Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 22 Medi 2021.
Mae'r rhain i gyd yn bethau fyddai'n cyfrannu at sicrhau Cymru decach, fwy llewyrchus ac hapusach. Mae'n siŵr bydd hi'n groes i'r graen i rai yn y Siambr hon i gefnogi unrhyw fesur a fyddai'n helpu i greu wythnos waith well i bobl gyffredin, ac rydyn ni'n nabod y bobl rheini. Ond, fodd bynnag, rwy'n galw heddiw arnoch chi sy'n credu mewn hawliau gweithwyr ac yn ystyried eich bod yn wleidyddion blaengar i gefnogi Plaid Cymru yn y ddadl hon, i gefnogi ein cynnig ac i gefnogi gweithwyr Cymru. Diolch yn fawr.