Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 22 Medi 2021.
Wel, credaf fod yr Aelod yn llygad ei le. Un o amcanion y cynlluniau peilot y cyfeiriais atynt yn gynharach, er enghraifft—. Lle'r ydym wedi cyflwyno pleidleisio i bobl ifanc 16 oed yn ein system etholiadol, pan fydd pobl yn dod ar y gofrestr, pam na ddylem allu defnyddio technoleg a fyddai, er enghraifft, yn caniatáu iddynt bleidleisio yn eu hysgolion? Beth am bleidleisio mewn gweithleoedd? Beth am bleidleisio mewn archfarchnadoedd—pleidleisio lle mae'n gyfleus i bobl bleidleisio, gyda'r nod o sicrhau bod y system bleidleisio mor hygyrch â phosibl? Y system bleidleisio yw craidd ein democratiaeth, ac mae nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn hynny, ac ansawdd y system honno, yn brawf gwirioneddol, yn fy marn i, o gryfder ein democratiaeth.