Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 22 Medi 2021.
Cytunaf ei bod yn bwysig iawn fod aelodaeth cyrff cyhoeddus yn adlewyrchu'r gymdeithas, ond mae'n ymwneud â mwy na nodweddion gwarchodedig yn unig; mae'n ymwneud â phrofiadau bywyd. Yn rhy aml, mae amrywiaeth yn ymdrin â nodweddion gwarchodedig, nid amrywiaeth o ran profiadau bywyd. Pa waith sy'n mynd rhagddo i sicrhau bod byrddau'n cynnwys aelodau a chanddynt wahanol brofiadau bywyd mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys gwahanol rannau o drefi a dinasoedd? A faint o'r bobl a benodwyd sy'n dod o'r 20 cymuned fwyaf difreintiedig? Rwy'n dyfalu nad oes un.