Hiliaeth yn y System Cyfiawnder

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:09, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i drafod amrywiaeth o faterion pwysig, gan gynnwys cydraddoldeb hiliol. Daeth ein hymgynghoriad ar y cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol i ben ar 15 Gorffennaf. Mae troseddau casineb a chyfiawnder yn flaenoriaeth allweddol yn y cynllun.