Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn 2015, ymrwymodd y Cynulliad i fod yn sefydliad sy'n deall dementia. Yn unol â'r ymrwymiad hwnnw, mae'r Comisiwn yn parhau i weithio'n agos gyda thîm deall dementia Cymdeithas Alzheimer Cymru ac mae wedi darparu sesiynau hyfforddi ac ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia i Aelodau, eu staff, staff y Comisiwn, ac yn enwedig ar gyfer staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r cyhoedd a chontractwyr sy'n gweithio ar yr ystâd. Rydym hefyd wedi sicrhau bod staff sydd â chyfrifoldebau gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia yn cael eu cyfeirio at gymorth sydd ar gael drwy Gymdeithas Alzheimer, ac ymwybyddiaeth bellach drwy ganllawiau a gyhoeddir, blogiau ac erthyglau sy'n hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddementia.