9. Dadl Fer: Ni yw'r hyn yr ydym yn ei fwyta: Canolbwyntio ar ddwysedd maetholion bwyd er mwyn gwella iechyd y cyhoedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 6:11, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno pwnc mor bwysig ar gyfer dadl fer a diolch hefyd i Cefin Campbell am ei gyfraniad. Mae sut a beth yr ydym yn ei fwyta yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd a'n lles. Mewn amcangyfrifon blynyddol o faint o flynyddoedd o fywyd iach a gollir yn ddiangen i salwch, anabledd a marwolaeth, mae pedwar o'r pum ffactor risg uchaf yn gysylltiedig â deiet. Ac fel y gwyddom, mae deiet hefyd yn cyfrannu'n allweddol at anghydraddoldebau iechyd. Mae gennym ddarlun clir o'r hyn y dylem i gyd fod yn ei fwyta. Mae'r Canllaw Bwyta'n Iach yn dod â'r holl dystiolaeth wyddonol at ei gilydd mewn siart cylch syml. Cawn ein cynghori'n aml gan arbenigwyr y dylem fod yn bwyta llawer o ffrwythau a llysiau, ac y dylem gael deiet ffibr uchel gyda charbohydradau startsh, cynnyrch llaeth braster isel a phrotein. Dylem osgoi bwyta gormod o fwydydd uchel mewn braster a siwgr yn rhy aml. Dylem anelu at fwyta o fewn ein hanghenion ynni. Mae'n swnio'n syml ac yn hawdd i'w gyflawni, ond mae'r chwech o bob 10 ohonom yng Nghymru sydd dros bwysau ac yn ordew yn tystio i'r ffaith nad ydyw.

Erbyn hyn, rydym yn byw mewn amgylchedd sy'n mynd ati i'n cymell i orfwyta ac i fwyta bwydydd sy'n cynnwys llawer o galorïau, a dim llawer o faetholion. Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae'r hyn a fwytawn a'n patrymau bwyta wedi newid cryn dipyn. Mae'r farchnad bwyd a diod wedi esblygu i ddarparu mwy o ddewis ac argaeledd nag erioed o'r blaen. Cawn ein hannog a'n cymell yn gyson i brynu a bwyta mwy o fwyd drwy hysbysebion bwyd, hyrwyddiadau a niferoedd mawr o siopau bwyd ar ein prif strydoedd. Gyrrwch ar hyd unrhyw stryd fawr, ac mae faint o fwyd sydd ar gael yn syfrdanol. Er enghraifft, mae bron i draean o'r safleoedd yn Nhorfaen yn fy etholaeth i yn siopau tecawê bwyd cyflym. Hefyd, mae gwasanaethau dosbarthu bwyd a llwyfannau digidol yn gwneud siopau tecawê hyd yn oed yn haws i'w defnyddio.

Cawn hyd at chwarter ein calorïau o fwyta y tu allan i'r cartref, a phan fyddwn gartref, rydym yn bwyta mwy o brydau parod a bwydydd wedi'u prosesu. Mae'r DU bellach yn gwario tua £5 biliwn y flwyddyn ar brydau parod ac mae 80 y cant o'r bwyd wedi'i brosesu a werthir yn y DU yn gynnyrch nad yw'n iach. Gan fod marchnad ehangach ar gyfer bwyd nad yw'n iach, mae cwmnïau'n buddsoddi mwy i'w ddatblygu a'i farchnata na'r dewisiadau iach. Mae'n gylch peryglus a dinistriol, ac mae'n rheoli'r pris. Nid bwyta'n iach yw'r dewis fforddiadwy bob amser, oherwydd mae bwydydd sy'n uchel mewn halen, carbohydradau wedi'u prosesu, siwgr a braster, ac yn isel mewn ffibr, ar gyfartaledd deirgwaith yn rhatach fesul calori na bwydydd iachach. Mae hyn yn un o'r prif ffactorau wrth wraidd anghydraddoldebau iechyd, wrth i'n pobl dlotaf wynebu dewisiadau anodd ynglŷn â phrynu bwyd y gallant ei fforddio ond y gwyddant nad yw bob amser yr hyn sydd orau i'w hiechyd hwy a'u teuluoedd.

Er ein bod yn clywed amrywiaeth o negeseuon, cyngor ac arweiniad ar fwyta'n iach, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn llwyddo i fwyta deiet iach a chytbwys. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gyfarwydd â'r ymgyrch pump y dydd, ac eto, yng Nghymru, 25 y cant yn unig o oedolion sy'n dweud eu bod yn cyrraedd y targed hwn, gyda rhai o'n plant yn bwyta llai fyth o ffrwythau a llysiau.

Ac mae Jenny'n iawn: mae angen inni ddeall gwerth maethol yr hyn a fwytawn. Mae gan bob ffrwyth a llysieuyn gyfansoddiad maethol gwahanol a gall y modd y cânt eu cynaeafu, eu storio, eu prosesu a'u coginio effeithio ar hyn hefyd. Ond y neges allweddol yma yw bod angen i fwy ohonom fwyta o leiaf pum dogn o bob math o ffrwythau a llysiau y dydd. Ffres, wedi'u rhewi, o dun, wedi'u sychu neu mewn sudd, mae'r cyfan yn cyfrif tuag at y pump.