Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 28 Medi 2021.
Diolchaf i'r Aelod, Llywydd. Ein blaenoriaeth ar gyfer canol trefi yw cynorthwyo'r ailddyfeisio sydd ei angen i sicrhau eu dyfodol hirdymor. Mae hynny'n gofyn am gymysgedd newydd o ddibenion canol tref, gan gynnwys manwerthu, hamdden, diwylliant, gwasanaethau cyhoeddus, cyfleusterau gwaith a rennir a mannau byw, gan wneud y lleoedd hyn unwaith eto yn destun balchder a hunaniaeth ddinesig, hyder a llesiant.