6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amseroedd ymateb ambiwlansys

– Senedd Cymru ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths, a gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:49, 22 Medi 2021

Yr eitem nesaf yw eitem 6, dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar amseroedd ymateb ambiwlansys. Galwaf ar Russell George i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7779 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o wyth munud ym mis Gorffennaf 2021.

2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oddi tano gydag amseroedd trosglwyddo gofal cynyddol o hyd at 18 awr.

3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn amgylchiadau mor heriol.

4. Yn cydnabod y pwysau mewn gofal cymdeithasol a sylfaenol a'r sgil-effeithiau ar y gwasanaeth ambiwlans.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datgan argyfwng yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru.

b) cyflwyno cynllun cynhwysfawr i wella amseroedd ymateb ambiwlansys, gan gynnwys camau i:

i) sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol digonol;

ii) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb; a

iii) cynyddu capasiti gwelyau mewn ysbytai.

c) nodi cynllun ac amserlen glir ar gyfer codi cyflog gweithwyr gofal ledled Cymru.

d) ystyried defnyddio cefnogaeth Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys.

e) ymdrechu'n galetach i recriwtio parafeddygon yn gyflym.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:49, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig y prynhawn yma yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. A gaf fi, ar ddechrau'r ddadl hon, ddiolch yn gyntaf oll i barafeddygon a staff ambiwlans am eu gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig? Gwn fy mod yn siarad ar ran fy holl gyd-Aelodau Ceidwadol, ond gwn y bydd Aelodau o bob rhan o’r Siambr yn cytuno ein bod yn diolch o galon i’n staff ambiwlans a'n parafeddygon am yr holl waith a wnânt mewn amgylchiadau anodd a heriol iawn.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:50, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Mae ein dadl heddiw wedi'i gosod yn y ffordd honno. Mae'n ymwneud â chymorth i'r gwasanaeth ambiwlans a sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt gan Lywodraeth Cymru. Ond nid oes dwywaith amdani: mae'r gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng. Nid yw bron â bod mewn argyfwng. Mae mewn argyfwng yn awr, ac mae wedi bod mewn argyfwng ers rhai misoedd. Mae arnom angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i gefnogi’r gwasanaeth ambiwlans a hefyd i sicrhau bod pobl Cymru yn cael y gwasanaeth ambiwlans sydd ei angen arnynt ac y maent yn ei haeddu.

Nawr, credaf fod angen i'r Llywodraeth dderbyn yn gyntaf oll fod y gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng. Ni allwch ddatrys problem oni bai eich bod yn derbyn bod problem yn bodoli. Nawr, rwy'n gobeithio y bydd y Siambr hon yn gwybod nad wyf yn rhywun sy'n taflu datganiadau a geiriau o gwmpas yn ddiofal; rwy'n dewis fy ngeiriau'n ofalus. Felly, rwy’n glynu wrth hynny: mae’r gwasanaeth ambiwlans mewn argyfwng.

Yn fy achos i, mewn mater yn fy etholaeth, yn ddiweddar, gofynnodd y gwasanaeth ambiwlans i etholwr fynd ag aelod o'u teulu yr amheuid eu bod wedi cael trawiad ar y galon i'r ysbyty eu hunain. Nawr, rwy'n dweud ein bod wedi bod mewn argyfwng nid yn unig nawr, ond ers rhai misoedd, ac rwy’n glynu wrth hynny. Oherwydd ym mis Gorffennaf eleni, gwyddom fod 400 o bobl ledled Cymru wedi aros am fwy na 12 awr am ambiwlans—cannoedd o bobl yn aros am fwy na 12 awr am ambiwlans. Yn y gorffennol, yn y Siambr hon, efallai ein bod wedi dwyn achosion i sylw Gweinidogion, ac efallai fod Gweinidogion wedi dweud, 'Anfonwch yr enghreifftiau ataf.' Rydym wedi mynd y tu hwnt i hynny. Mae'r rhain yn enghreifftiau sy'n digwydd bob dydd ledled Cymru, yn anffodus.

Nawr, bûm yn siarad â'r Gymdeithas Strôc yn gynharach heddiw, ac roeddent yn trafod ffigurau diweddaraf rhaglen archwilio genedlaethol y sentinel strôc. Nid yw'r Alban yn aelod o'r rhaglen, felly nid oes cymhariaeth i'w chael yno. Gwyddom pa mor hollbwysig—gwyddom pa mor hanfodol—yw sicrhau eich bod, o gychwyn cyntaf symptomau strôc, yn mynd i'r ysbyty. Nawr, dywed y ffigurau diweddaraf wrthym—. Ac mae hyn rhwng dechrau'r symptomau ac nid yn unig cyrraedd yr ysbyty, ond cyrraedd y cyfleuster cywir, felly nid yw hyn yn ymwneud yn unig â'r gwasanaeth ambiwlans; mae hyn yn cwmpasu rhai o'r materion ehangach. O ddechrau'r symptomau i gyrraedd y lle priodol yn yr ysbyty, yn Lloegr, dengys y ffigurau diweddaraf mai'r amser yw tair awr, 25 munud; yng Ngogledd Iwerddon, mae'n dair awr, 23 munud; ac yng Nghymru, mae'n bum awr, 17 munud. Nawr, rwy'n croesawu'r datganiad ansawdd ar gyfer strôc gan y Llywodraeth heddiw. Fodd bynnag, mae datganiad y Llywodraeth ei hun heddiw'n pwysleisio'r angen am driniaeth gyflym ar gyfer strôc—ond nid yw'n digwydd.

Roedd fy nghyd-Aelod Paul Davies yn amlinellu ei bryderon yn ystod y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe ynglŷn â'r argymhelliad i leihau nifer yr ambiwlansys yn sir Benfro. Nid yw lleihau nifer yr ambiwlansys yn rhywbeth y dylid ei drafod neu ei ddadlau ar hyn o bryd. Nid yw'n briodol, a ninnau yn y sefyllfa rydym ynddi. Nawr, gwrthododd y Prif Weinidog sylwadau Paul Davies ddoe, ond roedd Paul Davies yn ailadrodd sylwadau a roddwyd iddo gan etholwyr, gan staff y gwasanaeth ambiwlans ar y rheng flaen.

Nawr, ar y gwelliannau heddiw, byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru. Rydym yn cytuno, wrth gwrs, fod integreiddio gwasanaethau yn bwysig, ac rydym wrth gwrs yn cytuno â'r staff ychwanegol sydd eu hangen yn y GIG. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw. Rwy'n siomedig. Mae'n siomedig mai cynnig 'dileu popeth' ydyw.

Nawr, mae ein cynnig heddiw'n nodi ein diolch i'n parafeddygon a'n staff ambiwlans, ac mae'n nodi nifer o ffeithiau ynglŷn â'n sefyllfa ar hyn o bryd, ac ni chredaf y bydd y Llywodraeth yn eu gwadu—os felly, gadewch i ni eu clywed heddiw. Felly, pam na allai'r Llywodraeth fod wedi cefnogi ein cynnig fel y'i cyflwynwyd heddiw?

Fel gwrthblaid, hoffem gyflwyno rhai awgrymiadau adeiladol i'r Llywodraeth heddiw. Rydym wedi gwneud hynny yn ein cynnig. Mae angen mynd i'r afael â phroblemau tymor byr a hirdymor. Felly, yn gyntaf oll, y defnydd o luoedd arfog Ei Mawrhydi i helpu i gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans—rwy'n falch ein bod wedi awgrymu hyn yn ein cynnig yr wythnos diwethaf, ac mae hynny wedi'i gyflwyno. Mae'r Llywodraeth wedi gwneud y cais hwnnw, felly rwy'n falch mai dyna'r sefyllfa. Ond ni chredaf y dylai unrhyw un fod o dan unrhyw gamargraff y bydd y weithred hon yn datrys y problemau a wynebwn yn y gwasanaeth ambiwlans, oherwydd, wrth gwrs, ni fydd yn gwneud hynny. Mae angen camau eraill hefyd. Yn gyntaf oll, mae angen inni wella mynediad at apwyntiadau gofal sylfaenol a newid y canllawiau cyfredol i frysbennu dros y ffôn. Yn ail, mae angen inni ddyblu ein hymdrechion i recriwtio parafeddygon yn gyflym, a gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi 136 o recriwtiaid newydd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ac mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi ymrwymo i 127 arall eleni hefyd. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r pwysau sydd ar y ffordd dros y gaeaf, ac nid ydym wedi cael datganiad eto ar bwysau'r gaeaf, mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth fel y gellir recriwtio'n gyflym i lenwi unrhyw fylchau posibl. Yn drydydd, mae angen inni annog aelodau'r cyhoedd a chyn-weithwyr gofal iechyd proffesiynol i ymuno â'u timau GIG lleol. Yn bedwerydd, mae angen inni sefydlu llwybrau cymorth ar gyfer staff y GIG, gweithwyr gofal a theuluoedd sydd wedi dioddef trawma'r pandemig. Ac yn bumed, mae angen inni nodi cynllun ac amserlen i godi cyflogau gweithwyr gofal, fel yr oedd ein maniffesto yn gynharach eleni hefyd yn galw amdano.

Wedyn, ceir nifer o gynlluniau tymor canolig a hirdymor y bydd gofyn mynd i'r afael â hwy yn ogystal: mae angen inni ganolbwyntio ar yr amser cyn cael triniaeth i gleifion, mae angen inni ddatblygu cynllun clir fel y gall GIG Cymru ymdrin â'r ôl-groniad ar y rhestr aros, sydd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig, gan ddefnyddio cyfleusterau trawsffiniol ac annibynnol yn ogystal â hybiau sy'n rhydd o COVID i gyflymu triniaethau. Mae angen inni sefydlu clinigau COVID hir i gefnogi pobl sy'n dioddef effeithiau hirdymor COVID, ac mae angen inni adeiladu ar y cynllun 10 mlynedd a'r cynllun gweithlu gofal cymdeithasol i gyflwyno cynllun ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd. Mae angen inni ehangu rôl therapyddion galwedigaethol fel rhan o'r gofal cofleidiol i gynnal annibyniaeth cleifion. Mae angen inni hyrwyddo byw'n annibynnol, gan gynnig hunanasesiadau ar-lein i gefnogi'r broses o nodi anghenion cymorth yn gynnar, ac mae angen inni sefydlu cronfa ar gyfer arloesi ym maes gofal i hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng y GIG a gofal cymdeithasol.

Rwy'n cymeradwyo ein cynllun i’r Senedd heddiw, a galwaf ar yr holl Aelodau o'r Senedd i gefnogi ein cynnig heddiw fel y’i cyflwynwyd. Diolch yn fawr.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:57, 22 Medi 2021

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Galwaf ar y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi, yng nghyd-destun lefelau digynsail o alw, fod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021.

2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol ar yr holl wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r ystod o heriau cenedlaethol a lleol sy’n effeithio ar lif cleifion.

3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a holl staff gwasanaethau iechyd a gofal mewn amgylchiadau mor heriol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod y camau a nodir yng nghynllun cyflawni Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cael eu cyflawni’n gyflym ac yn bwrpasol;

b) cefnogi ystod o fentrau i helpu i recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol a rhoi cymorth i gyflogwyr gofal cymdeithasol;

c) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb pan yn glinigol briodol;

d) gwireddu ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal;

e) parhau i gydweithio â Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys; a

f) ymdrechu'n galetach i recriwtio clinigwyr ambiwlans yn gyflym.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of David Rees David Rees Labour

Galwaf ar Mabon ap Gwynfor i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5:

Integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal yn wirioneddol ar lefel genedlaethol;

Hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff ychwanegol i'r GIG, gan gynnwys meddygon, nyrsys a gweithwyr proffesiynol perthynol eraill ym maes iechyd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 3:57, 22 Medi 2021

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n cynnig y gwelliant yn enw Siân Gwenllian yn ffurfiol. Dwi'n siŵr bod mewnflychau pob un yma heddiw yn cynnwys nifer o enghreifftiau o ddioddefaint pobl yn ein cymunedau oherwydd eu bod nhw'n gorfod aros am ambiwlans. Er enghraifft, bu'n rhaid i etholwraig i mi yn Abererch aros am 15 awr am ambiwlans, a hithau mewn llewyg a'r teulu'n poeni am ei bywyd. Neu, beth am ochr y staff, sydd yn aml yn gorfod teithio pellteroedd maith ar hyd a lled y wlad oherwydd nad oes yna ambiwlans ar gael gerllaw? Ar ben hyn, wrth gwrs, mae yna bryderon bod yna gwtogi ar wasanaethau ambiwlansys am fod mewn rhai ardaloedd, fel yn Aberystwyth ac Aberteifi, fel y clywson ni yn ddiweddar.

Ond pam mae hyn yn digwydd? Yn sicr nid bai staff y gwasanaeth ambiwlans ydy o, sy'n cael eu hymestyn y tu hwnt i bob rheswm. Yn wir, mae'n symptom o broblem ddyfnach. Gadewch i ni ddilyn taith y claf. Mae'r claf yn mynd i mewn i'r ambiwlans, ar ôl aros am oriau lawer amdano fo, yn ciwio y tu allan i'r ysbyty am oriau, weithiau y tu ôl i ddwsin neu ragor o ambiwlansys eraill. Yna, ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, a gwella'n ddigonol i fynd yn ôl yn y gymuned, yn hytrach, yn lle mynd i’r gymuned, maen nhw’n methu â rhyddhau o neu hi oherwydd nad oes yna wely cymunedol neu nad oes yna ofalwr cymdeithasol ar eu cyfer nhw. Mae’n un argyfwng ar ben y llall, sy’n deillio o’r ffaith bod yna brinder hanesyddol wedi bod mewn recriwtio, cynnal a rhoi tâl teg i staff ein gwasanaeth iechyd. Wrth gwrs, buasai'n wych gweld mwy o ambiwlansys a pharafeddygon ar gael i ymateb ar y rheng flaen, ond dwi'n ofni mai'r unig beth y buasai hyn yn ei wneud ydy ychwanegu at y ciwiau o ambiwlansys y tu allan i adrannau brys, oherwydd mae angen edrych i fyny'r system i weld beth sydd yn llethu'r system.

Yn ôl yn 2012, gwelwyd nifer o newidiadau sylweddol i wasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Yn y gogledd, cyflwynwyd rhaglen a alwyd 'Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid', a chafodd hon ei sancsiynu gan y Llywodraeth Lafur ar y pryd, ac arweiniodd yn ei dro at gau nifer o ysbytai cymunedol fel Blaenau Ffestiniog, Llangollen a'r Fflint, gan ganoli ac israddio rhai o'n gwasanaethau, gyda'r addewid y byddai mwy o ofal yn y gymuned. Do, fe newidiodd gwasanaethau iechyd yn y gogledd ac ar draws Cymru, ond nid bob tro er gwell. Hwn heddiw, y drafodaeth yma heddiw, ydy canlyniad y newidiadau hynny.

Er mwyn medru cynnal gwasanaeth iechyd effeithiol a chynaliadwy, mae angen capasiti sbâr o welyau arnom ni. Nid fi sy'n dweud hyn ond yr arbenigwyr. Dyma ddywedodd y BMA wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn 2016, a dwi am ddyfynnu yn Saesneg:

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:00, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

'Pan fydd mwy na 85 y cant o welyau mewn defnydd, gallwch ragweld na allwch ymdopi ag amrywiadau. Mae angen tua 20 y cant o welyau dros ben arnoch i ymdopi â'r math o amrywiadau yr ydym yn sôn amdanynt. Pan fydd gennych 86 neu 87 y cant o welyau mewn defnydd, rydych yn dechrau gweld oedi wrth ryddhau cleifion hefyd.'

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:01, 22 Medi 2021

A dyna rydyn ni'n ei weld heddiw.

Nôl ym 1989, roedd bron i 20,000 o welyau ysbyty yng Nghymru yn gweithio ar gapasiti o tua 77 y cant. Erbyn heddiw, mae'r niferoedd wedi'u haneru i tua 10,000 o welyau ac yn gweithio ar gapasiti o 87 y cant, yn gyson dros y 10 mlynedd diwethaf. Ac, wrth gwrs, mae'r pandemig yma wedi gwneud pethau llawer iawn yn waeth. Caewyd nifer o'r ysbytai cymunedol oherwydd methiant i gynnal y gwelyau efo'r nifer angenrheidiol o nyrsys, sy'n dod â ni nôl at y gwendid sylfaenol yn y system iechyd eilradd: mae prinder staff yn arwain at system sy'n gwegian, fel rydyn ni'n ei weld heddiw. Gyda phoblogaeth yn heneiddio, gweithlu blinedig ac oedi mewn diagnostig a thriniaethau oherwydd y pandemig, mae angen mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar Gymru yn fwy nag erioed.

Felly, beth allwn ni ei wneud? Yr ateb cyntaf, wrth gwrs, ydy buddsoddi yn ataliol mewn gwasanaethau i gadw pobl yn iach ac allan o'r ysbyty yn y lle cyntaf. Ond y prif bethau sy'n peri imi droi at ein gwelliannau ni a fydd yn cryfhau sylfaen ein system iechyd ydy'r angen i integreiddio gwasanaethau iechyd a hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff ychwanegol. A dwi'n diolch i Russell George am ddatgan y bydd ei blaid o yn cefnogi'r gwelliant.

O ran y gwasanaeth iechyd a gofal, mae angen cymryd camau i gynllunio'r gweithlu, gan gynnwys denu a chadw ymarferwyr a gosod staff gofal cymdeithasol ar gyflogau'r gwasanaeth iechyd. Dylid lansio adolygiad cenedlaethol i sefydlu safonau gofal gofynnol mewn cartrefi gofal, ac mae angen ymrwymiad i gynllunio ar unwaith ar gyfer diddymu taliadau gofal cymdeithasol. Mae angen recriwtio 6,000 o staff newydd, fel y soniais i, ac mae angen datblygu cynllun pum mlynedd sy'n cynnwys cymelliadau i feddygon teulu, creu mwy o swyddi meddygon teulu, creu strategaeth cadw a chefnogi nyrsys, a buddsoddi yn ein hysgolion meddygol.

Mae'n deg i ddweud ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi ein gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy nag erioed o'r blaen. Rydyn ni'n gweld drosom ni ein hunain anhunanoldeb y staff sydd wedi mynd yr ail filltir ddydd ar ôl dydd i'n cadw'n ddiogel, i achub bywydau ac i ofalu am y rhai mwyaf bregus yn ein cymuned. Ond rydyn ni hefyd yn gweld eiddilwch a diffyg gallu'r gwasanaethau hynny, y diffyg buddsoddiad a arweiniodd at orddibyniaeth—

Photo of David Rees David Rees Labour 4:03, 22 Medi 2021

A all yr Aelod ddod at gasgliad nawr, os gwelwch yn dda?

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

—ar ewyllys da ac ymroddiad llwyr y gweithlu iechyd a gofal. Mae'n ddyletswydd felly arnon ni nawr i leddfu'r pwysau ac i'w had-dalu am eu hymrwymiad yn awr eu hangen. A phan dwi'n dweud 'ad-dalu', dwi'n golygu mwy na sefyll o flaen camerâu a chlapio. Wrth wneud hyn, bydd yr effeithiau positif i'w gweld ym mhob cwr o'r gwasanaethau iechyd a gofal, gan gynnwys ein gwasanaethau ambiwlans hollbwysig. Diolch yn fawr.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Fel y gŵyr Aelodau a oedd yn bresennol yn y Senedd ddiwethaf, anaml iawn y byddwn yn siarad mewn dadleuon iechyd. Yn ffodus, am y tro cyntaf ers imi gael fy ethol, mae gennym Weinidog iechyd yr wyf yn hyderus y bydd yn mynd i'r afael â'r problemau.

Rwyf hefyd yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff ambiwlans Cymru mewn amgylchiadau heriol tu hwnt. Rwyf hefyd yn derbyn y pwysau aruthrol sydd ar wasanaeth ambiwlans Cymru, gydag amseroedd trosglwyddo gofal cynyddol. Fel llawer o Aelodau, mae perthnasau dig wedi cysylltu â mi ynglŷn ag achosion lle methodd ambiwlansys ymateb. Dywedwyd wrth un etholwr yr amheuid ei fod wedi cael trawiad ar y galon i gael tacsi. Cafodd etholwr arall, mewn cwis tafarn, yr hyn yr amheuid ei bod yn strôc. Nid oedd ambiwlans ar gael; aeth perchennog y dafarn ag ef i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Hynny yw, ai lwc ddrwg yw hi mai'r ddau ddarparwr iechyd sydd wedi darparu'r gwasanaeth gwaethaf dros nifer o flynyddoedd yw gwasanaeth ambiwlans Cymru a Betsi Cadwaladr, sef y ddau ddarparwr uniongyrchol mwyaf yn ddaearyddol?

Bydd darparu mwy o ambiwlansys neu gael y fyddin i gyfrannu, fel y cynigiwyd, yn cynyddu nifer y cleifion sy'n aros y tu allan. Hynny yw, mae gennych bum ambiwlans arall wedyn, mae gennych bum ambiwlans arall yn aros y tu allan. Y dagfa weladwy yn y system yw'r adran ddamweiniau ac achosion brys, a symptom o hyn yw'r ambiwlansys sy'n ciwio y tu allan, nid yr achos.

Mae gormod o bobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys pan nad yw eu hangen meddygol yn ddamwain nac yn argyfwng. Pam y gwnânt hynny? Oherwydd mai dyma'r unig le y gallwch warantu y byddwch yn gweld meddyg. Felly, ar ôl sawl diwrnod o fethu gweld eu meddyg teulu, mae cleifion yn mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys i aros mewn ciw hir, ond fe wyddant y bydd meddyg yn eu gweld ar ben draw'r ciw hir hwnnw. Hefyd, mae meddygon mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn wrth risg, ac yn hytrach nag anfon cleifion adref a dweud wrthynt am ofyn am gymorth meddygol os byddant yn gwaethygu, maent yn eu cadw i mewn i gadw llygad arnynt am 24 awr. Un o'r problemau gyda gwelyau'n cael eu defnyddio yw bod pobl yn cael eu cadw i mewn, er mwyn cadw llygad arnynt cyn eu rhyddhau. Faint o gleifion sydd wedi treulio 24 awr yn yr ysbyty dan oruchwyliaeth cyn cael eu hanfon adref?

Un cynnig a roddais yn breifat i'r Gweinidog yn flaenorol yw bod meddygon teulu y tu allan i oriau ym mhob adran ddamweiniau ac achosion brys i helpu—

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:05, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Mike. Oni fyddech yn cytuno â mi fod yna argyfwng yn ein sector gofal cymdeithasol hefyd, lle nad oes digon o welyau gofal cymdeithasol, felly mae gwelyau'n cael eu defnyddio gan bobl sy'n ysu am gael mynd adref neu fynd i ofal cymdeithasol priodol, ac mae hynny'n gwneud y sefyllfa'n waeth?

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:06, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno â chi'n llwyr. Dim ond pum munud sydd gennyf, felly nid wyf am fynd i'r afael â gofal cymdeithasol; rwyf am gadw at ysbytai, adrannau damweiniau ac achosion brys ac iechyd. Ond, ydw, rwy'n cytuno'n llwyr. 

Er mwyn helpu i ymdrin â chleifion, dylid rhoi'r gwaith o asesu cleifion wrth iddynt gyrraedd i'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau, iddynt hwy benderfynu ym mha drefn y dylid eu trin ac ymdrin ag argyfyngau nad ydynt yn rhai meddygol. Ac nid cwyn am feddygon teulu yn gyffredinol yw hyn gyda llaw. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gweithio'n eithriadol o galed ac yn gweld mwy a mwy o gleifion. Maent yn gweithio'n uwch na'u capasiti mewn sawl man. Y broblem yw mai'r person cyntaf y daw claf i gysylltiad â hwy yn eu meddygfa yw'r derbynnydd, sydd fel arfer heb unrhyw hyfforddiant meddygol o gwbl, ac nid ydynt ond yn casglu ceisiadau cleifion ac yn trefnu slot meddyg ar eu cyfer nes bod pob slot yn llawn. Amcangyfrifodd un meddyg teulu fod 10 y cant o'u hapwyntiadau bob dydd ar gyfer cyngor a thriniaeth ar gyfer anhwylderau cyffredin; nododd un arall fod meddygon teulu yn pryderu eu bod yn treulio cyfran sylweddol o'u hamser yn trin anhwylderau a chyflyrau cyffredin fel annwyd a'r ffliw. Awgrym arall rwyf wedi'i wneud i'r Gweinidog yn y gorffennol yw hyfforddi derbynyddion i lefel parafeddygon. Gallent frysbennu cleifion wedyn i'r fferyllfa leol, at y meddyg teulu ar frys, at y meddyg teulu heb fod brys, neu i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad yw pobl yn dibynnu ar ryw fath o lwc dda neu lwc ddrwg wrth ffonio'r meddyg teulu: 'Chi oedd Rhif 41. Efallai eich bod yn ddifrifol wael, ond ni all y meddyg teulu eich gweld.' Nid oes a wnelo hynny ddim â meddygon teulu; maent yn eistedd yno yn aros i ymdrin â phobl, ond os mai chi yw Rhif 41, ni chewch eich gweld, os mai chi yw Rhif 40, fe gewch eich gweld, ac efallai mai dim ond annwyd neu beswch neu rywbeth y gallai'r fferyllfa ymdrin ag ef yn hawdd fydd gan y deugeinfed person hwnnw. Nid ydym yn defnyddio fferyllfeydd ddigon.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:07, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Mike, a wnewch chi dderbyn ymyriad gan Mark Isherwood?

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Ond dyma'r ymyriad olaf y byddaf yn ei dderbyn.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:08, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n croesawu eich sylwadau, ond a ydych yn rhannu pryder yr uwch glinigydd sydd hefyd yn gweithio fel meddyg teulu, a ysgrifennodd ataf yn dweud:

'Mae amseroedd aros yn adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cyrraedd lefelau erchyll. Rwyf wedi bod yn trafod hyn gydag un o'n meddygon iau sy'n weithiwr locwm yn yr adran. Cadarnhaodd fod amseroedd aros yn hir iawn a dywedodd mai'r broblem oedd nad oes lle i weld cleifion'?

Dywedodd fod sawl meddyg yn aml yn eistedd o gwmpas yn gwneud dim gan nad oes unman i weld y cleifion, ac yn sicr dylai gofod ffisegol fod yn un o'r pethau hawsaf i'w datrys.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno y dylai fod yn un o'r pethau hawsaf i'w datrys. Ni allaf sôn am Ysbyty Maelor Wrecsam, ond gallaf siarad am Ysbyty Treforys, a'r peth sy'n achosi'r broblem yno yw nifer y bobl. Nid oes ganddynt feddygon yn eistedd o gwmpas yn gwneud dim yn Nhreforys, ond os hoffai Ysbyty Maelor Wrecsam anfon rhai o'u meddygon i Dreforys, byddem yn eu croesawu'n fawr. Nid oes gennym bobl yn eistedd o gwmpas yn gwneud dim; yr hyn sydd gennym yw ciw enfawr. Gallwch gael 50 neu 60 o bobl yno. Mae rhai ohonynt yn ddifrifol wael, maent wedi cael strôc, maent wedi cael trawiad ar y galon, maent wedi cael damwain ddifrifol, mae angen eu harchwilio i weld os ydynt wedi torri eu gwddf neu beidio, ac mae yna rai eraill nad ydynt yn teimlo'n dda iawn ac wedi methu gweld meddyg.

Anfonais hyn at y Gweinidog ynglŷn ag un o fy etholwyr—ac roeddwn yn siarad â'r bwrdd iechyd—etholwr a oedd â lwmp ar ei wddf a oedd yn tyfu'n fwy ac yn fwy. Treuliodd bedwar diwrnod yn methu gweld ei feddyg teulu, oherwydd ei fod yn Rhif 41 neu 42 yn y ciw. Ni allwn gael y math hwn o, 'Rydych yn ymuno â chiw ac rydych naill ai'n lwcus neu'n anlwcus.'

Yn olaf, nid yw gwasanaeth ambiwlans Cymru yn gweithio'n effeithiol. Er mwyn cael y gorau o'r gwasanaeth ambiwlans, rwy'n credu y dylai gael ei rannu a'i redeg gan y byrddau iechyd unigol, fel oedd yn arfer digwydd, fel bod gan y bwrdd iechyd berchnogaeth ar y gwasanaeth ambiwlans. Eu bai hwy ydyw, nid bai rhywun arall.

Photo of James Evans James Evans Conservative 4:10, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn gofnodi bod ein criwiau ambiwlans a gweithwyr y GIG yn gwneud gwaith gwych yn yr amgylchiadau eithriadol o anodd sy'n wynebu'r GIG, ac rwyf eisiau diolch i bob un ohonynt am y gwaith anhygoel a wnânt. Yr wythnos diwethaf, codais fater amseroedd ymateb ambiwlansys gwael yn y Siambr hon. Ymunodd nifer o'm cyd-Aelodau Ceidwadol ac eraill â mi, Aelodau sy'n wynebu sefyllfa debyg ar draws eu hetholaethau. Rwyf wedi derbyn llawer iawn o ohebiaeth yn bersonol gan etholwyr a'n staff GIG sy'n pryderu'n fawr am y sefyllfa bresennol. Mae'n amlwg fod problem yma nad yw'n cael sylw. Ac eto, pan ofynnais i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r mater hwn yr wythnos diwethaf, roedd yn ymddangos fel pe baent yn claddu eu pennau yn y tywod.

Mae'n ymddangos nad ar Gymru'n unig y mae'r mater hwn yn effeithio, mae'n effeithio ar rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth yr Alban wedi gorfod galw ar y fyddin i gefnogi eu GIG gyda'r pwysau digynsail sydd arnynt. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod cais gan wasanaeth ambiwlans Cymru ac y bydd yn awr yn anfon y cais am gymorth gan y fyddin at y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rwy'n siarad â pharafeddygon ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed a ledled Cymru, ac maent wedi dweud wrthyf nad diffyg ambiwlansys sy'n achosi'r broblem, er y croesewir unrhyw gymorth ychwanegol; yr hyn sy'n achosi'r broblem yw na allant gael cleifion o'r ambiwlansys i mewn i adrannau damweiniau ac achosion brys ac ar y wardiau oherwydd prinder gwelyau a phroblemau yn ein sector gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid i rywun yn rhywle yn y Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am hyn, oherwydd ar hyn o bryd mae'n ymddangos mai'r hyn y mae pawb ar draws y Llywodraeth yn ei ddweud yw mai taflu mwy o arian at y broblem yw'r unig ffordd o ddatrys y sefyllfa.

Ond rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yng nghyllideb y GIG ers dechrau'r pandemig, ac nid yw pethau'n gwella. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog ddweud wrthyf, ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn £8.6 biliwn i ymladd COVID-19, £2.9 biliwn a gyhoeddwyd i Gymru yng nghyllideb 2021 a £1.9 biliwn dros dair blynedd, swm canlyniadol Barnett gan GIG Lloegr, lle mae'r arian hwn wedi'i wario i wella capasiti gwelyau a mynediad at driniaethau damweiniau ac achosion brys? Weinidog, a wnewch chi gymryd cyfrifoldeb am hyn? A ydych chi'n derbyn y ffaith bod angen mynd i'r afael â hyn? Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy yn awr ac ymdrin â'r sefyllfa annerbyniol hon. Mae bywydau mewn perygl, ac nid yw'n dderbyniol fod pobl yn aros am 12 awr a mwy. Ni fyddem yn gadael i anifeiliaid ddioddef fel hyn, felly pam ein bod yn gadael i bobl Cymru ddioddef?

Gyda phŵer, daw cyfrifoldeb mawr, ac mae'n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan i gefnogi'r rhai sy'n gweithio yn ein GIG a gwasanaeth ambiwlans Cymru. Rydym yn awr yn wynebu gaeaf o bwysau ar y GIG, ac nid ydych yn barod. Dim cynllun, dim strategaeth i fynd i'r afael â'r problemau sydd ar y ffordd. Fodd bynnag, nid yw'n rhy hwyr. Manteisiwch ar y cyfle hwn i dawelu meddwl y Senedd hon a'r cyhoedd yng Nghymru eich bod yn derbyn yr amgylchiadau y mae ein gwasanaeth ambiwlans a'r GIG yn eu hwynebu, a nodwch gynlluniau i wella'r gwasanaethau y mae gan ein cyhoedd hawl i'w derbyn. Gadewch inni archwilio'r posibilrwydd o agor ysbytai maes Nightingale i ryddhau lle yn ein hysbytai presennol. A wnewch chi edrych ar ailagor wardiau sydd ar gau ar hyn o bryd fel y gall pobl fynd yn ôl i'w hysbytai cymunedol? Gadewch i ni gael cynllun cynhwysfawr ar gyfer recriwtio mwy o staff gofal cymdeithasol, talu cyflog priodol iddynt a gwneud mwy i gefnogi ein staff rheng flaen yn y GIG.

Dim mwy o esgusodion. Dim mwy o feio eraill. Rhaid gweithredu yn awr. Ers blynyddoedd rydych wedi ymgyrchu dros fwy o bwerau, mae gennych y pwerau hynny yn awr; mae'n bryd i chi eu defnyddio'n ddoeth ac er budd pobl Cymru. Weinidog, mae'r awenau yn eich dwylo chi, mae'r cyhoedd yn gwylio. Diolch.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 4:14, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Russell George am gyflwyno'r ddadl bwysig iawn hon? Gwn gystal ag ef am yr heriau hirdymor y mae trigolion sir Drefaldwyn wedi eu hwynebu o ran cael mynediad at wasanaethau iechyd. Diolch. Diolch yn fawr iawn. Fel siaradwyr eraill, hoffwn innau hefyd gofnodi fy ngwerthfawrogiad a fy niolch i'n holl weithwyr iechyd, ein gyrwyr ambiwlans, ein gwirfoddolwyr a'n gweithwyr gofal ledled Cymru. Yn ystod y 18 mis diwethaf, maent wedi gweithio'n ddi-baid drwy gydol cyfnod COVID. Wrth inni agosáu at y gaeaf, gydag achosion COVID yn dechrau codi yn anffodus, mae angen inni fynd i'r afael â'r mater hwn gyda'n gilydd. 

Nid yw'n syndod ein bod yn clywed mor aml fod rhai yn y gwasanaeth ambiwlans yn dweud bod morâl yn isel. O'r hyn a ddeallaf, mae hon yn storm berffaith o amseroedd aros ambiwlansys, yr angen i gleifion aros yn yr ysbyty oherwydd diffyg gofal cymdeithasol, mwy o ddefnydd o'n gwasanaethau iechyd oherwydd COVID a phroblemau eraill sydd wedi bod yn aros i'r gwasanaethau iechyd agor, a'r ffaith bod ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol o dan straen ac yn flinedig ac yn absennol o'r gwaith am eu bod yn sâl. 

Fy rhwystredigaeth i yw nad yw hon yn broblem newydd. Yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae pob un o'r tri bwrdd iechyd lleol bellach wedi methu cyrraedd targed y Llywodraeth ar gyfer amseroedd ymateb ambiwlansys yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar. Mae'n amlwg fod angen diwygio hirdymor. Ni allwn aros degawd arall i weld newid. Dywedodd y Gweinidog iechyd yn gynharach y mis hwn y byddai'n cymryd cryn dipyn o amser i gyflwyno'r diwygiadau angenrheidiol ar gyfer y GIG a'r system gofal cymdeithasol, ond mae angen i hyn fod am bobl. Ac rwy'n apelio ar bob un ohonom i gydweithio i ddatblygu a chefnogi cynllun sy'n mynd i'r afael yn glir â'r argyfwng iechyd a gofal cymdeithasol. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:16, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n codi ac rwy'n dymuno cofnodi fy niolchgarwch enfawr yn ffurfiol i'n staff a'n criw ambiwlans, ein gweithredwyr switsfwrdd, a staff nyrsio ar yr ochr draw i ddrysau'r adrannau damweiniau ac achosion brys sydd gyda'i gilydd yn ceisio mynd i'r afael â'r amseroedd aros cyn trosglwyddo. Gwyddom i gyd fod trosglwyddo o ambiwlansys i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys yn allweddol er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal brys sydd ei angen arnynt, gan gynnwys cyfarpar priodol a gwelyau ar gyfer gwella a chael triniaeth. 

Dros yr wythnosau diwethaf, bûm yn dyst i'r hyn a ddigwyddodd wedi i ddynes syrthio'n ôl ar risiau symudol mewn siop leol, ac a fu'n aros am sawl awr wedi'i hanafu a'i phen yn gwaedu. Ar ôl siarad ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fy hun, gan fy mod mor bryderus, roedd yn rhyddhad gweld parafeddygon yn cyrraedd, dim ond i ganfod bod yn rhaid iddynt hwy aros am ambiwlans wedyn am na allent gynnig y driniaeth briodol angenrheidiol.

Gadawyd un arall o fy etholwyr mewn poen sylweddol a heb allu symud am oddeutu pum awr tra'n aros am ambiwlans ar ôl torri ei chlun mewn parc antur adnabyddus lleol. Bu'n rhaid iddynt gau'r reid am yr holl amser hwnnw, ac roedd hi'n sownd ar y reid. 

Cafodd un arall o fy etholwyr oedrannus, 96 oed, gwymp tua 10 o'r gloch y bore, ond bu'n aros tan 6 o'r gloch i ambiwlans gyrraedd, cyn gorfod aros y tu allan i'r adran ddamweiniau ac achosion brys am chwe awr arall, oherwydd yr arfer o bentyrru ambiwlansys. A gadawyd dynes arall wedi'i hanafu ar lôn wledig ar ôl cwymp gas oddi ar geffyl am 11 o'r gloch y bore, a bu'n rhaid iddi aros tan 4.30 p.m. i'r ambiwlans gyrraedd, a dioddef pum awr a hanner arall y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd.

Nid sibrydion na dychymyg yw'r rhain, mae'r rhain yn senarios a sefyllfaoedd go iawn sydd bellach yn cael eu hachosi gan ddiffyg ymyrraeth a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i'r gwasanaeth brys gwerthfawr hwn. 

Yn ystod chwe mis cyntaf 2021, collwyd 47,871 awr oherwydd bod criwiau ambiwlans yn aros mwy na 15 awr cyn trosglwyddo cleifion i adrannau damweiniau ac achosion brys. Yn fy mwrdd iechyd fy hun, Betsi Cadwaladr, collwyd 16,937 o oriau rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2021. Mae cynllun adfer y GIG, fel y'i gelwir, Llywodraeth Cymru yn gadael llawer o'r manylion i fyrddau iechyd lleol a chlinigwyr eu cyflawni. Gyda phwysau'r gaeaf eisoes i'w weld yn gwasgu ym mis Medi, Weinidog, pa gamau a gymerir gennych i adolygu'r cynllun hwn fel y gellir canolbwyntio o'r newydd ar broblem pentyrru ambiwlansys?

O ran y gwasanaeth ei hun, gydag 8.4 y cant o'r gweithlu'n absennol oherwydd salwch rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, a throsiant staff uchel—a yw'n syndod bod trosiant staff yn uchel gyda morâl mor isel, fel y soniwyd yn gynharach—mae angen cynllun gweithlu cynhwysfawr yn awr, ac mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cymeradwyo hyn mewn gwirionedd. Felly, Weinidog, pa gynnydd a wneir gennych—dywedwch wrthym heddiw, os gwelwch yn dda—tuag at gyflwyno cynllun o'r fath? Mae angen hwn yn awr. Fel y nodwyd gan fy nghyd-Aelod Peter Fox ddoe, mae'r diffyg cymorth ambiwlans bellach yn cael effaith erchyll ar allu ein cyfleusterau addysg—

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Janet. Ar hynny, mae'n gwbl glir o'r hyn a ddywedoch chi ac Aelodau eraill yn y Siambr hon heddiw ein bod mewn argyfwng ac nid yw'n argyfwng y gallwch guddio rhagddo, Weinidog. Ond rydych yn iawn i fynd i'r afael ag effaith ehangach hyn ac mae angen rhoi sylw i hynny hefyd, a hoffwn i'r Gweinidog fynd i'r afael â hynny yn nes ymlaen a dweud wrthym beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud mewn perthynas â'r effeithiau ehangach. Ddoe, yn y Siambr, tynnodd Peter Fox sylw yn gwbl briodol at y pryder ynghylch yr effaith ar addysg, gan fod prif weithredwr wedi dweud wrth y ddau ohonom ei fod o ddifrif yn ystyried atal pob cwrs ymarferol yn ein holl golegau oherwydd hyd amseroedd aros ambiwlansys. Mae honno'n effaith y mae angen inni fynd i'r afael â hi gan ei bod yn effeithio'n ddifrifol ar addysg ledled Cymru, ac mae'n rhywbeth y gallech edrych arno, Weinidog. Diolch yn fawr iawn am ildio.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:21, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Laura Anne Jones, am wneud y pwyntiau dilys iawn hynny.

Mae diffyg capasiti gwelyau, prinder staff a chynnydd yn nifer y cleifion sy'n troi at y gwasanaeth ambiwlans oherwydd trafferth i gael apwyntiad wyneb yn wyneb gyda meddyg teulu oll yn cyfrannu at y broblem hon. Mae canllawiau Llafur Cymru i feddygfeydd barhau i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein neu dros y ffôn yn rhoi pwysau pellach ar ein gwasanaethau brys, yn ogystal â'r cyngor presennol yn fy etholaeth i bobl sydd â phryderon iechyd meddwl fynd yn syth i adrannau damweiniau ac achosion brys yn hytrach na bod modd iddynt gael cymorth arbenigol mawr ei angen yn lleol. Felly, Weinidog, pa sgyrsiau a gawsoch gyda'r sector meddygon teulu i sicrhau bod nifer yr apwyntiadau ffôn, fideo ac wyneb yn wyneb yn cael eu monitro fel bod y duedd yn symud i'r cyfeiriad iawn?

Yn olaf, rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ffaith bod y gwasanaeth ambiwlans yn gofyn i'r fyddin am gymorth. Mae'n arwydd fod amgylchiadau wedi symud ymhell y tu hwnt i lefelau arferol o anhawster, ac rwy'n gobeithio y bydd y timau rheng flaen hanfodol hyn yn dechrau cael y cymorth y maent ei angen. Mae Cymru angen gweld gweithredu'n digwydd ar y pwyntiau hyn yn awr, fel y gellir grymuso ein gwasanaethau ambiwlans i weithio, gan adfer eu henw da a sicrhau bod y cleifion sydd â'r anghenion mwyaf yn cael y gofal a'r driniaeth y maent yn eu haeddu. Diolch.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 4:22, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw. Mae gennym wasanaethau ambiwlans rhagorol yma yn y DU. Mae gennyf lawer i'w ddweud, ond nid oes gennyf amser. Mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn arwydd o fethiant y system, ac mae ein staff, sy'n eithriadol o alluog, bellach yn cael eu siomi gan system iechyd a gofal sydd wedi'i chyflunio'n wael, lle mae gofal cleifion yn cael ei beryglu gan amseroedd aros hir i gael eu cysylltu, amseroedd aros hir yn ein hambiwlansys y tu allan i'r ysbyty, ac amseroedd aros hir yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys i gael eu hasesu.

Yn anffodus, nid yw llawer o hyn yn newydd, ac mae'r ffaith ein bod yma eto'n trafod amseroedd ymateb ambiwlansys yn dweud wrthym nad yw'r Llywodraeth wedi datrys y broblem. Mae COVID-19 wedi ein harafu, ac mae wedi dangos ein gwendidau o ran y modd y strwythurwn ac y cynlluniwn ein system iechyd a gofal. Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar y camau y gallai'r Llywodraeth eu hystyried, gan fynd i'r afael â rhai meysydd a fyddai'n effeithio ar ein darpariaethau ambiwlans, yn benodol (1) gwelliannau i wasanaethau y tu allan i oriau a gweithrediadau adrannau damweiniau ac achosion brys; (2) mesurau i ostwng cyfradd y gwelyau sy'n cael eu defnyddio; a (3) recriwtio staff ambiwlans.

Yn gyntaf, gwyddom y gall gwasanaethau y tu allan i oriau fod yn effeithiol, ond cânt eu llesteirio gan yr anallu i gael profion diagnostig ar y safle. Yn hytrach na chyfeirio claf ymhellach i fyny'r llinell i sefydlu natur y broblem, pam na all y Llywodraeth archwilio'r adnoddau sydd ar gael y tu allan i oriau i wella eu heffeithiolrwydd? Byddai mynd i'r afael â'r capasiti hwn y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys yn fuddiol. Yn yr un modd, mae angen rhoi sylw i weithrediad adrannau damweiniau ac achosion brys, ac felly hefyd i amseroedd aros. Mae arnom angen gofod ychwanegol, mwy o feddygon argyfwng hyfforddedig, a wardiau arsylwi. Dylai meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys sydd wedi'u hyfforddi'n dda fod wrth y llyw yn yr adran ac mae'n rhaid cynyddu nifer y meddygon er mwyn cael gwared ar yr amseroedd aros annynol yn yr adrannau. Bydd hyn hefyd yn caniatáu gwasanaeth ambiwlans effeithiol.

Ceir pryderon hefyd am 'ysbytai liw nos', sydd, mewn llawer o ysbytai, wedi creu llawer o broblemau, i staff iau wrth ddarparu gofal iechyd ac i'r bobl sy'n dioddef argyfwng. Darperir y gwasanaeth gan staff meddygol nad oes ganddynt unrhyw brofiad yn y maes hwnnw o bosibl. Os oes rhaid parhau'r gwasanaeth hwn, dylai meddygon ymgynghorol y gwahanol feysydd arbenigol ei ddarparu'n uniongyrchol yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys. Fel arall, er mwyn darparu gofal i gleifion, dylid rhoi'r gorau iddo ar unwaith. 

Wrth fynd i'r afael â phroblem capasiti mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, mae'n bryd i'r Llywodraeth ystyried sut y mae'r GIG yn ymateb i'r ffliw. Rydym yn cael y ddadl hon bob blwyddyn—pwysau'r gaeaf a beth y dylid ei wneud yn ei gylch. Yn fy marn i, ni ddylai pobl sydd â'r ffliw fyth orfod cael eu trin mewn adran ddamweiniau ac achosion brys; dylent gael drws ar wahân i fynd i adran feddygol. Mae fel damwain ffordd; pan fydd y ffordd wedi'i chau, daw'r heddlu o hyd i ddargyfeiriad. Ar yr adeg pan fydd achosion o'r ffliw'n dychwelyd, ni ddylai'r adran ddamweiniau ac achosion brys orfod ymdopi â'r cynnydd ychwanegol hwn yn nifer y cleifion oherwydd dylid bod wedi llunio'r cynllun gan wybod bod hyn yn mynd i ddigwydd—mae bob amser yn digwydd yn y gaeaf. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa asesiad y gall ei gynnig o'r nifer debygol o bobl y bydd angen iddynt fynd i'r ysbyty eleni oherwydd y ffliw, a'r effaith a ragwelir ar y gwasanaethau ambiwlans. Rwy'n gobeithio yr aiff i'r afael â'r pwynt hwn, oherwydd rwyf eisiau sicrwydd fod gan y Llywodraeth gynllun.

Ddirprwy Lywydd, daw hyn â mi at fy ail bwynt, sef yr anhawster wrth helpu pobl i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod i wneud hynny, a sut y gallwn ryddhau gwelyau, rhywbeth a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y gwasanaeth ambiwlans. Gwyddom fod tua 100 o gleifion yn yr ysbyty yn aros i gael eu rhyddhau oherwydd cyflwr bregus y sector gofal, fel y dywedodd y Gweinidog. Bydd llawer o bobl sy'n aros i gael eu rhyddhau angen gofal preswyl neu ofal nyrsio—

Photo of David Rees David Rees Labour 4:28, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i'r Aelod ddod i gasgliad yn awr.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative

(Cyfieithwyd)

Dylai ambiwlansys fod yn y gymuned, yn gofalu am bobl. Nid ciwbiclau adrannau damweiniau ac achosion brys ysbytai yw ambiwlansys, ond dyna'r defnydd a wneir ohonynt gan y Llywodraeth yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Rees David Rees Labour

Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Rwy'n llwyr ddeall cryfder y teimlad yn y Siambr yng ngoleuni'r pwysau aruthrol a wynebwn yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru, ond hefyd yn y GIG a'r gwasanaeth gofal ehangach ar hyn o bryd. Hoffwn ychwanegu fy niolch am ymdrechion anhygoel y bobl sy'n brwydro ar y rheng flaen fel y buont yn ei wneud ers misoedd bwy gilydd. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn y Siambr yn sefyll gyda mi i ddiolch iddynt am eu hymdrechion anhygoel dros gynifer o fisoedd.

Gallaf sicrhau'r Aelodau nad wyf yn cuddio, nid wyf yn osgoi. Rwy'n bendant yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb a deallaf mai fy nghyfrifoldeb i yw sbarduno newid yn y system ar yr adeg hon o bwysau digynsail. Credaf ei bod yn werth tanlinellu'r ffaith nad ydym erioed wedi gweld unrhyw beth tebyg i hyn o'r blaen. Roedd COVID yn wael, roedd pawb yn deall COVID, ond mae pawb yn y gwasanaeth ar hyn o bryd yn dweud wrthyf fod y pwysau hwn yn awr yn waeth nag unrhyw beth a welsom hyd yma. Felly, mae angen i ni ddeall y pwysau sydd ar y system ar hyn o bryd, ac nid yw'n rhywbeth lle gallwch ddisgwyl i bethau newid ar unwaith. Rydym wedi clywed pawb y prynhawn yma yn sôn am y ffordd y mae'r system gyfan yn integredig, fod un rhan yn effeithio ar y llall, ac felly rydym yn ceisio rheoli'r holl systemau hynny i ddeall a gwella'r cysylltiadau hynny, a sicrhau y gallwn weld y llif hwnnw a deall y set gymhleth honno o drefniadau sy'n bodoli.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 4:30, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Credaf ei bod yn bwysig inni ddeall bod ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi nodi cynnydd sylweddol mewn galwadau o rhwng tua 20 a 30 y cant o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd, a chredaf ei bod yn werth nodi bod 18 y cant o alwadau ambiwlans 999 yn gysylltiedig â COVID. Felly, nid yw'n ymwneud â'r pwysau yn y system yn unig—mae COVID yn dal i fod yn broblem fawr yma. Ac mae'n werth nodi hefyd nad yw hon yn broblem sy'n unigryw i Gymru. Rydym wedi gweld cyhoeddiadau diweddar yn Lloegr, yn yr Alban, ac mae angen archwilio'r holl ffyrdd posibl o gael cymorth i gynnal darpariaeth ddiogel o wasanaethau gofal ac iechyd.

Nawr, mae'r heriau hyn o ran llif cleifion drwy'r system gyfan yn amlygu eu hunain mewn gwahanol ffyrdd ar draws pob rhan o'r system. Pryder arbennig yw'r effaith sylweddol ar gapasiti ambiwlans a achosir gan oedi wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans fel y soniodd cynifer o bobl y prynhawn yma. A chaiff hynny ei ddwysáu gan y galw cynyddol am wasanaethau yn ogystal â gweithlu, a chyfyngiadau ar adnoddau oherwydd effaith barhaus y pandemig. Felly, mae arnom angen ymateb go iawn ar draws y system i fynd i'r afael â'r heriau hyn ar draws y system na ellir, yn ôl eu natur, eu hystyried ar eu pen eu hunain neu eu datrys gan unrhyw ran unigol o'r system.

Felly, mae angen camau cydlynol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, ac er gwaethaf buddsoddiad sylweddol a recriwtio cyflymach i wasanaethau ambiwlans Cymru, fel y nododd rhai, mae adnoddau staff wedi parhau i gael eu heffeithio'n sylweddol gan absenoldeb staff, a hynny drwy gyfuniad o salwch staff, a welodd gynnydd o 10 y cant [Cywiriad: i 10 y cant] FootnoteLink ym mis Mehefin 2021, lefelau hunanynysu—yr effeithir arnynt gan COVID hefyd wrth gwrs—gwarchod, gwyliau blynyddol—a ohiriwyd, wrth gwrs, i gynifer o staff o ganlyniad i'r ymateb brys i'r pandemig. Mae'n rhaid inni dderbyn bod llawer o'r bobl hyn wedi'u gorweithio ac mae angen seibiant arnynt.

Mae staff ambiwlans Cymru wedi bod yn gweithio hyd eithaf eu gallu, ac yn aml wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol ganddynt yn ystod y pandemig. Ac wrth gwrs, mae hynny'n effeithio ar forâl a lles staff. Bu llai o ddefnydd o oramser hefyd, sydd wedi ysgogi'r ymddiriedolaeth i ystyried opsiynau i gymell goramser er mwyn ei gwneud yn fwy deniadol i staff lenwi bylchau, a chynyddu capasiti dros y misoedd nesaf.

Nawr, gofynion ymarferol, gan gynnwys yr angen i wisgo cyfarpar diogelu personol a glanhau offer a cherbydau yn ddwfn ar gyfer pob ymateb ambiwlans. Peidiwch ag anghofio, rydym yn gweithio mewn amgylchedd COVID; mae'n newid yr hyn a wnânt fel arfer yn rhywbeth anos a mwy soffistigedig. Ac mae hynny hefyd yn effeithio felly ar argaeledd ac ymatebolrwydd ambiwlansys ar yr adegau pan fydd y galw ar ei anterth.

Nawr, gwaethygwyd y ffactorau hyn sy'n cyfyngu ar gapasiti gan anhawster i ryddhau cleifion o'r ysbyty yn amserol, mater a gafodd sylw, unwaith eto, gan gynifer o'r Aelodau, ac mae hyn yn lleihau nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael ac yn achosi oedi wrth drosglwyddo cleifion o ofal criwiau ambiwlans i ofal staff yr adran achosion brys. Er gwaethaf yr holl heriau hyn, ymatebwyd i bron 60 y cant o'r cleifion lle roedd bywyd yn y fantol o fewn wyth munud ym mis Gorffennaf. Cafodd bron i draean o'r cleifion hyn ymateb o fewn pum munud.

Nawr, dros yr wythnosau diwethaf gwelwyd nifer o achlysuron pan fu ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru dan bwysau sydd wedi ei gorfodi i uwchgyfeirio, drwy ei chynllun rheoli galw, i lefel lle na fu'n bosibl anfon ambiwlans ar gyfer categorïau penodol o alwadau. Nawr, mae'r cynllun rheoli galw yn galluogi'r ymddiriedolaeth i ymateb yn ddeinamig i sefyllfaoedd lle mae'r galw am wasanaethau yn fwy na'r adnoddau sydd ar gael, ac mae wedi'i gynllunio i sicrhau'r diogelwch a'r canlyniadau gorau posibl i bob claf, ac i flaenoriaethu'r cleifion sydd fwyaf o angen ymateb ar unwaith yn seiliedig ar yr adnoddau sydd ar gael.

Nawr, nid wyf yn credu y byddai'n briodol i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru, ond wrth gwrs rydym yn derbyn bod problem yma sydd angen ei datrys. Mae'r ymddiriedolaeth yn rhoi camau ar waith i bontio o gyfnod adfer ei hymdrech COVID-19 yn ôl i'r cyfnod ymateb, y sefyllfa fonitro, mewn ymateb i'r pwysau presennol a'r pwysau disgwyliedig. Nawr, mae hyn yn rhoi'r ymddiriedaeth ar sail debyg i'r adeg pan oeddem ar anterth y pandemig, felly rwy'n tanlinellu'r pwynt fod y broblem yn awr yr un mor fawr â'r hyn ydoedd pan oedd y risg ar ei huchaf yn ystod y pandemig. Mae hynny'n rhoi persbectif llwm o lefel y pwysau y mae'r gwasanaeth yn parhau i'w brofi.

Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi bod yn ystyried nifer o opsiynau i chwyddo'r capasiti presennol, gan gynnwys archwilio opsiynau gyda nifer o asiantaethau cenedlaethol. Felly, mae'r ymddiriedolaeth eisoes wedi contractio Ambiwlans Sant Ioan Cymru i gynorthwyo gyda chymorth ychwanegol dros fisoedd prysur y gaeaf, ac mae'r ymddiriedolaeth hefyd wedi bod yn gweithio gyda chynllunwyr milwrol fel rhan o broses MACA, neu gymorth milwrol i awdurdodau sifil, a eglurwyd gan y Prif Weinidog yn y Siambr ddoe. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y MACA gan yr ymddiriedolaeth yn gynharach heddiw, ac mae'r Prif Weinidog a minnau bellach wedi cytuno y dylid trosglwyddo hynny yn awr fel cais ffurfiol.

Nid ydym wedi bod yn aros i bethau ddigwydd. Yn wir, ym mis Gorffennaf, gelwais gyfarfod eithriadol o'r pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys oherwydd ein bod yn gweld y gallai fod problem. Gofynnais am ddatblygu cynllun cyflawni. Rwy'n credu bod rhywun wedi gofyn am gynllun cyflawni; mae gennym un ac mae'n nodi ystod o gamau gweithredu sy'n gyfyngedig i amser penodol i'w cyflawni rhwng nawr a diwedd mis Mawrth 2022. Roedd y camau allweddol yn y cynllun hwnnw—roedd Janet-Finch Saunders, rwy'n credu, am imi ddweud wrthi beth oedd yn y cynllun cyflawni—fel a ganlyn: gwell rhagolygon i ddeall a chynllunio'n well ar gyfer galw gwirioneddol a chynyddu adnoddau yn unol â hynny; parhau i weithredu argymhellion o'r adolygiad annibynnol o alw a chapasiti; sicrhau ein bod yn gallu rheoli'r galw am ein gwasanaethau tra'n sicrhau bod cleifion yn ddiogel ac yn derbyn y gofal sydd ei angen arnynt yn y lle y mae ei angen arnynt; clinigwyr byrddau iechyd i reoli cleifion ambiwlans yn uniongyrchol a'u hailgyfeirio at opsiynau amgen sy'n glinigol ddiogel; a defnyddio staff ambiwlans i garfanu cleifion lluosog yn ddiogel, gan alluogi ambiwlansys i ddychwelyd i ymateb cymunedol.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:37, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae angen ichi ddod i ben yn awr.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu mai'r peth allweddol i'w bwysleisio yw nad yw'n ymwneud â'r gwasanaeth ambiwlans yn unig, serch hynny. Mae hefyd yn ymwneud â cheisio sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â phroblem cael pobl allan drwy ddrws cefn ysbytai ar ôl iddynt gael eu gweld. Dyna pam ein bod yn cynnal cyfarfod wythnosol yn awr gyda CLlLC, gyda byrddau iechyd, i fynd i'r afael â'r broblem o sut y gallwn roi mwy o gymorth i gael pobl allan o'r ysbyty fel y gallwn gael pobl drwy ddrws blaen ysbytai, oherwydd ar hyn o bryd yn sicr, mae tagfa wrth y drws cefn. Dyna'r flaenoriaeth rwy'n gweithio arni ar hyn o bryd. Mae'r rhain i gyd wedi'u hintegreiddio, ond rwy'n ddiolchgar iawn i bobl am ddod â'r mater hwn i sylw pobl Cymru, oherwydd mae angen iddynt ddeall difrifoldeb y sefyllfa rydym yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Diolch.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:38, 22 Medi 2021

Galwaf ar Gareth Davies i ymateb i'r ddadl.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n golygu hynny o ddifrif. Dyma'r tro cyntaf, fel Aelod cymharol newydd ac yn fy amser byr, y gallwch glywed pin yn cwympo yn y Siambr hon y prynhawn yma, a chredaf fod hynny'n dangos difrifoldeb yr hyn y siaradwn amdano heddiw. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n staff ambiwlans anhygoel. Maent yn gorfod gweithio dan straen anhygoel, a diolch i'w hymroddiad a'u proffesiynoldeb hwy nad yw Cymru'n wynebu argyfwng hyd yn oed yn fwy mewn gofal brys.

Fel y noda'r cyfraniadau niferus i drafodion y prynhawn yma yn briodol, mae gwasanaethau ambiwlans Cymru mewn argyfwng. Fel sawl rhan o'n gwasanaethau iechyd a gofal, mae dyfodiad COVID-19 wedi effeithio'n fawr ar wasanaethau ambiwlans Cymru. Fodd bynnag, mae'r argyfwng mewn gofal brys a gofal heb ei gynllunio yn rhagflaenu pandemig y coronafeirws. Mae methiannau polisi hirdymor gan Lywodraeth Cymru a diffyg cynllunio gweithlu integredig wedi ein harwain at ble'r ydym heddiw: at argyfwng mewn gofal brys.

Mae'n debygol yn awr y gwelwn aelodau o luoedd arfog Ei Mawrhydi yn gorfod gweithredu ar dir y wlad hon i ddarparu gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru. Fel y nododd fy nghyd-Aelod Russell George wrth agor y ddadl, gwasanaethau ambiwlans yw'r caneri yn y pwll glo. Os na all cleifion fynd i'r ysbyty ar adegau o angen brys, mae'n amlwg fod yna broblem ehangach ac mae'r gwasanaeth iechyd mewn perygl o chwalu. Sawl gwaith y llwyddasom i osgoi hynny diolch yn unig i'n staff iechyd a gofal anhygoel, staff sydd wedi'u gorweithio a than ormod o straen, ac sydd eto'n gwneud eu gorau glas i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal yn gallu parhau i weithredu? Gwyddom yn iawn fod gwasanaeth ambiwlans Cymru yn wynebu argyfwng mewn gofal brys o ganlyniad i broblemau mewn mannau eraill yn y system.

Mae criwiau ambiwlans yn colli degau o filoedd o oriau yn aros i drosglwyddo'r rhai sydd yn eu gofal. Yn anffodus, mae gweld llwyth o ambiwlansys yn aros y tu allan i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys yn ddigwyddiad cyffredin. Tra bo'r criwiau hynny'n aros y tu allan i adrannau brys, ni allant ymateb i alwadau brys. Ni ellir trosglwyddo cleifion am nad oes gwelyau ar gael. Yn aml, nid oes gwelyau ar gael yn ein hysbytai oherwydd na ellir rhyddhau cleifion oherwydd tagfeydd mewn gofal cymdeithasol. Cyfaddefodd y Gweinidog iechyd yn ddiweddar na ellir rhyddhau cleifion, oherwydd—[Torri ar draws.] Fe ildiaf, Mike, iawn.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 4:41, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Ni allaf ond siarad am Dreforys, ond nid y diffyg gwelyau sy'n achosi'r broblem, ond prinder ystafelloedd yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Mae'r adran damweiniau ac achosion brys, yr ardal gyfan honno, gan gynnwys y mannau yr eir â phobl iddynt yn llawn, a dyna lle mae'r broblem. Nid yw—. Pe bai ganddynt 100 o welyau ychwanegol, ni fyddai'n datrys y broblem yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Y broblem yn yr adran damweiniau ac achosion brys yw bod gormod o bobl yno.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch yn fawr am eich ymyriad, Mike, ac rwy'n cytuno bod niferoedd uchel mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn gyffredin. Credaf i Mark Isherwood sôn yn gynharach fod lle yn ffactor, ac mewn cyfraniadau eraill, a'r posibilrwydd o ddefnyddio ysbytai Nightingale a chyfleusterau eraill. Ac mae hynny, efallai, yn rhywbeth y gellir mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol.

Mae'r Gweinidog iechyd—

Photo of David Rees David Rees Labour 4:42, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad arall? Chi sydd i ddewis.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative

(Cyfieithwyd)

<p>Rydych yn codi pwynt pwysig iawn yr oeddwn yn mynd i'w ddweud mewn gwirionedd. Rydym bob amser wedi sôn am ambiwlansys ac rydym wedi siarad bob amser am y cleifion. Ond nid oes yr un bwrdd iechyd hyd yma wedi codi—. Faint o bobl sy'n gweithio yn yr adran damweiniau ac achosion brys ar adeg benodol? Nid yw'n fwy nag un neu ddau o bobl, a phobl llai profiadol ydynt, nid ydynt yn gyfarwydd iawn â'r adran damweiniau ac achosion brys. Ac fel y soniasom, mewn ysbytai liw nos, gallwch fynd yno a bydd pobl clust, trwyn a gwddf&nbsp;yn gweld y cleifion orthopedig, bydd pobl feddygol yn gweld cleifion llawfeddygol ac mae'n anhrefn. Felly, bob amser pan fyddwn yn sôn am amseroedd ambiwlans, byddwn yn annog y Gweinidog i ddweud wrthym faint o feddygon sy'n gweithio ar adeg benodol yn yr adran damweiniau ac achosion brys, ac fe welwch drosoch eich hun nad y gwasanaethau ambiwlans ond yr adran iechyd sy'n gwneud cam â ni, ac mae'n gwneud bwch dihangol ohono, yr 'Ambiwlans, ambiwlans' hwn. Diolch.</p>

Photo of David Rees David Rees Labour 4:43, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi atgoffa'r Aelodau nad cyfle i wneud areithiau pellach yw ymyriadau? [Chwerthin.]

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am yr ymyriad, Altaf. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedoch yn eich rhan chi o'r ddadl pan sonioch chi am ddiagnosteg ar y safle a gwell hyfforddiant. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n sicr yn werth edrych arno yn y dyfodol.

Cyfaddefodd y Gweinidog iechyd yn ddiweddar na ellir rhyddhau cleifion oherwydd natur fregus y sector gofal. Gwyddom fod o leiaf 1,000 o bobl yn yr ysbyty a ddylai fod gartref neu mewn cyfleuster gofal, ond nad ydynt yn gallu symud oherwydd problemau capasiti. Rydym yn trafod argyfwng mewn gofal brys heddiw, ond mae'r argyfwng hwnnw'n deillio'n uniongyrchol o argyfwng ym maes gofal cymdeithasol. Mae arnom angen miloedd o staff gofal ychwanegol heddiw i sicrhau bod y sector yn cael ei ariannu'n ddigonol. Yn ogystal â phrinder staff enfawr, mae ein sector gofal yn brin o gannoedd o filiynau o bunnoedd, ac eto nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â'r prinder. Heb sector gofal ag adnoddau priodol, bydd ein hysbytai'n parhau ar lefelau uwch na'r capasiti, gan arwain at y straeon arswyd a glywsom heddiw.

Siaradodd James Evans am amseroedd ymateb ambiwlansys gwael, pryderon staff y GIG, Llywodraeth yr Alban yn gorfod defnyddio'r fyddin, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, sy'n allweddol iawn. Nododd Mabon ap Gwynfor rai o'r problemau hanesyddol yng ngogledd Cymru, ac ychydig o'r manylion cymhleth sy'n arwain at rai o'r problemau hynny, ac mae'n llygad ei le.

Rhoddodd Janet Finch-Saunders gyfrif personol o'r modd y bu iddi weld pobl yn ei hetholaeth yn Aberconwy yn gorfod aros gormod o oriau am driniaeth gofal iechyd hanfodol. Fel cyn-weithiwr yn ysbyty Llandudno, rwyf wedi gweld hynny'n uniongyrchol ar y rheng flaen yn y GIG. Soniodd Laura Anne Jones am rai o'r effeithiau ehangach ar addysg, fel y nododd Peter Fox yn briodol yn y Cyfarfod Llawn ddoe. Ac fel y nodais, soniodd Altaf am ddiagnosteg a hyfforddiant ar y safle a pheth o'r arian canlyniadol COVID-19 a welsom yn ystod y pandemig ac y bu ei angen yn fawr dros y 18 mis diwethaf.  

Felly, rwy'n talu teyrnged unwaith eto i'n staff eithriadol yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru, a gofynnaf i'r Aelodau wobrwyo eu hymroddiad i'w dyletswydd a'u hymdrechion Hercwleaidd i gynnal gofal brys drwy gefnogi'r cynnig a gwrthod gwelliant Llywodraeth Cymru. Oni chymerwn y camau a amlinellir yn ein cynnig, bydd yr argyfwng mewn gofal brys yn troi'n drychineb. Diolch yn fawr iawn.

Photo of David Rees David Rees Labour 4:46, 22 Medi 2021

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.