Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 22 Medi 2021.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am godi'r mater pwysig yma. Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am gomisiwn cyfansoddiadol ers peth amser. Ein syniad ni oedd comisiwn yn ymgynghori â dinasyddion ynglŷn â'r gwahanol opsiynau cyfansoddiadol am ein dyfodol fel cenedl. Nawr, Gweinidog, dyw cylch gorchwyl comisiwn y Llywodraeth heb ei gyhoeddi eto, felly rwy'n credu bod hwn yn amser priodol i erfyn arnoch chi i sicrhau nad yw hwn yn cael ei lunio yn rhy gul drwy anwybyddu annibyniaeth. Gan fod oddeutu traean o'r boblogaeth bellach yn cefnogi annibyniaeth, mae'n gwbl briodol ei bod yn cael ei chynnwys fel rhan o'r sgwrs ehangach, ynghyd ag opsiynau eraill fel y setliad datganoli presennol neu ryw ffurf ar ffederaliaeth, fel rydych chi yn ei chefnogi.
A allwch chi, Gweinidog, felly, ddweud os ydych chi'n cytuno bod angen sgwrs gyfansoddiadol eang er mwyn iddi fod yn wirioneddol ystyrlon, ac na fydd yn mynd ati felly i neilltuo annibyniaeth o'r drafodaeth?