1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 28 Medi 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar raglen Sunday Politics y BBC dros y penwythnos, dywedodd AS Cwm Cynon, Beth Winter, fod diffyg polisïau blaengar radical yn y Blaid Lafur. A ydych chi'n cytuno â hi?
Wel, yn ôl yr arfer, diolchaf i'r Aelod am ei ddiddordeb mawr yng ngweithrediad y Blaid Lafur. [Chwerthin.] Mae'n braf gwybod ei fod yn dilyn hynny yn ofalus dros y penwythnos. Gadewch i mi fod yn eglur yma, Llywydd, nid oes unrhyw ddiffyg polisïau radical yng Nghymru gan y Llywodraeth Lafur Cymru hon. Yn ystod y tymor hwn yn unig, byddwn ni, fel yr eglurais i mewn ateb cynharach, yn darparu cyllid ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol ac yn rhoi'r sicrwydd o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth i'n pobl ifanc. Byddwn yn creu'r parc cenedlaethol cyntaf yng Nghymru ers 57 mlynedd, byddwn yn bwrw ymlaen â'r goedwig genedlaethol, byddwn yn trawsnewid y flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol, ac, os gallwn ni wneud hynny, byddwn yn gwneud rhywbeth yr un mor radical wrth ddiwygio'r dreth gyngor yma yng Nghymru. Nid oes unrhyw ddiffyg agenda ddiwygio a radical o gwbl i Lafur yng Nghymru.
Wel, yn amlwg, mae AS Cwm Cynon yn anghytuno â chi, Prif Weinidog, ac nid yw'n anodd gweld sut mae eich cydweithiwr wedi dod i'r casgliad nad oes gennych chi unrhyw bolisïau radical na blaengar. Yr wythnos diwethaf, parhaodd pobl yng Nghymru i aros am driniaethau GIG mewn wythnos pan gafodd y perfformiadau aros gwaethaf erioed eu cofnodi gan unedau damweiniau ac achosion brys ysbytai Cymru. Gydag amseroedd aros cynyddol ledled y wlad, ôl-groniadau yn y GIG a allai gymryd blynyddoedd i'w clirio, a bellach y fyddin yn cael ei sicrhau i gynorthwyo gwasanaethau ambiwlans sydd mewn trafferthion, mae ein GIG o dan bwysau difrifol, ac mae'n ymddangos nad oes unrhyw bolisïau radical, blaengar i fynd i'r afael â phwysau'r gaeaf eleni chwaith.
Yr wythnos diwethaf, pan gawsoch eich holi, fe wnaethoch chi ddweud mai'r cwbl oedd cynllun Llywodraeth Cymru ar bwysau'r gaeaf oedd diweddaru ei chynllun rhybudd COVID, ond mae hyn yn wahanol iawn i sylwadau a wnaed gan Dr Andrew Goodall, a ddywedodd wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rwy'n dyfynnu, ar ochr y gaeaf, dim ond i ddod â'r amrywiaeth o wahanol weithgareddau ynghyd a'r cyd-destun penodol ar hyn o bryd, byddwn yn sicrhau bod cynllun gaeaf eglur iawn sy'n weladwy, sy'n cysylltu'r holl bethau hyn gyda'i gilydd, yn ystod mis Hydref.
Felly, pa un sy'n wir, Prif Weinidog? A fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun penodol ar sut y bydd yn mynd i'r afael â phwysau'r gaeaf yn y GIG, neu a oedd y darpar Ysgrifennydd Parhaol yn iawn a chithau yn anghywir?
Llywydd, gadewch i mi geisio ymateb i'r pwynt difrifol yng nghwestiwn yr Aelod, oherwydd roedd rhywbeth o'r fath rhywle yna. Mae'r GIG yng Nghymru o dan bwysau enfawr—pwysau enfawr o ran popeth y mae'n ceisio ei wneud i ddarparu gwasanaeth i bobl yng Nghymru. Wrth adfer ar ôl y coronafeirws, nid yw gweithgarwch yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig o hyd gan fod pobl yn dal i orfod gwisgo cyfarpar diogelu personol, mae pobl yn dal i orfod gweithio o dan amgylchiadau ffisegol lle nad oes ganddyn nhw fynediad at y mathau o gyfleusterau y byddai ganddyn nhw yn flaenorol, er mwyn eu cadw nhw'n ddiogel. Ar yr un pryd, rydym yn gofyn iddyn nhw gyflawni'r rhaglen frechu fwyaf erioed rhag y ffliw, rhaglen brechiadau atgyfnerthu, ac rydym ni'n gofyn iddyn nhw geisio dal i fyny ar rai o'r triniaethau a gafodd eu gohirio yn anochel yn ystod y pandemig. Mae hynny i gyd, rwy'n cytuno â'r Aelod, yn rhoi pwysau enfawr, a phwysau enfawr ar weithlu sydd wedi ymlâdd o'r profiadau torcalonnus y byddan nhw wedi gorfod gweithio gyda nhw dros y 18 mis diwethaf.
Wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda nhw. Bydd gennym ni gynllun rheoli coronafeirws wedi ei ddiweddaru, a bydd hwnnw yn rhan bwysig iawn o'r ffordd yr ydym ni'n wynebu'r gaeaf hwn. A bydd cynlluniau y tu hwnt i hynny ar gyfer yr agweddau eraill ar yr hyn y mae'n rhaid i'r GIG ei reoli. Er mwyn gwneud hynny, rydym ni wedi buddsoddi £1 biliwn yn fwy—£1 biliwn—£991 miliwn o refeniw a gwerth £40 miliwn o gyfalaf yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, yn ychwanegol at yr hyn a fyddai wedi bod ar gael fel arall i'r gwasanaeth iechyd. Ac os ydym ni o ddifrif yn y Siambr hon ynghylch gwneud popeth o fewn ein gallu i gydnabod yr her y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei hwynebu ac i weithio gyda'n gilydd lle mae hynny'n bosibl i ddod o hyd i atebion i hynny, yna byddwch chi'n gweld y bydd y Llywodraeth bob amser yn barod i gael y mathau hynny o sgyrsiau.
Nid wyf i'n eglur o hyd o'ch ateb, Prif Weinidog, a fyddwch chi'n cyflwyno cynllun i ymdrin â phwysau'r gaeaf, felly efallai yr hoffech chi ymateb ar ôl i mi eistedd i lawr. Y gwir amdani yw bod y Llywodraeth, ar ôl 22 mlynedd o reolaeth Llafur Cymru, wedi rhedeg allan o syniadau ar sut i reoli'r GIG, wedi rhedeg allan o syniadau ar sut i ysgogi arloesedd a hybu'r economi, ac wedi rhedeg allan o syniadau ar sut i gefnogi a meithrin ein system addysg.
Y prynhawn yma, ceir dau ddatganiad ar agenda'r Senedd, a dadl, i gyd yn canolbwyntio mewn rhyw ffordd ar San Steffan. Nid oes dim yn ymwneud â chynlluniau Llywodraeth Cymru i roi cymorth brys i'n GIG, ein busnesau na'n hysgolion. Wrth i'r sectorau hyn alw am arweinyddiaeth a chymorth, mae Llywodraeth Cymru yn hytrach yn troi ei sylw at wleidyddiaeth bleidiol ac ymladd gyda Llywodraeth y DU, brwydr sydd wedi cwympo mor isel yn y gwter yr wythnos hon nes bod dirprwy arweinydd y Blaid Lafur bellach yn troi at alw enwau. Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gondemnio defnydd Angela Rayner o'r gair 'scum'? Yn hytrach na bod eich Llywodraeth yn canolbwyntio ei sylw ar San Steffan, a wnewch chi ddweud wrthym ni bellach pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynlluniau ar flaenoriaethau'r bobl, fel mynd i'r afael ag ôl-groniadau'r GIG, ysgogi arloesedd a chreu swyddi?
Blaenoriaethau'r bobl yng Nghymru yw'r blaenoriaethau y gwnaethon nhw bleidleisio amdanyn nhw ym mis Mai. Os bu erioed blaid a oedd wedi rhedeg allan o syniadau—. Nid yw'r Blaid Geidwadol yng Nghymru byth yn mynd i lwyddo i berswadio pobl os mai'r cwbl y maen nhw'n ei wneud yw beirniadu'r Llywodraeth y mae pobl Cymru wedi ei hethol dro ar ôl tro. Nid oedd y bobl yng Nghymru yn meddwl bod Llafur wedi rhedeg allan o syniadau, ac fe wnaethon nhw bleidleisio drosom ni mewn niferoedd mwy nag ar unrhyw adeg yn ystod holl gyfnod datganoli. Os ydych chi'n meddwl mai dyna'r ffordd i'w perswadio nhw i bleidleisio drosoch chi, gan ddweud yn gyson bod eu barn yn amheus, yna nid yw byth yn mynd i lwyddo. Nid wyf i chwaith, Llywydd, yn ystyried dadl ar ddiogelwch tomenni glo yn fater nad oes a wnelo ddim â Chymru. Os bu erioed bwnc y dylai'r Siambr hon fod yn ymddiddori yn uniongyrchol ynddo, cyn yr hydref a'r gaeaf hwn, yna diogelwch tomenni glo, gyda'n holl hanes—nid wyf i o'r farn bod hynny rywsut yn wastraff amser ar lawr y Senedd. Byddwn yn parhau, Llywydd, i gyflwyno syniadau sydd wedi eu gwreiddio yn y gefnogaeth y mae'r blaid hon a'r Llywodraeth hon wedi ei chael gan bobl yng Nghymru. Yr union reswm pam rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi ac y mae ef unwaith eto yn y sefyllfa y mae ef yn ei gael ei hun ynddi, yw oherwydd bod pobl Cymru o'r farn mai'r Blaid Lafur yw'r blaid sy'n siarad mewn llais a gyda gwerthoedd y maen nhw'n eu hadnabod ac yn dymuno eu cefnogi.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ysgrifennu yr wythnos diwethaf at arweinwyr pleidiau'r Senedd yn rhannu'r gwaith modelu diweddaraf gan Brifysgol Abertawe a oedd yn dangos pwysau'r pandemig ar y GIG yn cyrraedd uchafbwynt ddechrau mis Tachwedd. Fe wnaethoch chi esbonio bod y modelu hwn wedi dylanwadu ar benderfyniad y Blaid Lafur i ganslo ei chynhadledd yng Nghymru a'r angen i bob un ohonom ni wneud beth bynnag y gallwn i ddiogelu'r GIG yn ystod y misoedd i ddod. Yr awgrym eglur, rwy'n credu, yw y dylai eraill ddilyn eich esiampl. Ai'r cyngor gwyddonol i chi, ac felly eich cyngor chi i eraill sy'n trefnu digwyddiadau ar raddfa fawr, yw y byddai'n well iddyn nhw gael eu canslo yn ystod y misoedd i ddod? A yw'n berthnasol i ddigwyddiadau dan do yn unig, neu a yw hefyd yn cynnwys gemau chwaraeon fel gemau rhyngwladol yr hydref? A fyddwch chi'n ysgrifennu at benaethiaid sefydliadau eraill sy'n cynnal digwyddiadau mawr yn ystod y misoedd i ddod gyda chyngor tebyg i'r hyn yr ydych chi wedi ei roi i'r pleidiau gwleidyddol?
Diolchaf i Adam Price am hynna. Mae'n iawn, wrth gwrs, Llywydd; rydym ni yn rhannu'r cyngor yr ydym ni'n ei gael ar y modelu a'r cyngor yr ydym ni'n ei gael gan y prif swyddog meddygol ac eraill wrth i ni gyrraedd cam gwneud penderfyniadau terfynol yr adolygiad tair wythnos. Rwy'n diolch i arweinydd Plaid Cymru am y ffaith na fu erioed un o'r sesiynau briffio hynny yn fy nghof i, nad yw ef neu uwch aelod arall o'i blaid wedi bod yn bresennol ynddi, ac mae hynny yn golygu bod arweinwyr y gwrthbleidiau mor wybodus ag yr ydym ni am gefndir y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud.
Mae'r modelu yn dangos, Llywydd, fel y dywedodd Adam Price, nad oes disgwyl i nifer y bobl sy'n mynd yn sâl gyda'r coronafeirws yng Nghymru gyrraedd uchafbwynt tan yn ystod mis Hydref. Rwy'n edrych ar y ffigurau hynny bob dydd, ac i mi, maen nhw'n dal i fod yn destun cryn bryder, ond mae ein cynghorwyr gwyddonol yn parhau i ddweud wrthym ni mai dyna y bydden nhw wedi ei ddisgwyl—bod hyn yn dal i fod yn gyson â'r hyn y byddai'r modelu wedi eu harwain i gredu y byddai'r sefyllfa, a gallwn ni obeithio y byddwn yn gweld y niferoedd hynny yn sefydlogi yn ystod mis Hydref, ac yn dechrau gostwng gobeithio.
Roedd fy mhlaid i o'r farn, ar sail cefndir y modelu hwnnw, nad oedd yn synhwyrol annog niferoedd mawr o bobl o bob cwr o Gymru i deithio gyda'i gilydd i leoliad lle mae pobl, yn anochel, yn treulio cyfnodau hir o amser o dan amodau cymharol orlawn dan do, a bod y risg yn un yr oedd yn well ei hosgoi. Rwy'n credu mai mater i unigolion a sefydliadau wedyn yw pwyso a mesur y sefyllfa drostyn nhw eu hunain. Bydd amseru yn dylanwadu ar y sefyllfa—pa un a ydyn nhw'n cynllunio digwyddiad ar yr adeg pan fydd y niferoedd yn dal i godi, yn hytrach na gobeithio pan fydd pethau wedi sefydlogi ac wedi dechrau gostwng, pa un a yw eu digwyddiad yn wir yn ddigwyddiad ar raddfa fawr gyda channoedd lawer o bobl yn bresennol, pa un a yw dan do neu yn yr awyr agored, i ba raddau y gall fod yn agored i fesurau lliniaru eraill fel awyru. Byddwn ni'n sicrhau ac rydym ni yn sicrhau bod yr holl gyngor hwnnw yr ydym ni'n ei weld ar gael i eraill, ac yna rwy'n credu y bydd penderfyniadau y bydd eraill yn eu gwneud, ond, fel y dywedais i, yn y cyd-destunau penodol y maen nhw eu hunain yn eu hwynebu.
Rhai cwestiynau ymarferol, os caf i, am y pàs COVID arfaethedig. Rydym ni'n gwybod bod profion llif ochrol yn llai dibynadwy na phrofion PCR, a phrofion hunan-weinyddu yw'r rhai mwyaf annibynadwy o'r cwbl ar hyn o bryd oherwydd y gellir eu ffugio. Mae'r dechnoleg yn bodoli i lanlwytho profion llif ochrol cartref yn uniongyrchol mewn ffordd na ellir eu ffugio. A ydych chi'n bwriadu defnyddio'r dechnoleg honno? O ystyried tystiolaeth gynyddol o imiwnedd y brechlyn yn gwanhau ar ôl chwe mis, a ydych chi'n rhagweld y bydd angen tystiolaeth o frechlyn atgyfnerthu ar ryw adeg i gadw eich statws pàs COVID? Ac ers iddi gael ei hadrodd ddoe, oherwydd amodau tywydd garw, y bu'n rhaid i gynhadledd Plaid Lafur y DU symud i broses ddethol ar hap ar gyfer profion pàs COVID, a fydd yr hyblygrwydd hwnnw hefyd yn cael ei roi i drefnwyr digwyddiadau yng Nghymru?
Diolch eto am y cwestiynau yna. Mae system pàs COVID yn gyfaddawd. Pe bae gennych chi ardystiad pasbort brechlyn, yna ni fyddai rhai o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud am gyfyngiadau profion llif ochrol yn codi, ond fel y gwyddom ni, daw pasbortau brechlyn â chyfres o ystyriaethau eraill—maen nhw wedi eu codi yma gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ar sawl achlysur—yn ymwneud â moeseg y peth, ac a ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl na fyddai'n gallu gwneud hynny.
Mae pàs COVID yn caniatáu i'r bobl hynny ddangos eu bod nhw wedi cymryd camau rhesymol i amddiffyn eu hunain, ond mae perygl yn gysylltiedig â hynny y gallai dyfais llif ochrol yn arbennig, ar hyn o bryd, fod yn agored i gael ei gamddefnyddio. Yn ein rheoliadau, y bydd y Senedd yn cael cyfle i'w trafod yr wythnos nesaf, byddwn yn ei gwneud yn drosedd benodol, yn drosedd gyfreithiol, i ffugio canlyniadau dyfais llif ochrol yn fwriadol, er mwyn ei gwneud yn eglur i bobl bod gwneud hynny yn golygu rhoi pobl eraill mewn perygl uniongyrchol. Rwy'n ymwybodol o'r dechnoleg y mae'r Aelod yn ei chodi. Rydym ni wedi cael rhai trafodaethau gyda Llywodraeth y DU amdani hefyd, ac os bydd yn bosibl, drwy dechnoleg, i symud dyfeisiau llif ochrol y tu hwnt i hunanardystio, yna rwy'n cytuno y byddai hynny yn sicr yn gam pwysig ymlaen.
O ran y rhaglen atgyfnerthu, rydym ni'n parhau i ddysgu llawer, rwy'n credu, am i ba raddau y ceir effaith wanhau o frechu, a bydd y rhaglen atgyfnerthu gyda ni am fisoedd lawer i ddod oherwydd ni fyddwch chi'n cael cynnig brechiad atgyfnerthu tan fod chwe mis wedi mynd heibio ers eich ail frechlyn. Rwy'n credu y bydd hynny yn rhoi cyfle i ni ddysgu ychydig mwy o'r dystiolaeth wirioneddol ynghylch a fyddech chi'n disgwyl i frechlyn atgyfnerthu fod yn rhan o unrhyw bàs COVID ai peidio.
Ni lwyddais i ysgrifennu'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod i lawr—[Torri ar draws.]
Symud i ddethol ar hap.
Rydw i wedi cael fy atgoffa ohono. Ydy, mae'n bwynt pwysig. Mewn digwyddiadau ar raddfa fawr—gadewch i ni ddefnyddio'r enghraifft amlwg o gêm rygbi ryngwladol yng Nghaerdydd—byddai effeithiau niweidiol i iechyd y cyhoedd o wirio pàs pawb yn drech na manteision y pàs ei hun, oherwydd byddai gennych chi resi hir o bobl yn treulio llawer o amser yn penelinio ochr yn ochr â'i gilydd. Rydym ni'n eglur yn y canllawiau y byddwn ni'n eu cyhoeddi y bydd yn bosibl, o dan yr amgylchiadau hynny, i drefnwyr digwyddiadau wirio pasys COVID pobl ar hap. Felly, gellid gofyn i unrhyw un ei ddangos, ond nid pawb. Dyna beth ddigwyddodd ddoe yng nghynhadledd y Blaid Lafur, pan ystyriwyd bod effeithiau niweidiol cael llawer iawn o bobl yn sefyll mewn rhes y tu allan mewn tywydd gwael iawn yn drech na manteision y pàs ei hun. Ond y ffaith y gallai fod yn chi, neu eich bod chi yn y rhes honno a'ch bod yn gweld pobl yn cael eu galw allan ac yn gorfod ei ddangos, ac yn gwybod efallai mai chi fydd y nesaf—nid wyf i'n credu bod yr effaith honno ar bobl yn un fach. Roeddech chi'n gallu gweld ei fod yn golygu rhywbeth arwyddocaol iddyn nhw.
Mae SAGE wedi dod i'r casgliad, hyd yn oed gyda chynllunio gofalus, efallai na fydd unrhyw fudd net i ardystiad imiwnedd COVID, ac yn wir mae papur gan un o'i is-bwyllgorau wedi dadlau bod gan dystysgrif ddomestig—sef yr hyn yr ydym ni'n sôn amdani, yn hytrach na thystysgrif deithio—y potensial i achosi niwed. Mae'r gell cyngor technegol, yn ei chrynodeb, yn cyfeirio at ddwy astudiaeth fawr yn y DU sy'n dod i'r casgliad y gallai ardystiad brechlyn ac ardystiad COVID fod yn wrthgynhyrchiol, gan leihau'r tebygolrwydd o frechu ymhlith grwpiau sydd â llai o bobl yn manteisio arno. A ydych chi'n derbyn bod cyfyngu ar allu pobl i gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau, yn seiliedig ar eu statws iechyd ardystiedig, yn gosod cynsail anghyfforddus iawn? Nid oes ond yn rhaid i ni feddwl yn ôl, onid oes, i'r epidemig AIDS i sylweddoli pam.
O dan yr amgylchiadau hyn, rwy'n credu ei bod hi'n rhesymol disgwyl i'r achos tystiolaethol fod yn eglur ac yn gwbl gadarn, ond yng ngeiriau un o aelodau amlycaf y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau, mae'n gymysg iawn ar y gorau ar hyn o bryd. Er mwyn ein galluogi ni fel plaid i ddod i benderfyniad terfynol, penderfyniad cytbwys, a fyddech chi'n cytuno i ni gael asesiad diduedd o'r cynnig pàs COVID gan gadeirydd y gell cyngor technegol?
Llywydd, rwy'n gwbl fodlon i Aelodau sy'n dymuno cael sesiwn friffio arall ar hyn ei chael. Mae'n bwysig, i fod yn eglur, nad ydym ni'n cynnig ardystiad brechlyn. Gallwch chi gael pàs COVID heb dystysgrif brechlyn. Mae hwn yn fater anodd iawn, iawn. Mae'r dadleuon wedi eu cydbwyso'n ofalus iawn. Mae chwaer-blaid Plaid Cymru yn yr Alban yn mynnu ar ardystiad brechlyn, ardystiad llawn, ac nid ar chwarae bach y bydd y Llywodraeth honno wedi dod i'r casgliad hwnnw, bydd wedi gweld yr holl dystiolaeth SAGE a'r holl dystiolaeth arall sydd yno. Yn aml, nid yw'r dystiolaeth yn cyfeirio yn ddiamwys at un cyfeiriad ac yn dweud bod yr holl fanteision ar hyd y trywydd hwnnw, ac nad yw dim o'r manteision ar hyd y llall.
Rwyf i wedi gwrando yn astud ar yr hyn y mae'r Aelodau yma wedi ei ddweud am ardystiad brechlyn gorfodol, ac rwy'n rhannu llawer o'r pryderon sydd gan bobl. Nid yw hynny yn golygu na allwn i gael fy mherswadio gan dystiolaeth iechyd y cyhoedd y gallai hwnnw fod yn gam angenrheidiol, hyd yn os yw'n un anffodus, yng Nghymru. Nid tystysgrif yw'r pàs COVID. Gallwch gael pàs COVID heb gael eich brechu o gwbl, ond mae'n rhaid i chi ddangos bod gennych chi dystiolaeth arall na fyddai eich presenoldeb mewn digwyddiad yn achosi risg i bobl eraill. Fel pob cyfaddawd, mae ganddo rai cryfderau ac mae ganddo rai anfanteision hefyd, ond yng Nghymru mae'r Llywodraeth wedi dod i'r casgliad, am y tro, bod hyn yn taro'r cydbwysedd gorau rhwng y dadleuon y mae Adam Price wedi tynnu sylw atyn nhw'n briodol y prynhawn yma, ond y manteision sy'n dod, fel y gwelais i yn eglur iawn fy hun yn ystod y diwrnodau diwethaf, o fod â system lle mae'n rhaid i chi ddangos eich bod chi wedi cymryd y camau angenrheidiol i wneud eich hun, ac felly eraill, yn ddiogel.