Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 28 Medi 2021.
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn, Llywydd. Bydd angen i staff cartrefi gofal barhau i wisgo cyfarpar diogelu personol i ddiogelu preswylwyr a’u hunain rhag y risg o COVID‑19. Mae hyn yn cynnwys staff yng nghartrefi gofal Arfon. Rydym yn dal i ddarparu cyfarpar diogelu personol am ddim i gartrefi gofal i ymdrin â’r pandemig.