Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 22 Medi 2021.
Wel, Lywydd, nid oes gennyf unrhyw dystiolaeth mewn perthynas â'r sgript sy'n cael ei darllen mor fedrus gan yr Aelod y prynhawn yma. Oes, yn amlwg, mae angen peth eglurder ar Maint Cymru a rhaglen Cymru ac Affrica. Rwy'n falch eich bod wedi penderfynu cydnabod y gefnogaeth i raglen Cymru ac Affrica, sydd wedi bod ar waith ers 15 mlynedd a chanddi gysylltiadau sydd o fudd i'r ddwy ochr ag Affrica Is-Sahara a chyda'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth a'r cysylltiadau â'r Llywodraeth. Ni allech wneud hyn heb gydnabyddiaeth o'r fath, ond hefyd, yn hollbwysig, mae hyn yn gysylltiedig iawn â nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a'r degawd o weithredu tuag at agenda 2030.