6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Amseroedd ymateb ambiwlansys

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 4:43, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am yr ymyriad, Altaf. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedoch yn eich rhan chi o'r ddadl pan sonioch chi am ddiagnosteg ar y safle a gwell hyfforddiant. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n sicr yn werth edrych arno yn y dyfodol.

Cyfaddefodd y Gweinidog iechyd yn ddiweddar na ellir rhyddhau cleifion oherwydd natur fregus y sector gofal. Gwyddom fod o leiaf 1,000 o bobl yn yr ysbyty a ddylai fod gartref neu mewn cyfleuster gofal, ond nad ydynt yn gallu symud oherwydd problemau capasiti. Rydym yn trafod argyfwng mewn gofal brys heddiw, ond mae'r argyfwng hwnnw'n deillio'n uniongyrchol o argyfwng ym maes gofal cymdeithasol. Mae arnom angen miloedd o staff gofal ychwanegol heddiw i sicrhau bod y sector yn cael ei ariannu'n ddigonol. Yn ogystal â phrinder staff enfawr, mae ein sector gofal yn brin o gannoedd o filiynau o bunnoedd, ac eto nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i fynd i'r afael â'r prinder. Heb sector gofal ag adnoddau priodol, bydd ein hysbytai'n parhau ar lefelau uwch na'r capasiti, gan arwain at y straeon arswyd a glywsom heddiw.

Siaradodd James Evans am amseroedd ymateb ambiwlansys gwael, pryderon staff y GIG, Llywodraeth yr Alban yn gorfod defnyddio'r fyddin, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, sy'n allweddol iawn. Nododd Mabon ap Gwynfor rai o'r problemau hanesyddol yng ngogledd Cymru, ac ychydig o'r manylion cymhleth sy'n arwain at rai o'r problemau hynny, ac mae'n llygad ei le.

Rhoddodd Janet Finch-Saunders gyfrif personol o'r modd y bu iddi weld pobl yn ei hetholaeth yn Aberconwy yn gorfod aros gormod o oriau am driniaeth gofal iechyd hanfodol. Fel cyn-weithiwr yn ysbyty Llandudno, rwyf wedi gweld hynny'n uniongyrchol ar y rheng flaen yn y GIG. Soniodd Laura Anne Jones am rai o'r effeithiau ehangach ar addysg, fel y nododd Peter Fox yn briodol yn y Cyfarfod Llawn ddoe. Ac fel y nodais, soniodd Altaf am ddiagnosteg a hyfforddiant ar y safle a pheth o'r arian canlyniadol COVID-19 a welsom yn ystod y pandemig ac y bu ei angen yn fawr dros y 18 mis diwethaf.  

Felly, rwy'n talu teyrnged unwaith eto i'n staff eithriadol yng ngwasanaeth ambiwlans Cymru, a gofynnaf i'r Aelodau wobrwyo eu hymroddiad i'w dyletswydd a'u hymdrechion Hercwleaidd i gynnal gofal brys drwy gefnogi'r cynnig a gwrthod gwelliant Llywodraeth Cymru. Oni chymerwn y camau a amlinellir yn ein cynnig, bydd yr argyfwng mewn gofal brys yn troi'n drychineb. Diolch yn fawr iawn.