Gwasanaethau Bancio i Gyrff a Mudiadau Gwirfoddol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:01, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llyr Gruffydd. Rwy'n pryderu ynghylch y lleihad yn y gwasanaethau bancio yng Nghymru oherwydd y nifer gynyddol o fanciau sy'n cau. Rydym yn parhau i ddefnyddio ein dylanwad gyda'r sector bancio a Llywodraeth y DU i sicrhau bod gwasanaethau bancio ar gyfer cyrff a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cael eu cadw.