6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amseroedd ymateb ambiwlansys

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 4:38, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n golygu hynny o ddifrif. Dyma'r tro cyntaf, fel Aelod cymharol newydd ac yn fy amser byr, y gallwch glywed pin yn cwympo yn y Siambr hon y prynhawn yma, a chredaf fod hynny'n dangos difrifoldeb yr hyn y siaradwn amdano heddiw. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n staff ambiwlans anhygoel. Maent yn gorfod gweithio dan straen anhygoel, a diolch i'w hymroddiad a'u proffesiynoldeb hwy nad yw Cymru'n wynebu argyfwng hyd yn oed yn fwy mewn gofal brys.

Fel y noda'r cyfraniadau niferus i drafodion y prynhawn yma yn briodol, mae gwasanaethau ambiwlans Cymru mewn argyfwng. Fel sawl rhan o'n gwasanaethau iechyd a gofal, mae dyfodiad COVID-19 wedi effeithio'n fawr ar wasanaethau ambiwlans Cymru. Fodd bynnag, mae'r argyfwng mewn gofal brys a gofal heb ei gynllunio yn rhagflaenu pandemig y coronafeirws. Mae methiannau polisi hirdymor gan Lywodraeth Cymru a diffyg cynllunio gweithlu integredig wedi ein harwain at ble'r ydym heddiw: at argyfwng mewn gofal brys.

Mae'n debygol yn awr y gwelwn aelodau o luoedd arfog Ei Mawrhydi yn gorfod gweithredu ar dir y wlad hon i ddarparu gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru. Fel y nododd fy nghyd-Aelod Russell George wrth agor y ddadl, gwasanaethau ambiwlans yw'r caneri yn y pwll glo. Os na all cleifion fynd i'r ysbyty ar adegau o angen brys, mae'n amlwg fod yna broblem ehangach ac mae'r gwasanaeth iechyd mewn perygl o chwalu. Sawl gwaith y llwyddasom i osgoi hynny diolch yn unig i'n staff iechyd a gofal anhygoel, staff sydd wedi'u gorweithio a than ormod o straen, ac sydd eto'n gwneud eu gorau glas i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal yn gallu parhau i weithredu? Gwyddom yn iawn fod gwasanaeth ambiwlans Cymru yn wynebu argyfwng mewn gofal brys o ganlyniad i broblemau mewn mannau eraill yn y system.

Mae criwiau ambiwlans yn colli degau o filoedd o oriau yn aros i drosglwyddo'r rhai sydd yn eu gofal. Yn anffodus, mae gweld llwyth o ambiwlansys yn aros y tu allan i'n hadrannau damweiniau ac achosion brys yn ddigwyddiad cyffredin. Tra bo'r criwiau hynny'n aros y tu allan i adrannau brys, ni allant ymateb i alwadau brys. Ni ellir trosglwyddo cleifion am nad oes gwelyau ar gael. Yn aml, nid oes gwelyau ar gael yn ein hysbytai oherwydd na ellir rhyddhau cleifion oherwydd tagfeydd mewn gofal cymdeithasol. Cyfaddefodd y Gweinidog iechyd yn ddiweddar na ellir rhyddhau cleifion, oherwydd—[Torri ar draws.] Fe ildiaf, Mike, iawn.