Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 22 Medi 2021.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl heddiw. Mae gennym wasanaethau ambiwlans rhagorol yma yn y DU. Mae gennyf lawer i'w ddweud, ond nid oes gennyf amser. Mae amseroedd ymateb ambiwlansys yn arwydd o fethiant y system, ac mae ein staff, sy'n eithriadol o alluog, bellach yn cael eu siomi gan system iechyd a gofal sydd wedi'i chyflunio'n wael, lle mae gofal cleifion yn cael ei beryglu gan amseroedd aros hir i gael eu cysylltu, amseroedd aros hir yn ein hambiwlansys y tu allan i'r ysbyty, ac amseroedd aros hir yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys i gael eu hasesu.
Yn anffodus, nid yw llawer o hyn yn newydd, ac mae'r ffaith ein bod yma eto'n trafod amseroedd ymateb ambiwlansys yn dweud wrthym nad yw'r Llywodraeth wedi datrys y broblem. Mae COVID-19 wedi ein harafu, ac mae wedi dangos ein gwendidau o ran y modd y strwythurwn ac y cynlluniwn ein system iechyd a gofal. Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar y camau y gallai'r Llywodraeth eu hystyried, gan fynd i'r afael â rhai meysydd a fyddai'n effeithio ar ein darpariaethau ambiwlans, yn benodol (1) gwelliannau i wasanaethau y tu allan i oriau a gweithrediadau adrannau damweiniau ac achosion brys; (2) mesurau i ostwng cyfradd y gwelyau sy'n cael eu defnyddio; a (3) recriwtio staff ambiwlans.
Yn gyntaf, gwyddom y gall gwasanaethau y tu allan i oriau fod yn effeithiol, ond cânt eu llesteirio gan yr anallu i gael profion diagnostig ar y safle. Yn hytrach na chyfeirio claf ymhellach i fyny'r llinell i sefydlu natur y broblem, pam na all y Llywodraeth archwilio'r adnoddau sydd ar gael y tu allan i oriau i wella eu heffeithiolrwydd? Byddai mynd i'r afael â'r capasiti hwn y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys yn fuddiol. Yn yr un modd, mae angen rhoi sylw i weithrediad adrannau damweiniau ac achosion brys, ac felly hefyd i amseroedd aros. Mae arnom angen gofod ychwanegol, mwy o feddygon argyfwng hyfforddedig, a wardiau arsylwi. Dylai meddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys sydd wedi'u hyfforddi'n dda fod wrth y llyw yn yr adran ac mae'n rhaid cynyddu nifer y meddygon er mwyn cael gwared ar yr amseroedd aros annynol yn yr adrannau. Bydd hyn hefyd yn caniatáu gwasanaeth ambiwlans effeithiol.
Ceir pryderon hefyd am 'ysbytai liw nos', sydd, mewn llawer o ysbytai, wedi creu llawer o broblemau, i staff iau wrth ddarparu gofal iechyd ac i'r bobl sy'n dioddef argyfwng. Darperir y gwasanaeth gan staff meddygol nad oes ganddynt unrhyw brofiad yn y maes hwnnw o bosibl. Os oes rhaid parhau'r gwasanaeth hwn, dylai meddygon ymgynghorol y gwahanol feysydd arbenigol ei ddarparu'n uniongyrchol yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys. Fel arall, er mwyn darparu gofal i gleifion, dylid rhoi'r gorau iddo ar unwaith.
Wrth fynd i'r afael â phroblem capasiti mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, mae'n bryd i'r Llywodraeth ystyried sut y mae'r GIG yn ymateb i'r ffliw. Rydym yn cael y ddadl hon bob blwyddyn—pwysau'r gaeaf a beth y dylid ei wneud yn ei gylch. Yn fy marn i, ni ddylai pobl sydd â'r ffliw fyth orfod cael eu trin mewn adran ddamweiniau ac achosion brys; dylent gael drws ar wahân i fynd i adran feddygol. Mae fel damwain ffordd; pan fydd y ffordd wedi'i chau, daw'r heddlu o hyd i ddargyfeiriad. Ar yr adeg pan fydd achosion o'r ffliw'n dychwelyd, ni ddylai'r adran ddamweiniau ac achosion brys orfod ymdopi â'r cynnydd ychwanegol hwn yn nifer y cleifion oherwydd dylid bod wedi llunio'r cynllun gan wybod bod hyn yn mynd i ddigwydd—mae bob amser yn digwydd yn y gaeaf. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog pa asesiad y gall ei gynnig o'r nifer debygol o bobl y bydd angen iddynt fynd i'r ysbyty eleni oherwydd y ffliw, a'r effaith a ragwelir ar y gwasanaethau ambiwlans. Rwy'n gobeithio yr aiff i'r afael â'r pwynt hwn, oherwydd rwyf eisiau sicrwydd fod gan y Llywodraeth gynllun.
Ddirprwy Lywydd, daw hyn â mi at fy ail bwynt, sef yr anhawster wrth helpu pobl i adael yr ysbyty pan fyddant yn barod i wneud hynny, a sut y gallwn ryddhau gwelyau, rhywbeth a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y gwasanaeth ambiwlans. Gwyddom fod tua 100 o gleifion yn yr ysbyty yn aros i gael eu rhyddhau oherwydd cyflwr bregus y sector gofal, fel y dywedodd y Gweinidog. Bydd llawer o bobl sy'n aros i gael eu rhyddhau angen gofal preswyl neu ofal nyrsio—