yn y cynllun eu dadansoddi yn eang iawn i amcangyfrif cost economaidd eu cyflawni i fusnes y fferm a'r manteision amgylcheddol a ddaw yn eu sgil. Fe fydd hynny'n ein galluogi ni i gynnal sgyrsiau manwl gyda ffermwyr ynglŷn â'r cynigion ac yn rhoi prawf ar ein ffordd ni o feddwl.
Rwyf i wedi bod yn eglur bob amser y byddwn ni'n parhau i weithio yn agos gyda'n ffermwyr ni i sicrhau bod eu lleisiau nhw'n cael eu clywed wrth i gymorth gael ei gynllunio yn y dyfodol. Rwyf i'n falch o allu cyhoeddi adroddiad heddiw ar gam cyntaf y cyd-ddylunio a'r ymrwymiad i adeiladu ar y gwaith hwn mewn ail gam yn ystod y flwyddyn nesaf. Fe fydd hyn yn rhan o broses barhaus o ymgysylltu â ffermwyr a rhanddeiliaid, a fydd yn ein harwain ni at ymgynghoriad terfynol ar y cynllun ffermio cynaliadwy ac i'r cyfnod pontio â'r cynllun newydd yng ngwanwyn 2023. Drwy gydol 2024, fe fyddwn ni'n ymgysylltu â ffermwyr drwy raglen allgymorth, ac fe fydd hyn yn sicrhau ein bod ni'n barod i gychwyn y cynllun ym mis Ionawr 2025.
Mae'r sector ffermio wedi wynebu sawl her dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym ni'n gadarn yn ein bwriad ni i gefnogi ffermwyr wrth addasu i newidiadau yn y dyfodol. Y flwyddyn nesaf, rwyf i am lansio ystod o ymyriadau a fydd yn helpu i fraenaru'r tir ar gyfer y cynllun newydd a threialu'r broses a ddefnyddir i'w chyflawni hi.
Mae yna newid sylweddol a phwysig ar y ffordd a fydd yn golygu dyfodol sefydlog a chynaliadwy i'r diwydiant a chymunedau cefn gwlad Cymru. Yn y cyfamser, yn amodol ar ddarpariaeth ddigonol o arian gan Lywodraeth y DU, ein bwriad ni yw parhau â'r cynllun taliad sylfaenol tan 2023 i roi cymorth i ffermwyr wrth i ni weithio gyda'n gilydd i drosglwyddo i'r cynllun ffermio cynaliadwy. Ochr yn ochr â hyn, fe fyddaf i'n ymestyn contractau tir comin ac organig Glastir am ddwy flynedd, hyd at fis Rhagfyr 2023. Yn gyfochrog â chefnogi ein ffermwyr ni, fe fydd yr estyniad hwn yn ein helpu ni i wella ein dealltwriaeth ni o effaith camau gweithredu ac ymyriadau Glastir ymhellach, ac yn cyfrannu at ddatblygiad cynllun ffermio cynaliadwy i'r dyfodol. Mae hynny'n golygu ymrwymiad cyllidebol i ffermwyr Cymru o £66 miliwn dros ddwy flynedd. Rwyf i'n cyhoeddi ymrwymiad pellach hefyd o £7 miliwn i ymestyn rhaglen Cyswllt Ffermio hyd at fis Mawrth 2023.
Rwy'n galw ar y Senedd gyfan i gefnogi ein cynigion uchelgeisiol ni a chydseinio y dylai Llywodraeth y DU ddarparu cyllid newydd lawn i'n ffermwyr ni sydd wedi ymadael â'r Undeb Ewropeaidd erbyn hyn. Mae angen parhau â'r ymdrech ar y cyd gan ffermwyr a'r Llywodraeth i ymateb i'r heriau a gyflwynir gan argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'r blaengynllun a'r cyhoeddiadau ariannu a gyflwynais i heddiw yn arddangos fy ymrwymiad i a'r Llywodraeth hon i'r gwaith arbennig hwn. Diolch.