3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 22 Medi 2021.
1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gynlluniau i alluogi pob Aelod i fynychu ystâd y Senedd i gymryd rhan ym musnes y Senedd? OQ56865
Mae'r Comisiwn yn gallu cynnal busnes y Senedd ar ffurfiau rhithwir a hybrid. Mae hyn yn sicrhau parhad ein Senedd a gallu pob Aelod i gymryd rhan ar bob lefel o gyfyngiadau'r coronafirws. Mae'r Aelodau wedi gallu dod i ystâd y Senedd i gymryd rhan ym musnes y Senedd ers cyflwyno trafodion y Cyfarfod Llawn hybrid, a hynny ers Gorffennaf 2020.
O dan y trefniadau presennol, mae nifer yr Aelodau a all fod yn bresennol yn gorfforol yn y Siambr ar unrhyw adeg wedi cynyddu i 30. Gall Aelodau sy'n cymryd rhan o bell wneud hynny o unrhyw leoliad, gan gynnwys eu swyddfeydd yn Nhŷ Hywel neu yn y Senedd, fel yr ydw i ar hyn o bryd.
Diolch, Gomisiynydd. Mae'r ffaith ein bod yn dal i weithredu yn y Siambr ar hanner capasiti yn ddisynnwyr yn fy marn i. Rydym yn disgwyl i'n plant fynd i'r ysgol ac yn briodol felly am ei bod yn niweidiol dal ati i'w tynnu allan. Diolch i raglen frechu wych, rydym wedi effeithio'n ddifrifol ar allu'r feirws i achosi salwch difrifol a marwolaeth. Rydym i gyd wedi cael ein brechu'n llawn, felly beth yw'r risg? Gallwn gael pedwar o bobl mewn lifft, ac eto mae'r Siambr enfawr hon yn parhau i fod ar hanner capasiti. Fel Aelod newydd ac un sy'n cynrychioli etholaeth yng ngogledd Cymru, mae'n ddigalon i mi: treuliais bum awr a hanner yn teithio i lawr yr wythnos hon i dreulio hanner yr amser yn cyfrannu dros gyswllt fideo. Gomisiynydd, a wnewch chi weithio gyda'r Pwyllgor Busnes i sicrhau, i'r rhai sy'n dymuno hynny, y gall Aelodau gymryd rhan mewn Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgor yn y cnawd?
Mae'n unrhyw beth ond disynnwyr inni gymryd camau rhagofalus lle mae Aelodau'n teimlo y byddent yn elwa o'r mesurau rhagofalus hynny. Penderfynodd y Pwyllgor Busnes y byddai'n parhau ar ffurf hybrid a fyddai'n galluogi unrhyw Aelod sy'n dewis gweithio gartref, naill ai o ddewis neu oherwydd bod angen iddynt hunanynysu, barhau i wneud hynny, ac yna gwnaed penderfyniad dilynol gan y mwyafrif o'r pwyllgor eu bod yn teimlo, o ystyried hyd trafodion y Senedd, y byddai'n well cadw at bellter cymdeithasol o 1m. Felly, gall 30 o Aelodau gyfrannu yn y cnawd yn y Siambr. Ein lle ni fel gwleidyddion sy'n pasio'r cyfreithiau ar y coronafeirws yw sicrhau bob amser fod y modd rydym ni'n ymddwyn hefyd yn edrych ar fesurau rhagofalus, a sut y gallwn ni fel Aelodau yn y Siambr gadw ein gilydd mor ddiogel â phosibl, a thrwy hynny gadw'r bobl y down i gysylltiad â hwy mor ddiogel â phosibl hefyd. Ond byddwn yn parhau i adolygu'r materion hyn wrth gwrs, wrth i sefyllfa'r coronafeirws newid a gwella, gobeithio, o ble y mae ar hyn o bryd yng Nghymru.
Cwestiwn 2 [OQ56882], tynnwyd yn ôl. Cwestiwn 3, Joel James.