Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 22 Medi 2021.
<p>Rydych yn codi pwynt pwysig iawn yr oeddwn yn mynd i'w ddweud mewn gwirionedd. Rydym bob amser wedi sôn am ambiwlansys ac rydym wedi siarad bob amser am y cleifion. Ond nid oes yr un bwrdd iechyd hyd yma wedi codi—. Faint o bobl sy'n gweithio yn yr adran damweiniau ac achosion brys ar adeg benodol? Nid yw'n fwy nag un neu ddau o bobl, a phobl llai profiadol ydynt, nid ydynt yn gyfarwydd iawn â'r adran damweiniau ac achosion brys. Ac fel y soniasom, mewn ysbytai liw nos, gallwch fynd yno a bydd pobl clust, trwyn a gwddf yn gweld y cleifion orthopedig, bydd pobl feddygol yn gweld cleifion llawfeddygol ac mae'n anhrefn. Felly, bob amser pan fyddwn yn sôn am amseroedd ambiwlans, byddwn yn annog y Gweinidog i ddweud wrthym faint o feddygon sy'n gweithio ar adeg benodol yn yr adran damweiniau ac achosion brys, ac fe welwch drosoch eich hun nad y gwasanaethau ambiwlans ond yr adran iechyd sy'n gwneud cam â ni, ac mae'n gwneud bwch dihangol ohono, yr 'Ambiwlans, ambiwlans' hwn. Diolch.</p>