– Senedd Cymru am 5:48 pm ar 22 Medi 2021.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, felly, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig ar ddadl y Ceidwadwyr ar amseroedd ymateb ambiwlansys, yn gyntaf—y cynnig hwnnw yn enw Darren Millar. Felly, agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 34 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei wrthod.
Gwellaint 1 sydd nesaf, ac, os derbynnir gwellaint 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galw am bleidlais, felly, ar welliant 1 yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Ac felly canlyniad y bleidlais yna yw bod 25 o blaid, neb yn ymatal, a 22 yn erbyn, ac felly mae'r gwelliant yna wedi'i gymeradwyo, sydd yn golygu bod gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.
Felly, mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig wed'i ddiwygio.
Cynnig NDM7779 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi, yng nghyd-destun lefelau digynsail o alw, fod ychydig dros hanner y galwadau ambiwlans coch wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021.
2. Yn nodi ymhellach y pwysau aruthrol ar yr holl wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r ystod o heriau cenedlaethol a lleol sy’n effeithio ar lif cleifion.
3. Yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a holl staff gwasanaethau iechyd a gofal mewn amgylchiadau mor heriol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod y camau a nodir yng nghynllun cyflawni Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys yn cael eu cyflawni’n gyflym ac yn bwrpasol;
b) cefnogi ystod o fentrau i helpu i recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol a rhoi cymorth i gyflogwyr gofal cymdeithasol;
c) gwella mynediad i apwyntiadau gofal sylfaenol wyneb yn wyneb pan yn glinigol briodol;
d) gwireddu ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal;
e) parhau i gydweithio â Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi i helpu i gynyddu capasiti ymateb ambiwlansys; a
f) ymdrechu'n galetach i recriwtio clinigwyr ambiwlans yn gyflym.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 10 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
Mae'r pleidleisiau nesaf ar ddadl Plaid Cymru, yr wythnos waith pedwar diwrnod. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar y cynnig yn enw Siân Gwenllian. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Y bleidlais nesaf yw gwelliant 1, ac, os caiff gwelliant 1 ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Pleidlais, felly, ar welliant 1 yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 34 yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
Gwelliant 2 sydd nesaf, yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.
Gwelliant 3 nesaf, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 3 wedi'i wrthod.
Gwelliant 4 nesaf—y gwelliant hwnnw yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 35 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 4 wedi'i wrthod.
Sy'n dod â ni at bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7780 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y newid mewn arferion gwaith o ganlyniad i bandemig COVID-19 a bod llawer o fanteision lles a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wedi dod o ganlyniad i hyn.
2. Yn credu bod angen diwygio arferion gwaith i ymateb i heriau'r chwyldro awtomeiddio.
3. Yn nodi â diddordeb bod llywodraethau yn yr Alban, Sbaen ac Iwerddon yn bwriadu cynnal cynlluniau peilot ar lefel genedlaethol ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod.
4. Yn cydnabod bod cynlluniau peilot o wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad yr Iâ wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi arwain at lawer o weithwyr yn symud i oriau byrrach heb ostyngiad mewn cyflog.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y cynnydd a wneir drwy gynlluniau peilot mewn gwledydd eraill ac archwilio’r gwersi y gall Cymru eu dysgu.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 35, neb yn ymatal, 12 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.
Dyna ddod â ni at ddiwedd y cyfnod pleidleisio.