Hiliaeth yn y System Cyfiawnder

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:10, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwyf am grybwyll tri adroddiad y byddwch yn gyfarwydd iawn â hwy yn fy nghwestiwn atodol. Yn gyntaf, yr adroddiad gan Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru. Mae’r adroddiad hwnnw’n dweud, yn 2017, fod lefel yr anghymesuredd hiliol ym mhoblogaeth y carchardai yn uwch ymhlith carcharorion o Gymru na charcharorion o Loegr. Yn gywilyddus, ni yma yng Nghymru sydd â'r lefel uchaf o garchariadau yng ngorllewin Ewrop, ond hefyd mae pobl ddu chwe gwaith yn fwy tebygol o fod yng ngharchardai Cymru na phobl wyn. Yna nododd adroddiad Lammy, a dynnodd sylw at y ffaith bod nifer yr achosion o orgynrychiolaeth pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn y system cyfiawnder troseddol yn fater sydd o fewn cymwyseddau datganoledig y Senedd. Ac yn olaf, nododd y trydydd adroddiad, adroddiad y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru, fod angen monitro a diwygio parhaus mewn meysydd fel gwaharddiadau ysgolion, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chyfleoedd cyflogaeth. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod argymhellion yr adroddiadau hyn yn cael eu gweithredu i fynd i'r afael â gorgynrychiolaeth pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol yn y system cyfiawnder troseddol? Diolch yn fawr.