1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 22 Medi 2021.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr yng Nghymru? OQ56885
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau ac adeiladu ar y cymorth a'r gwasanaethau a ddarperir i'n cyn-filwyr yng Nghymru. Ceir manylion ynglŷn â'n gwaith a'n cynnydd parhaus yn ein trydydd adroddiad blynyddol ar gyfamod y lluoedd arfog, a gyhoeddwyd ar 22 Mehefin.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae arnom ddiolch a chefnogaeth i'r dynion a'r menywod yn ein lluoedd arfog. Bydd y digwyddiadau diweddar yn Affganistan wedi ail-greu teimladau anodd i’r rheini a fu'n gwasanaethu yno a’u teuluoedd. Mae grwpiau yn fy etholaeth i, fel clwb brecwast y lluoedd arfog a chyn-filwyr Casnewydd a Hwb Cyn-filwyr Casnewydd, yn darparu cymorth cymheiriaid. Yn ychwanegol at eu cymorth arferol i helpu cyn-filwyr, gwn fod yr hwb cyn-filwyr wedi trefnu sesiynau agored gyda therapyddion clinigol i helpu'r rheini y bu'r ychydig fisoedd diwethaf yn anodd iddynt. Maent hefyd wedi darparu cynllun cymorth gan gymheiriaid i gysylltu cyn-filwyr â'i gilydd er mwyn rhannu profiadau a chynnig cymorth i'w gilydd. Mae ymwybyddiaeth o'r rhwydweithiau cymorth hyn yn hanfodol. Sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i gysylltu cyn-filwyr a'u teuluoedd â'r cymorth sydd ar gael er mwyn sicrhau ein bod yno ar eu cyfer fel y maent hwy wedi bod yno ar ein cyfer ninnau?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod, Jayne Bryant, am ei chwestiwn? Gwn fod yr Aelod yn ymrwymedig iawn i gefnogi cyn-filwyr, nid yn unig yn ei hetholaeth ei hun, yn ei chymuned ei hun, ond ar draws y wlad. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi pan ddywed fod Cymru'n genedl sy’n falch o’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr, a chytunaf yn llwyr fod arnom ddyled fawr i’r holl ddynion a menywod sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn Affganistan.
Mewn cydweithrediad â'n partneriaid, rydym yn parhau i ddarparu cymorth i gyn-aelodau o luoedd arfog y DU yng Nghymru sydd wedi gwasanaethu yn Affganistan. Mae cymorth ar gael gan GIG Cymru i Gyn-filwyr ar gyfer cyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru, ac maent yn darparu cymorth gyda phroblemau iechyd meddwl, ynghyd â'n llinell gymorth iechyd meddwl. Ond mae'r Aelod hefyd yn crybwyll y rôl anhygoel y mae'r sefydliadau gwirfoddol a chymunedol hynny'n ei chwarae yn cefnogi cyn-filwyr mewn cymunedau ledled y wlad, ac mae arnom ddyled fawr iddynt hwythau hefyd. A gwyddom o'n grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog mai'r ffordd y gallwn wneud yr hyn a wnawn wrth gefnogi cyn-filwyr yw drwy weithio ar y cyd, sy'n rhywbeth rydym yn parhau i'w wneud. Mae gennym y Porth Cyn-filwyr, sy'n siop un stop, ond rydym yn sicrhau ein bod yn parhau i ledaenu'r neges er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael, ar lefel Cymru gyfan, ond ar lefel leol hefyd. Ac a gaf fi ddiolch i'r Aelod unwaith eto, a diolch ar ran Llywodraeth Cymru, i'r sefydliadau hynny am eu gwaith yn ei hetholaeth?
Weinidog, rwy'n adleisio'r hyn a ddywedwch yn llwyr, yn ogystal â'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod o Orllewin Casnewydd, wrth ddweud bod arnom ddyled enfawr i gyn-filwyr. Nododd ymchwil gan y Lleng Brydeinig Frenhinol fod aelodau o gymuned y lluoedd arfog yn agored i ddigwyddiadau a heriau sy'n eu gwneud yn fwy agored i deimlo'n unig ac yn ynysig. Daethant i'r casgliad fod un o bob chwe aelod o gymuned y cyn-filwyr wedi nodi eu bod wedi cael rhyw anhawster yn eu perthynas ag eraill neu unigrwydd, sef oddeutu 770,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig. Fel y gŵyr pob un ohonom, ac rwy'n siŵr bod llawer ohonoch wedi clywed, mae cysylltiad rhwng unigrwydd a phwysedd gwaed uchel, iselder, gorbryder, clefyd Alzheimer, a chynnydd o 30 y cant yn y risg o farw cyn pryd. Mae pobl sy'n dioddef o unigrwydd yn fwy tebygol o ymweld â meddygon teulu ac ysbytai, ac yn fwy tebygol o fynd i ofal awdurdodau lleol, felly mae mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol nid yn unig yn lliniaru dioddefaint trigolion lleol, ond hefyd yn rhan bwysig o waith ataliol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Rwy'n siŵr y byddwch yn deall bod awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn helpu i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol mewn cymunedau, ac maent mewn sefyllfa ddelfrydol i ddeall lefelau unigrwydd yn eu hardaloedd yn benodol, a nodi pwy sydd mewn perygl yn ogystal â chymryd camau i fynd i'r afael â hynny. Pa drafodaethau a gawsoch, Weinidog, gyda'r awdurdodau lleol i wella'r mesurau y gallant eu rhoi ar waith i helpu aelodau o'r lluoedd arfog sy'n teimlo'n unig ac yn ynysig? Diolch.
Diolch. A gaf fi ddiolch i'r Aelod hefyd am ei chwestiwn a'i chefnogaeth i gymunedau ein lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru? Ac mae'n llygad ei lle yn tynnu sylw at rai o'r heriau y gall y rheini sydd wedi gwasanaethu eu hwynebu wrth bontio i fywyd sifil o ganlyniad i'w profiad hefyd. A dyna pam ein bod wedi sicrhau ein bod wedi buddsoddi mewn pethau fel GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan gynnwys cynnydd o 35 y cant mewn cymorth buddsoddi. Ond ar lefel awdurdodau lleol hefyd, rydym yn falch iawn o'r gwaith y mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn ei wneud, ac yn wir, mewn sgyrsiau â swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU, maent wedi bod yn awyddus iawn i edrych ar sut y gwnawn hynny ar lawr gwlad, a sut y gallwn sicrhau bod gennym bwynt cyswllt a'n bod yn cydgysylltu. Felly, rydym yn gweithio'n agos gyda swyddogion cyswllt y lluoedd arfog a gynrychiolir yn y grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog, ond hefyd drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ond fel bob amser, rydym yn awyddus i adeiladu ar y cymorth hwnnw, i nodi unrhyw fylchau sy'n parhau ac i sicrhau bod gan gyn-filwyr fynediad at gymorth. A chredaf mai un ffordd o wneud hynny o bosibl yw sicrhau ein bod yn rhannu pethau fel y Porth Cyn-filwyr gyda'r Aelodau yn fwy rheolaidd, fel y gall pob un ohonom ddefnyddio ein rhwydweithiau ein hunain i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o hynny hefyd.