Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig y prynhawn yma yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. A gaf fi, ar ddechrau'r ddadl hon, ddiolch yn gyntaf oll i barafeddygon a staff ambiwlans am eu gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig? Gwn fy mod yn siarad ar ran fy holl gyd-Aelodau Ceidwadol, ond gwn y bydd Aelodau o bob rhan o’r Siambr yn cytuno ein bod yn diolch o galon i’n staff ambiwlans a'n parafeddygon am yr holl waith a wnânt mewn amgylchiadau anodd a heriol iawn.