Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 22 Medi 2021.
Mae'r pandemig wedi amlygu'r anghydraddoldebau amlwg rhwng y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig a'u cymheiriaid. Mae dadansoddiad o effaith economaidd-gymdeithasol coronafeirws yn dangos mai'r rhai a oedd eisoes yn agored i niwed sydd wedi cael eu taro waethaf. Bydd y penderfyniad niweidiol gan Lywodraeth y DU i roi diwedd ar yr ychwanegiad o £20 yn gwaethygu'r gwahaniaethau hyn.