Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwyf wedi ymweld â chryn dipyn o gynlluniau pantri bwyd yn fy etholaeth yn ddiweddar, gan gynnwys cynllun gwych iawn yng Nglyn-coch y mis diwethaf, lle gwnaeth yr amrywiaeth o fwydydd ffres a phrif fwydydd a oedd ar gael argraff fawr arnaf, ynghyd â gwasanaethau cynghori eraill hefyd. Mae'n amlwg fod gan bantrïoedd bwyd rôl hirdymor sylweddol a chynaliadwy i'w chwarae yn y frwydr yn erbyn tlodi bwyd a gwastraff bwyd. Felly, Weinidog, a allwch fy sicrhau bod cefnogaeth i greu pantrïoedd bwyd yma i aros fel rhan o gynlluniau hirdymor Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb cymdeithasol a materion amgylcheddol?