Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch yn fawr am y cwestiwn, Vikki Howells. Ar 6 Medi, cyhoeddwyd dros £1.9 miliwn o gyllid i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd. Derbyniodd pantri Ysgol Gynradd Pen-y-waun £6,254.82 i fuddsoddi mewn caban a fydd yn gartref i oergelloedd a rhewgelloedd, gan eu galluogi i gyrraedd mwy o deuluoedd a chyflenwi ystod fwy maethlon o eitemau ffres ac wedi'u rhewi.