Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 22 Medi 2021.
Wel, gwrandewch, diolch eto am y cwestiwn atodol hwnnw. Rwy'n ymddiheuro os oeddech chi'n ystyried bod fy ymateb cyntaf yn rhy fyr. Rwyf wedi bod yn rhoi cryn dipyn o atebion eithaf manwl mewn sesiynau craffu gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, ac yn wir, pan wneuthum y datganiad yn gynharach ac ar adegau eraill.
Cyn toriad yr haf, cyhoeddais y byddem yn cyflawni ein hymrwymiad maniffesto ac yn sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Mae'r Aelod yn llygad ei le am y camweithredu sy'n bodoli o fewn ein strwythur cyfansoddiadol. Ac wrth gwrs, gall digwyddiadau ymyrryd ymhellach yn hynny dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r rheini i gyd yn amlwg i bawb.
Pan fo'r Prif Weinidog wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn pryderu bod y DU yn nes at chwalu nag ar unrhyw adeg yn ystod ei hanes, nid ei safbwyntiau ef yn unig y mae'n eu mynegi, mae'n mynegi safbwyntiau sy'n bodoli'n drawsbleidiol yn fy marn i. Mae'n ymddangos mai'r unig fan lle nad ydynt yn bodoli'n gyson iawn mewn gwirionedd yw Rhif 10 Downing Street ar hyn o bryd.
Ond rydych yn codi pwynt pwysig iawn ynglŷn â beth fydd y diben a'r swyddogaeth a sut y bydd yn gweithredu. Y cam rydym arno ar hyn o bryd yw ein bod mewn trafodaethau ynghylch penodi cyd-gadeiryddion, sy'n gam newydd ynddo'i hun yn fy marn i, a hefyd gydag aelodau'r comisiwn. Rwyf wedi bod yn ymwneud hefyd â'm cyd-Aelod Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, i sicrhau mai'r hyn a sefydlwn yw comisiwn a fydd, pan fydd yn weithredol, yn adlewyrchu daearyddiaeth, ieithoedd, amrywiaeth a chydraddoldeb Cymru cyn belled ag y gallwch wneud hynny mewn comisiwn o'r faint gydag oddeutu 11 o bobl. Y prawf allweddol, fel y credaf eich bod yn cyffwrdd ag ef yn eich cwestiwn atodol, fydd y broses o ymgysylltu â phobl Cymru, yn enwedig y rhan honno o gymdeithas nad yw fel arfer yn cymryd rhan yn y prosesau hyn, a hanfod hynny fydd sefydlu comisiwn y mae pobl yn ei ystyried yn berthnasol i'w dyfodol a'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.
Gwneir datganiadau pellach dros yr wythnosau nesaf. Bydd yr Aelod yn deall, pan ydym wrthi'n sefydlu'r comisiwn, nad yw'n bosibl sôn am bopeth sydd ar y gweill. Ond mae cynnydd yn cael ei wneud, a gobeithio y byddwn yn cwblhau'r materion hyn yn ystod yr oddeutu chwe wythnos nesaf.