Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd. Rwy'n ddiolchgar fod gwaith yn cael ei wneud gan y Comisiwn i sicrhau bod pobl sy'n byw gyda dementia yn gallu cael mynediad i ystâd y Senedd. Wedi'r cyfan, dylai pobl sy'n byw gyda dementia allu cael mynediad cydradd â phawb arall i'r ystâd. Rwy'n siŵr bod y Comisiynydd yn ymwybodol fod canfyddiad pobl sy'n byw gyda dementia yn aml wedi newid, a gellir gweld pethau syml fel mat tywyll neu garped ar y llawr fel twll y gallant syrthio i mewn iddo. Gorau po gyntaf y gwnawn newidiadau syml yn y Senedd, megis newid matiau yn yr adeilad, felly byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Comisiwn amlinellu amserlen ar gyfer y newidiadau syml hyn, a phryd y bwriedir eu cwblhau.