Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 22 Medi 2021.
Yn gyntaf, diolch am eich cwestiwn. A chredaf fod y cynnydd yn nifer y cynigion cydsyniad deddfwriaethol lle nad ydym yn argymell cydsyniad yn ganlyniad i nifer o bethau. Yn gyntaf, maint deddfwriaeth Llywodraeth y DU, ond yn ail, i ba raddau y mae'r ddeddfwriaeth honno'n ceisio ymwthio'n uniongyrchol iawn i feysydd datganoledig. Ein safbwynt ar y rheini yw deall gyda'n gilydd yr hyn sy'n digwydd o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth honno, ond hefyd i nodi nifer o egwyddorion o'i mewn. Hynny yw, ni fyddwn yn gwrthod cydsyniad fel mater o drefn; byddwn yn edrych i weld pa fudd sydd i Gymru o gynnig penodol mewn deddfwriaeth ac a yw'n mynd i fod o fudd i ddinasyddion Cymru. Wrth gwrs, os yw'n ymwneud â phŵer datganoledig, ein blaenoriaeth, cyhyd ag sy'n rhesymol ymarferol, yw ymdrin â deddfwriaeth yng Nghymru ar y materion hynny drwy ddeddfwriaeth Gymreig. Weithiau, nid yw hynny'n bosibl oherwydd maint y ddeddfwriaeth, oherwydd y blaenoriaethau, ac weithiau am fod buddiannau cyffredin, a phwerau cydredol sy'n ddilys weithiau hyd yn oed.
Yr hyn y gallaf ei ddweud hefyd yw mai'r hyn sy'n amlwg iawn o'r hyn a welais yn yr ychydig fisoedd y bûm yn Gwnsler Cyffredinol, sy'n adeiladu ychydig ar yr hyn a welais yn fy rôl flaenorol yn y Senedd ddiwethaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, yw bod yma raddau anhygoel o anghysondeb. Ceir meysydd lle mae'n bosibl gweithio gyda Gweinidogion y DU a lle mae cynnydd yn cael ei wneud, lle ceir dealltwriaeth o Sewel, ac mae gwaith cydweithredol iawn wedi'i wneud, a cheir parch tuag at Sewel. Ond wrth gwrs, ceir meysydd eraill lle caiff ei anwybyddu'n llwyr. Er enghraifft, gwelsom yn ystod etholiadau’r Senedd, ddeddfwriaeth ar ddarpariaethau dedfrydu yng nghyswllt lles anifeiliaid, lle roedd angen cydsyniad y Senedd yn amlwg, ond fe wnaethant benderfynu bwrw yn eu blaenau beth bynnag.
Yr enghraifft arall o ddiffyg parch, wrth gwrs, yw cyhoeddi deddfwriaeth sy'n amlwg yn mynd i effeithio arnom ond lle nad oes gennym unrhyw ymgysylltiad priodol ar y ddeddfwriaeth honno, ar y materion hynny a allai effeithio arnom, a chaiff y ddeddfwriaeth honno ei chyflwyno i ni ar y funud olaf fwy neu lai, fel pe bai'n fait accompli. Wrth gwrs, mae'r pwysau y mae hynny'n ei roi wedyn ar adnoddau Llywodraeth Cymru er mynd i'r afael ag ef yn anodd dros ben.
Nawr, credaf mai'r hyn sy'n bwysig, lle mae rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud, yw'r adolygiad rhynglywodraethol, lle mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt rhwng y pedair gwlad, lle ceir gobaith y gallem gyflawni—a gadewch inni ddweud 'gallem gyflawni', ac mae'n rhaid inni aros i weld beth yw'r cynnydd hwnnw—yr hyn y mae ei angen arnom yn daer, sef system briodol i'r pedair gwlad gyfarfod â'i gilydd, ysgrifenyddiaeth briodol i gefnogi'r gwaith a wneir yn sgil hynny, ysgrifenyddiaeth annibynnol, a phroses anghydfodau briodol. Fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, ac mae'n rhywbeth rwyf wedi cyfeirio ato ar sawl achlysur, nid oes pwrpas cael system lle rydym yn ysgrifennu ac yn dweud, 'Mae hwn yn fater o fewn ein cymhwysedd, felly mae angen caniatâd deddfwriaethol arno', ac mae Llywodraeth y DU yn ymateb ac yn dweud, 'Nid ydym yn cytuno, a dyna ddiwedd arni.' Nid yw honno'n ffordd gyfansoddiadol briodol i Lywodraethau weithio gyda'i gilydd. Felly, mae llawer o waith wedi bod yn mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni. Mae cynnydd yn cael ei wneud. Rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddiadau cadarnhaol maes o law, ond rydym wedi bod ar hyd y llwybr hwn o'r blaen ac rydym yn troedio'n ofalus iawn.