Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 22 Medi 2021.
Yn gyntaf, yn anffodus, rhaid inni dderbyn nad yw nifer fawr o bobl am bleidleisio dros unrhyw un ohonom ni. [Chwerthin.] I genhedlaeth a fagwyd ar ddefnyddio eu ffonau ar gyfer popeth, mae gofyn iddynt giwio a rhoi croes ar ddarn o bapur yn ymddangos yn hen ffasiwn iawn. A yw'r Llywodraeth wedi ystyried treialu pleidleisio ar-lein i ymgysylltu â phobl iau? Os gellir gwneud bancio ar-lein yn ddiogel, rwy'n siŵr y gall pleidleisio ar-lein fod yn ddiogel hefyd.