Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch eto i Janet Finch-Saunders am nodi effaith y taliadau hyn drwy sôn am brofiadau sefydliadau gwirfoddol, yn ogystal â bod cael gafael ar wasanaethau bancio yn dod yn fwyfwy anodd. A gaf fi ailadrodd ei bod yn bwysig iawn inni gysylltu â'n cynghorau gwasanaethau gwirfoddol, sy'n ymwneud â hyn? Rydym yn cyfarfod â'r banciau cyn bo hir a byddwn yn rhoi hyn ar yr agenda.