Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 22 Medi 2021.
Rwy'n ddiolchgar am yr ateb llawn a chynhwysfawr hwnnw, Weinidog. Byddai'n ddefnyddiol pe baech yn gallu rhoi ychydig mwy o fanylion i ni am yr amserlen ar gyfer hynny. Rydych chi, fel fi, wedi gweld nifer o gomisiynau a'u hadroddiadau'n mynd a dod. Sut y byddwch yn sicrhau bod y broses hon yn wahanol? Oherwydd un peth yr ydym i gyd wedi'i ddysgu dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn sicr yw bod datganoli wedi marw. Mae'r broses ddatganoli ar ben. Yr hyn sydd ei angen arnom yn awr yw cyfansoddiad sefydledig sy'n rhoi pwerau sefydledig i'r Senedd hon i'w galluogi i fwrw ymlaen â'i gwaith.