4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 22 Medi 2021.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd sylweddol mewn prisiau nwy a'r cynnydd cydamserol mewn prisiau ynni ar ddefnyddwyr Cymru? TQ565
Diolch, Delyth. Mae teuluoedd yng Nghymru yn wynebu storm berffaith o brisiau ynni uwch, rhewi'r lwfans tai lleol a chael gwared ar y cynnydd o £20 i'r credyd cynhwysol. Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r penderfyniadau hyn a diogelu aelwydydd rhag effeithiau a allai fod yn ddinistriol y gaeaf hwn.
Diolch, Weinidog, a diolch, Lywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol hwn. Mae'r argyfwng hwn yn fyd-eang ei natur wrth gwrs, ond mae'r DU mewn sefyllfa arbennig o beryglus oherwydd cronfeydd nwy anarferol o isel, colli'r rhyng-gysylltydd IFA, gan lesteirio ein gallu i fewnforio trydan o Ewrop, a chynhyrchiant ynni gwynt ar lefel is na'r arfer. Rydym yn gweld argyfwng yn digwydd o fewn llawer o argyfyngau rhyng-gysylltiedig ac fel y cytunwch rwy'n siŵr, ni ddylem dangyfrif maint yr argyfwng. Dywedodd pennaeth Ofgem heddiw wrth ASau fod y cynnydd mewn prisiau yn ddigynsail, a bod prisiau nwy eisoes chwe gwaith yn uwch na'r llynedd, ar ôl cynnydd o 70 y cant ym mis Awst yn unig. Roedd hefyd yn gwrth-ddweud y sicrwydd a roddodd Prif Weinidog y DU drwy ddweud nad yw'r broblem yn debygol o fod yn un dros dro. Ni waeth pa mor fyd-eang neu gymhleth yw achosion yr argyfwng, bydd yr effaith yn syml iawn a gallai fod yn ddinistriol i aelwydydd incwm isel.
Fel rydych wedi'i nodi, Weinidog, nid hyn yn unig sy'n mynd i effeithio arnynt. Bydd miloedd o deuluoedd yn gweld eu credyd cynhwysol yn cael ei dorri, byddant yn wynebu costau byw uwch, a biliau ynni uwch yn awr. Weinidog, mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud y bydd cwpl â dau o blant ar gredyd cynhwysol £130 y mis yn waeth eu byd erbyn mis Hydref, a bydd y bwlch yn y gyllideb yn cynyddu i £1,750 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r rhain yn bobl na all fforddio ergyd o'r fath. A allai'r Gweinidog ddweud wrthym beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi pobl sy'n wynebu'r caledi ariannol sydd ar fin digwydd? Rwy'n pryderu'n arbennig am bobl sy'n defnyddio mesuryddion rhagdalu a allai olygu bod eu cyflenwad yn cael ei dorri os na allant fforddio talu. Ac a wnaiff hi bwyso ar Weinidogion y DU ynglŷn â'r angen i gymryd camau ariannol ar unwaith i gefnogi'r teuluoedd hyn, fel y mae Sbaen, Ffrainc a'r Eidal eisoes wedi cyhoeddi?
At hynny, a allai'r Gweinidog ddweud wrthym a yw wedi cynnal trafodaethau gyda gwneuthurwyr dur Cymru a diwydiannau trwm eraill sy'n wynebu cynnydd yn eu costau, ac a yw wedi trosglwyddo eu pryderon i Lywodraeth y DU? Byddwn hefyd yn falch o glywed, Weinidog, am unrhyw gamau a gymerir i ddiogelu'r sector amaethyddol yn wyneb y prinder carbon deuocsid. Yn y cytundeb â Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd neithiwr, dim ond am bythefnos y cytunwyd i ailddechrau cynhyrchu, a gwn fod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi galw am sicrwydd ar unwaith.
Yn olaf, Weinidog, mae'r argyfwng yn cadarnhau pa mor bwysig yw hi ein bod yn newid i ynni mwy adnewyddadwy, ond gwn y bydd y cwestiynau a fydd ar flaen meddyliau pobl yn ymwneud â sut y gallwn gadw'r goleuadau ynghynn, a sut y caiff pobl eu bwydo a'u cadw'n gynnes. Rwy'n siŵr y bydd llawer yn gwrando ar atebion y Gweinidog gyda diddordeb brwd.
Diolch, Delyth. Wel, yn hollol. Rydym wedi gwneud nifer o bethau ers i'r argyfwng daro. Cytunaf yn llwyr â'ch dadansoddiad o'r effaith ar deuluoedd incwm is ac yn wir, ar nifer o'n busnesau, a busnesau amaethyddol yn enwedig.
Cyfarfûm â phrif weithredwr Ofgem ddoe ddiwethaf i drafod yr effeithiau ar ddefnyddwyr Cymru a busnesau Cymru yn sgil y cynnydd byd-eang ym mhrisiau nwy cyfanwerth a'r sgil-effaith ar gynhyrchiant carbon deuocsid—mae'n syndod ei fod yn sgil-effaith, ond dyna lle'r ydym. Gwyddom y bydd rhai cwmnïau ynni yn ceisio gwthio'r prisiau hyd at y cap, a bydd eraill yn anffodus yn mynd i'r wal, felly roeddem yn awyddus iawn i ddeall a oedd unrhyw un o'r rheini'n fusnesau yng Nghymru ac a oedd unrhyw beth y gallem ei wneud yn benodol i'w helpu. Roeddem hefyd yn awyddus iawn i ddeall, o ran parhad y cyflenwad, heb sôn am ei bris, a oedd gennym ddigon o gwmnïau mwy o faint a allai gymryd defnyddwyr yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cael cyflenwad gan gwmnïau sy'n debygol o fynd i'r wal yn y tymor byr iawn. Felly, rydym yn gweithio ar sicrwydd ynglŷn â hynny a sicrhau bod gennym y wybodaeth honno gan Ofgem fel y gallwn helpu i wneud i'r newid hwnnw ddigwydd.
Mae hynny cyn gofyn a all pobl dalu amdano. Mae hynny ddim ond i wneud yn siŵr bod y nwy'n dal i gael ei gyflenwi er mwyn iddynt allu coginio a gwresogi eu cartrefi. Rwyf wedi ysgrifennu at Ofgem yn dilyn y cyfarfod, yn gofyn am eu sicrwydd ysgrifenedig ynglŷn â pharhad y cyflenwad i ddefnyddwyr Cymru ac y caiff hawliau defnyddwyr eu diogelu. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol y DU ar yr angen i Lywodraeth y DU weithredu ar frys i reoli sefydlogrwydd y farchnad a chostau i ddefnyddwyr. Cyfarfûm â'r Ysgrifennydd Gwladol neithiwr—na, echnos, mae'n ddrwg gennyf. Mae'r cyfan wedi symud mor gyflym, prin y gallaf gofio. Mae'n ddydd Mercher. Nos Lun, cyfarfûm â'r Ysgrifennydd Gwladol, dim ond i gael rhyw fath o gyfarfod brys am yr hyn y gellid ei wneud, ac wedi hynny mae ein swyddogion wedi bod mewn cysylltiad drwy'r dydd ddoe a heddiw, ac mae'n siŵr y bydd cyfarfod gweinidogol arall rywbryd yr wythnos hon, a byddaf i neu Lesley Griffiths yn bresennol. Gwneuthum y pwynt yn rymus yn y cyfarfod hwnnw nad mater o gyflenwad yn unig oedd hyn, fod hyn yn ymwneud â fforddiadwyedd, a bod gennym storm berffaith o bolisïau Ceidwadol i gyd yn taro ar unwaith.
Rydym yn wynebu dileu'r credyd cynhwysol o £20, y teimlai Thérèse Coffey y gallai pobl weithio dwy awr i'w adfer, sy'n dangos pa mor allan o gysylltiad ydynt. Mae'n siŵr bod un neu ddau o bobl yn y wlad lle mae hynny'n wir amdanynt, ond mae'r rhan fwyaf o bobl eisoes yn defnyddio eu holl lwfansau ymhell y tu hwnt i'r cap lle daw'r tapr yn weithredol. Felly, mae'n dangos anallu llwyr i ddeall y sefyllfa, hyd y gwelaf i. Mae Gweinidog yr Economi, y Gweinidog cyllid a minnau yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i dynnu sylw at ein pryderon ynglŷn â phrisiau cynyddol, yr effaith ar gyllidebau ac yn y blaen. Delyth, fe dynnoch chi sylw'n gwbl briodol at yr effaith bosibl ar nifer o fusnesau—busnesau amaethyddol, ffermwyr ac yn y blaen. Ceir effaith hefyd ar wasanaethau cyhoeddus, wrth gwrs, oherwydd nid yn unig y bydd yr yswiriant gwladol yn codi, ond bellach mae ganddynt brisiau nwy uwch i redeg systemau gwresogi ysbytai, systemau gwresogi ysgolion ac yn y blaen. Felly, mae hon yn ergyd fawr ar draws yr economi gyfan, mewn gwirionedd.
Rydych yn llygad eich lle yn dweud beth yw'r modelu ar gyfer yr effaith ar deuluoedd gyda'r costau nwy a thrydan cynyddol—tua £3 yr wythnos, a chostau byw tua £8 yr wythnos yn uwch ar ben y toriad o £20 yr wythnos i'r credyd cynhwysol, felly tua £130 yn waeth eu byd o fis Hydref ymlaen. Heb ymyrraeth gennym ni, mae honno'n ergyd fawr iawn i incwm pobl. Felly, rydym o ddifrif yn defnyddio ein dulliau gweithredu mor gyflym ag y gallwn yng Nghymru. Mae gennym ein rhaglen Cartrefi Clyd sy'n cefnogi teuluoedd incwm is; mae ychydig o dan 62,000 o aelwydydd yn elwa o arbediad o tua £280 ar eu biliau blynyddol drwy'r rhaglen honno. Rydym hefyd yn parhau i ddarparu'r holl hyblygrwydd a ychwanegwyd gennym at y gronfa cymorth dewisol y gaeaf hwn, gan gynnwys ailgyflwyno cymorth tanwydd i gleientiaid oddi ar y grid—felly, y bobl sy'n defnyddio olew hefyd, oherwydd mae pris olew hefyd yn codi.
Rydym hefyd wedi buddsoddi £25.4 miliwn ychwanegol yn y gronfa cymorth dewisol i ganiatáu i bobl sy'n dioddef caledi ariannol eithafol gael taliadau argyfwng. Nid ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer talu treuliau parhaus, ond treuliau argyfwng mawr, ond os nad oes unrhyw ffordd arall y gallant dalu am gostau byw uniongyrchol, byddwn yn ceisio ystwytho'r pethau hynny hefyd. Mae gennym nifer o bethau eraill y gallwn fanylu arnynt, ac fe fyddwch yn gyfarwydd â hwy, megis taliadau disgresiwn at gostau tai yr ydym yn dal i ychwanegu atynt ar gyfer awdurdodau lleol ac yn y blaen. Felly, rwy'n eich sicrhau ein bod yn effro iawn i'r materion a godwch. Rydym yn cytuno'n llwyr â chi ynghylch yr effaith, ac rydym yn edrych ar ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym i sicrhau yr effeithir cyn lleied â phosibl ar bobl yn sgil y ffordd warthus y mae'r polisïau Torïaidd creulon hyn wedi taro ar yr un pryd.
Mae mesuryddion rhagdalu ymhlith y pethau mwyaf creulon gan nad yw pobl yn rhoi eu gwres ymlaen am nad oes arian ganddynt i roi'r gwres ymlaen. Nid yw'n dangos eu bod wedi'u torri i ffwrdd; ond nid oes ganddynt unrhyw wres. A chredaf, weithiau, fod hynny'n cael ei dangyfrif, ond bydd pobl yn mynd yn oer heno.
Fel chi, Ddirprwy Lywydd, mae gennyf bryder difrifol am y diwydiant dur. Yn y diwydiant dur, un o'r costau mawr yw cost ynni, ac wrth i'r gost honno godi, nid yw pris dur yn codi mor gyflym, ac mae hynny'n rhoi pwysau ar y diwydiant dur, nid yn unig yn eich etholaeth, ond mewn etholaethau eraill ledled Cymru, lle mae llawer o fy etholwyr yn gweithio.
Ond yr hyn yr hoffwn ei ofyn yw: beth yw cost amcangyfrifedig y cynnydd mewn prisiau ynni i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, a pha gyllid ychwanegol a roddir gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau'r sector cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru i helpu i dalu'r gost ychwanegol hon? Ac wrth hynny rwy'n golygu, i bob pwrpas, y gwasanaeth iechyd a llywodraeth leol yn bennaf.
Diolch, Mike. Rwy'n cytuno â'ch asesiad o fesuryddion rhagdalu. Rhan o'r sgwrs gydag Ofgem—roedd gennyf gyfarfod â hwy eisoes wedi'i drefnu yn y dyddiadur, ac rwyf wedi cael cyfarfod ychwanegol hefyd—rhan o'r cyfarfod a drefnwyd gydag Ofgem yw trafod sefyllfa pobl ar fesuryddion rhagdalu a'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau eu bod yn cofrestru fel pobl heb wasanaeth, a sut y gallwn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar fath gwell o dariff. Mae hwnnw'n fater parhaus.
O ran y diwydiant dur, a diwydiannau eraill yr effeithir arnynt ledled Cymru, mae hynny'n rhan o'r sgwrs barhaus ag Ofgem. Mae nifer o Weinidogion, nid fi yn unig, bellach mewn trafodaethau ar draws amryw sectorau i ddarganfod beth yn union yw'r effaith. Mae pris nwy bum gwaith yn uwch, fel y dywedodd Delyth yn ei sylwadau agoriadol, felly mae hynny'n golygu biliau bum gwaith yn uwch yn y tymor byr. Byddwn yn gweithio ar draws y sector cyhoeddus i ddeall effaith hyn a'r cynnydd mewn yswiriant gwladol a nifer o bethau eraill a fydd yn effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym hefyd wedi gwneud y pwynt yn gadarn i Lywodraeth y DU, drwy fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, fod angen ystyried y pethau hyn yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, ac yna, y dyraniad i Gymru, gan nad yw'r materion hyn am ddiflannu, yn amlwg. Yn bersonol, gwneuthum y pwynt i'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyfarfod nos Lun nad yw aros i'r farchnad ailalinio'i hun, fel y dywedodd, yn golygu carbon deuocsid drutach yn unig. Mae'n golygu y bydd popeth yn ddrutach, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus, a bod angen i'r Llywodraeth ystyried hynny wrth ddibynnu ar y farchnad, sy'n eithaf syfrdanol, yn fy marn i, i ddatrys y mathau hyn o broblemau cynaliadwyedd.
Mae hwn, wrth gwrs, yn fater pwysig iawn i bobl ledled y DU gyfan, ac rwy'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd yn awr. Yn hanfodol, rwy'n croesawu'r ffaith y bydd cap ynni Llywodraeth y DU yn parhau i fod ar waith, gan barhau i ddiogelu'r rhai sydd ei angen fwyaf. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn ystyried cynnig benthyciadau brys gyda chefnogaeth y wladwriaeth i gwmnïau ynni i'w hannog i gymryd cwsmeriaid gan unrhyw gwmnïau a allai fethu ddefnyddwyr, yn anffodus. Fodd bynnag, ni waeth beth yw'r problemau cyfredol hyn sy'n ein hwynebu, mae tlodi tanwydd yn dal i fod yn fater parhaus yng Nghymru, ac mae'n amlwg fod angen gwneud mwy i fynd i'r afael ag ef.
Felly, a wnaiff y Gweinidog ystyried defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddi i lacio'r rheolau ynghylch y taliad cymorth mewn argyfwng, er mwyn sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gael i'r rheini sydd ei angen dros y misoedd nesaf, yn enwedig y rheini na fyddent fel arfer yn gymwys i gael cymorth? Yn ogystal â hyn, mae'r cynnydd ym mhris nwy yn effeithio ar gynhyrchwyr bwyd, archfarchnadoedd a diwydiannau allweddol eraill sy'n dibynnu ar gyflenwad sefydlog o garbon deuocsid ar gyfer cynhyrchu bwyd. Felly, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, wel, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymuno â mi i groesawu'r newyddion fod Llywodraeth y DU bellach wedi arwyddo trefniant i ddarparu cymorth ariannol i CF Fertilizers UK Ltd, sy'n cynhyrchu oddeutu 60 y cant o garbon deuocsid y DU.
Felly, gyda hynny mewn golwg, pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i ddarparu cymorth i fusnesau yn y diwydiant bwyd er mwyn sicrhau bod bwyd Cymru yn parhau i gael ei gynhyrchu? Diolch.
Wel, mae'n rhaid imi ddweud, Janet, rwy'n edmygu'r wyneb sydd gennych yn gofyn y cwestiwn i mi yng ngoleuni'r cyfuniad o bolisïau Ceidwadol sydd wedi achosi'r sefyllfa hon. Mae'n wir fod Llywodraeth y DU wedi taro bargen gyda'r cwmni. Mae'n para am bythefnos. Ar ôl hynny, maent yn disgwyl i'r prisiau godi a'r farchnad i ddatrys y sefyllfa. Dyna mae'n ei olygu, 'Bydd y marchnadoedd yn datrys y sefyllfa': y prisiau'n codi. Felly, nid ydynt wedi gwneud unrhyw beth a fydd yn cael unrhyw effaith barhaol o gwbl.
Wrth gwrs, byddwn yn defnyddio'r holl ysgogiadau sydd gennym i liniaru'r effaith ar ddefnyddwyr a diwydiannau ledled Cymru, ond mae'r effaith honno'n fwy o lawer yn sgil y newidiadau i gredyd cynhwysol, rhewi'r lwfans tai lleol, cynyddu yswiriant cenedlaethol ac ati. Felly, y peth lleiaf y gallech ei wneud, Janet, yw erfyn ar eich Llywodraeth i sicrhau eu bod, fel rhan o'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, yn ystyried effaith eu polisïau ar allu'r Llywodraeth hon i ddiogelu ei phobl a'i diwydiannau. Ac rwy'n meddwl o ddifrif fod gennych wyneb yn gofyn i mi beth y bwriadwn ei wneud yng ngoleuni'r polisïau yr ydych chi, rwy'n cymryd, yn eu cefnogi sy'n dinistrio incwm busnesau a theuluoedd incwm isel ledled Cymru.
Diolch, Weinidog.