– Senedd Cymru am 2:27 pm ar 28 Medi 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch. Does gen i ddim newidiadau i'w cyhoeddi i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Diolch am y datganiad busnes. A gaf i alw am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda—y cyntaf gan y Gweinidog addysg ynghylch a oes tystysgrifau arholiad ar gael ai peidio gan CBAC? Mae etholwr wedi cysylltu â mi yr wythnos hon sy'n awyddus iawn i gychwyn ar radd nyrsio, ond mae wedi gorfod ei gohirio ddwywaith oherwydd nad yw'n gallu cael gafael ar gopïau o'i dystysgrifau arholiad gan CBAC. Maen nhw'n dweud nad ydyn nhw'n gallu eu cyhoeddi oherwydd COVID a'r pandemig, ond mae'n ymddangos yn beth rhyfeddol bod rhywun wedi gorfod gohirio pethau nawr am ddwy flynedd academaidd o ganlyniad i'r ffaith nad yw'r rhain ar gael, felly byddwn i'n ddiolchgar os gallai'r Gweinidog wneud datganiad ar hynny.
Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad ar dreftadaeth canol trefi? Sylwais i ar sylwadau'r Prif Weinidog yn gynharach, ac, wrth gwrs, mae angen i ni wneud ymdrech i adfywio canol ein trefi yma yng Nghymru, ond mae'n rhaid i hynny beidio â bod ar draul treftadaeth leol yn ein cymunedau, ac mae rhai enghreifftiau gwych o bobl yn fy etholaeth i ym Mae Colwyn gydag ap treftadaeth Dychmygwch Fae Colwyn, sy'n mynd yn fyw yr wythnos hon, ac yn Rhuthun gyda phrosiect adnewyddu cofeb Peers, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Cloc y dref yn Rhuthun yw cofeb Peers, ar sgwâr San Pedr, i'r rhai sydd wedi bod yno, ac mae'n ganolbwynt i'r dref. Ond mae angen cyllid ar y mathau hyn o brosiectau, mae angen cymorth arnyn nhw, er mwyn parhau i gynnal yr agweddau pwysig hyn ar ein treftadaeth. Felly, efallai y gallwn ni gael datganiad ar y pethau hyn a sut y gallwn ni ategu adfywio ein canol trefi â threftadaeth yn y dyfodol.
Diolch. O ran eich cwestiwn cyntaf ynghylch pobl nad ydyn nhw'n derbyn tystysgrifau gan CBAC, fe wnaf i yn sicr ofyn i'r Gweinidog addysg os yw ef neu unrhyw un o'i swyddogion wedi cael trafodaethau ynghylch y mater hwn, ac, os oes unrhyw beth cadarnhaol y gall ei nodi yn dilyn y trafodaethau hynny, fe ofynnaf iddo ysgrifennu atoch chi.
Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch treftadaeth yng nghanol ein trefi. Roeddwn i'n falch iawn—gan wisgo fy het Gweinidog y gogledd—i ymweld â'r amgueddfa, sydd wedi'i hadnewyddu, yn Llandudno ddydd Iau diwethaf. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod canol ein trefi ni'n cadw'r dreftadaeth ryfeddol sydd gan gynifer ohonyn nhw.
Diolch, Drefnydd. Mi fyddwch chi'n ymwybodol o'r twf aruthrol yn achosion COVID yn ein hysgolion ni. Yn yr wythnos ddiwethaf, mae yna 9,500 o achosion wedi bod ymhlith pobl ifanc o dan 20 mlwydd oed—y rhan fwyaf ohonyn nhw yn ein hysgolion. Flwyddyn yn ôl, roedd yna reolau clir mewn lle yn yr ysgolion o ran gorchudd wyneb, awyru, pellter cymdeithasol, ac yn y blaen. Ac yn wir, mae gwyddonwyr independent SAGE yn argymell yn gryf y dylid ailgyflwyno mesurau o'r fath yn ein hysgolion heddiw. Mae plant i ffwrdd yn sâl heb ddysgu digidol o bell yn cael ei gynnig iddyn nhw, ac felly llawer yn colli allan ar eu haddysg, a nifer o athrawon yn methu mynd i'r ysgol, ac ysgolion yn cael trafferth cynnal dosbarthiadau. Ar yr un pryd, nid yw'r rheolau'n glir i rieni pwy sydd i fod i gael ei ynysu a phwy sy'n cael mynd i'r ysgol ai peidio os ydyn nhw mewn dosbarth efo rhywun positif. Mae'r drefn, yn wir, yn llanast. Yn wir, mae'n arwain rhai i feddwl tybed ai'r bwriad ydy cael imiwnedd gyrr ymhlith plant a disgyblion. Trefnydd, yng ngoleuni hyn, felly, a wnewch chi sicrhau bod y Gweinidogion addysg ac iechyd yn dod â datganiad brys o flaen y Senedd, yn cynnwys rheoliadau clir am sut y mae rheoli COVID yn ein sefydliadau addysgiadol, os gwelwch yn dda?
Diolch. Rwy'n anghytuno â'r Aelod bod y system yn llanastr. Rydym, yn amlwg, yn deall y pryderon sydd wedi'u codi o ran materion sy'n ymwneud â hunan-ynysu a chysylltiadau cartref yn ein hysgolion. Ein blaenoriaeth ni yn sicr yw sicrhau bod cynifer o bobl ifanc mewn addysg â phosibl, fel nad oes gennym ni'r materion y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw o ran dysgu yn y cartref. Rydym ni'n glir iawn beth yw ein sefyllfa bresennol, ac mae hyn wedi cael ei gyfleu i bob ysgol. Ymwelais i ag un ysgol fy hun, yn fy etholaeth i, ddydd Gwener, a gofynnais i'r pennaeth yno a oedd yn teimlo bod y canllawiau presennol yn glir, ac atebodd, 'ydyn'.
Mae etholwr sy'n byw gydag ME wedi cysylltu â mi, cyflwr a elwir fel arall yn syndrom blinder cronig, ac mae hi'n pryderu ynghylch penderfyniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i ohirio cyhoeddi ei ganllawiau diwygiedig newydd ar gyfer trin ME. Ac mae grwpiau ymgyrchu ar gyfer pobl sy'n byw gydag ME yn credu bod yr oedi hwn wedi'i achosi gan nifer fach o gyrff proffesiynol yn gwthio'n ôl yn erbyn newidiadau yn y canllawiau diwygiedig. Ysgrifennais i at NICE, a ymatebodd gan ddweud eu bod yn cynnull cyfarfod bord gron y mis nesaf, i geisio cyrraedd cyfaddawd, ond nid yw rhai o'r grwpiau ymgyrchu yn fodlon ac maen nhw'n credu bod NICE yn torri ei brotocolau ei hun wrth ohirio cyhoeddi. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru, os o gwbl, ei wneud sy'n briodol i roi pwysau ar NICE i gyhoeddi ei ganllawiau diwygiedig cyn gynted â phosibl, er budd pobl sy'n byw gyda syndrom blinder cronig?
A hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad ar bobl sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd. Mae gen i etholwyr sy'n byw ger afon sy'n achosi erydu yng nghefn eu heiddo. Gwnaethom ni gyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu heiddo. Byddai disgwyl i un preswylydd dalu £36,000 dim ond i atal erydu. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud nad oes ganddyn nhw bwerau i gyhoeddi unrhyw fath o gyllid ar gyfer materion erydu. Rydym ni'n teimlo bod grŵp o drigolion wedi'u dal yn y canol. Nid ydyn nhw'n wynebu llifogydd ar unwaith, ond mae'n rhaid iddyn nhw gymryd camau nawr i'w atal yn y dyfodol, ond nid oes cyllid ar gael iddyn nhw i gefnogi'r hyn a fyddai fel arall yn ddulliau atal perygl llifogydd hirdymor nid oes modd ei fforddio. Felly, a gawn ni ddatganiad am y bobl hynny sydd wedi'u dal yn y canol rhwng llifogydd uniongyrchol nawr a llifogydd posibl yn y dyfodol?
Diolch. Fel Llywodraeth, roeddem ni'n siomedig iawn na chafodd canllawiau NICE eu cyhoeddi. Nid yw'n ddyfarniad ar y cynnwys na'r driniaeth arfaethedig, mae'n ymwneud â'r modd y cafodd y cyhoeddiad wedyn ei ohirio. Rwy'n gwybod bod swyddogion y Gweinidog iechyd wedi cysylltu â NICE i godi pryderon Llywodraeth Cymru, a cheisio darganfod beth fydd eu camau nesaf i oresgyn y mater. Mae trafodaeth ford gron wedi'i chadeirio'n annibynnol i'w chynnal gyda NICE a rhanddeiliaid allweddol ym mis Hydref, ac rydym ni'n sicr yn edrych ymlaen at gael consensws, ac rwy'n credu mai'r amser hynny fyddai'r amser mwyaf priodol i'r Gweinidog iechyd wneud datganiad, pe bai hi'n teimlo mai dyma'r cyfeiriad cywir i fynd iddo.
O ran eich ail gwestiwn, byddwn i'n eich cynghori i ysgrifennu'n uniongyrchol at y Gweinidog Newid Hinsawdd, oherwydd efallai y bydd yn gallu cynghori'ch etholwyr ynghylch unrhyw gyllid penodol a allai fod ar gael.
A gaf i alw am ddadl yn y Siambr hon ar fater yr hyn y mae modd ei wneud i ddarparu teithio mwy diogel ar gyfer marchogion ceffylau yng Nghymru? Mae perchnogaeth ceffylau yng Nghymru werth dros £0.5 biliwn i economi Cymru, ac mae'n rhan hanfodol o iechyd a lles llawer o bobl. I berchnogion ceffylau, mae marchogaeth ac ymarfer eu ceffylau yn rhan annatod o'u bywydau, ac yn rhywbeth y mae angen ei amddiffyn yn fwy. Mae marchogaeth ceffylau ar y ffyrdd wedi dod yn fwyfwy peryglus. Mae Cymdeithas Ceffylau Prydain wedi adrodd, drwy eu hymgyrch Dead Slow, fod 1,010 o achosion yn ymwneud â cheffylau wedi bod eleni; 46 o geffylau wedi'u lladd; a 118 o geffylau wedi'u hanafu yn y DU. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig newidiadau i'r cod priffyrdd, nid yw hyn yn newid y ffaith bod 80 y cant o achosion yn digwydd oherwydd bod gyrwyr yn teithio'n rhy agos at geffylau.
Bydd y ddadl hefyd yn amserol iawn, oherwydd, fel y mae rhai Aelodau'n gwybod, ddydd Sul, 19 Medi, cynhaliodd marchogion ceffylau ledled Cymru brotest i alw am gynlluniau teithio llesol i'w cynnwys nhw. Maen nhw'n dadlau bod llawer o lwybrau ceffylau wedi'u hisraddio i lwybrau troed, sydd wedi dileu llwybrau hanfodol i geffylau a'u marchogion, gan eu gorfodi i ddefnyddio ffyrdd i deithio arnyn nhw. Byddwn i'n gofyn am y ddadl hon fel mater brys. Byddai'n caniatáu i Aelodau gyflwyno profiadau marchogion ceffylau o bob rhan o'u rhanbarthau a thrafod cynigion y byddai modd eu rhoi ar waith i helpu i ddiogelu ceffylau a marchogion. Dylai'r ddadl hefyd drafod cynnwys marchogion yng nghynlluniau teithio llesol Llywodraeth Cymru. Diolch.
Diolch. Roeddwn i'n ymwybodol o'r ymgyrch a ddigwyddodd ar 19 Medi, a gwn i fod nifer o gyd-Aelodau wedi bod yn bresennol mewn digwyddiadau yn eu hetholaethau ynghylch y mater. Fel y dywedwch chi, ar hyn o bryd, fel Llywodraeth, rydym ni'n edrych ar yr hyn y gallwn ni ei wneud o amgylch y cod priffyrdd, er enghraifft, a mathau eraill o deithio llesol. Felly, nid wyf i'n credu y byddai datganiad yn briodol ar hyn o bryd.
Drefnydd, mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel mewn mannau cyhoeddus, boed hynny ar drafnidiaeth gyhoeddus, wrth gerdded ar y stryd, neu mewn unrhyw fan arall. Ond, yn anffodus, dro ar ôl tro, rydym ni'n clywed am achosion o drais gwrywaidd yn erbyn menywod yn y mannau hyn. Rydym ni oll, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd yn Llundain i Sabina Nessa, athrawes 28 oed a gafodd ei llofruddio tra'n cerdded o'i chartref, am tua hanner awr wedi wyth y nos, i'w thafarn leol, taith o ryw ychydig o bum munud.
Mae trais gwrywaidd yn erbyn menywod yn broblem yma yng Nghymru, fel y mae dros y Deyrnas Gyfunol wrth gwrs, ac mae'n rhaid rhoi diwedd arno. Ei atal, yn hytrach na'i reoli. A wnaiff y Llywodraeth, felly, ddatganiad i'n diweddaru ni ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud i gryfhau'r strategaeth genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan amlinellu'r camau i gryfhau diogelwch menywod ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn mannau cyhoeddus ac ar-lein fel rhan o'r strategaeth, ac amserlen ynghylch cyflawni hyn? Diolch.
Diolch. Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud datganiad y prynhawn yma—datganiad ysgrifenedig.
Alun Davies. Mae'n ddrwg gennyf i, Alun, nid oedd yn fater o fod yn amharod i'ch galw chi, ond methais ddod o hyd i'r enw ar fy rhestr. [Chwerthin.]
Rwy'n siŵr nad oedd. Nid y tro hwn, na. [Chwerthin.] Gweinidog, gofynnais i yr wythnos diwethaf, am ddatganiad ar argyfyngau sifil posibl. Ers datganiad busnes yr wythnos diwethaf, wrth gwrs, rydym ni wedi gweld rhagor o anhrefn ledled Cymru, ac mae etholwyr wedi bod yn dweud wrthyf i nad yw pobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau brys, pobl sy'n gweithio yn y gwasanaethau gofalu, yn gallu cyrraedd eu mannau gwaith oherwydd y problemau o ran cael tanwydd. Mae hyn wedi bod yn drychineb llwyr ac mae wedi'i achosi gan—. Rydym ni'n gwybod bod methiannau polisi wedi bod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mae'r methiant i gydnabod, a chynllunio ar gyfer Brexit, wrth gwrs, wrth wraidd hyn. Roedd cynllunio argyfyngau sifil Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer nifer o wahanol achosion, gan gynnwys y materion hyn, fel rhan o gynllunio Brexit heb gytundeb. Hoffwn i gael datganiad, os yw'n bosibl, ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru helpu pobl ledled y wlad sy'n wynebu'r anhrefn y maen nhw yn ei hwynebu ar hyn o bryd.
Hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad ar gymorth busnes ar ôl i'r ffyrlo ddod i ben, a sut y gallwn ni gefnogi pobl mewn gwaith, wrth i ni weld cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i ben ar hyn o bryd. Mae nifer o fusnesau sydd wedi cysylltu â mi, ym Mlaenau Gwent, sy'n pryderu'n fawr am eu gallu i gynnal cyflogaeth, ac mae'n bwysig ein bod ni'n gallu cefnogi a chynnal busnesau, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gerdded i ffwrdd o'u cyfrifoldebau a'r busnesau hynny.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n sicr yn gywir yn y ffaith nad oedd gan Lywodraeth y DU y cynllunio hirdymor hwnnw y dylem ni fod wedi'i gael, ac yn sicr, rydym ni wedi gweld golygfeydd anhrefnus dros y penwythnos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn dweud nad oes prinder tanwydd yn y DU, ac rydym ni'n parhau i annog pobl i brynu tanwydd fel y bydden nhw fel arfer. Mae rhan argyfyngau sifil posibl Llywodraeth Cymru yn trafod ar hyn o bryd. Rwy'n ymwybodol o gyfarfodydd y bore yma, ac yn sicr, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog gyflwyno datganiad i'r Aelodau ar yr adeg fwyaf priodol.
Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod dod â'r ffyrlo i ben ddydd Iau, unwaith eto, yn rhy fuan. Byddai'n well gennym ni ei weld yn parhau, oherwydd mae'n amlwg ein bod ni yn dal i fod yng nghanol pandemig COVID. Yn amlwg, fel Llywodraeth, prin yw'r cyllid sydd gennym ni a phrin yw'r dulliau o ran hyn. Felly, gwn i fod Gweinidog yr Economi yn parhau i gael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi ein busnesau.
Gweinidog, ychydig wythnosau'n ôl, gofynnais i am ymchwiliad i sut y bu farw saith claf yn ysbyty Maesteg o achosion o COVID yr hydref diwethaf a effeithiodd ar bob claf yn yr ysbyty. Rwy'n deall y byddai cleifion a gafodd eu trosglwyddo i Faesteg o ysbytai eraill wedi profi'n negyddol am COVID cyn eu derbyn. Felly, mae hyn yn golygu y gallai rhywun a ddaeth i mewn i'r ysbyty o gartref gofal neu o'r gymuned fod wedi dod ag ef i mewn. Pam na chawson nhw eu profi? Erbyn hydref diwethaf, roedd peryglon anfon pobl i amgylcheddau caeedig fel cartrefi gofal neu ysbytai yn hysbys iawn, felly dylai profion fod wedi cael eu cynnal. Hoffwn i gael datganiad gan y Gweinidog iechyd yn nodi sut y mae rheoli heintiau yn cael ei reoli erbyn hyn fel ein bod ni'n osgoi canlyniadau trychinebus o'r fath wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.
Wel, bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi datganiad llafar bob tair wythnos yn y Siambr ynghylch pandemig COVID-19, ac efallai mai dyma'r amser mwyaf priodol i chi ei holi hi bryd hynny.
A gaf i ofyn am ddatganiad ar yr adolygiad o gludiant i ddysgwyr, os gwelwch yn dda, Trefnydd? Yn ôl gwefan Llywodraeth Cymru ei hun, nodwyd bod yr adolygiad i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth eleni. Fodd bynnag, mae cydweithwyr mewn llywodraeth leol wedi dweud wrthyf i eu bod wedi cael gwybod bod yr adolygiad yn cael ei ohirio ac y bydd yn cael ei gyflawni ym mywyd y Llywodraeth hon. Yn y cyfamser, yn fy rhanbarth i, yn benodol yng nghwm Llynfi, yng Nghaerau, cymuned sy'n gyson yn sgorio'n uchel ar y mynegai amddifadedd, ac yn aml ymhlith y pum uchaf yng Nghymru, mae disgyblion sy'n wynebu taith gerdded o 45 munud i awr i gyrraedd yr ysgol, ac mae senarios fel hyn yn cael eu hailadrodd mewn mannau eraill yn Abertawe a Phort Talbot. A yw Llywodraeth Cymru o'r farn mai cael gwared ar gludiant ysgol i rai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yw'r ffordd gywir ymlaen?
Diolch. Wel, roedd yr adolygiad y gwnaethoch chi gyfeirio ato, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, roeddem ni'n disgwyl ei gael ddechrau'r flwyddyn hon. Rwy'n credu i ni ei gael tua mis Mawrth, ac yn amlwg yn y weinyddiaeth flaenorol, yna daeth ein hamser ni i ben. Ac rwy'n credu mai'r casgliad y daeth yr adolygiad cychwynnol hwnnw iddo oedd ei fod yn gymhleth iawn—. Cawsom ni drafodaethau manwl iawn gyda rhanddeiliaid, ac ymgysylltu â nhw, yn amlwg, ac rwy'n credu mai'r hyn a ddaeth i'r amlwg oedd bod llawer o anghenion cymhleth, yn amlwg, i'r bobl sydd angen y cludiant hwnnw o'r cartref i'r ysgol. Ac nid y Mesur yn unig yr oedd angen ei adolygu, ond holl gwmpas y ddeddfwriaeth, rwy'n credu. Felly, mae'n amlwg y bydd y Llywodraeth hon yn bwrw ymlaen â hyn, a gwnaethoch chi gyfeirio ato yn eich sylwadau agoriadol.
Yr wythnos diwethaf, cawsom ni wybod, o ganlyniad i'r penderfyniad trychinebus i beidio â bwrw ymlaen â thrydaneiddio'r brif reilffordd hyd at Abertawe, fod gennym ni yn awr fwy o lygredd ar y trenau bi-mode hyn a gafodd eu gwthio arnom ni nag sydd ganddyn nhw ar y strydoedd llygredig gwaethaf yng nghanol Llundain. Mae hwn yn fater difrifol iawn i fy etholwyr, gan mai Gorsaf Caerdydd Canolog yw'r lle y mae'r trydaneiddio'n dod i ben, felly nhw yw'r rhai sy'n dioddef fwyaf o'r llygredd diesel hwn. Ac ar ben hynny, yr wythnos hon, gwnaethom ni ddysgu bod penderfyniad a gafodd ei wneud gan Lywodraeth y DU yn ôl yn 2017—. Cawsom ni'r cil-dwrn eu bod yn mynd i gynhyrchu gwelliannau i'r rheilffyrdd mewn ffyrdd eraill, ond nid ydyn nhw hyd yn oed wedi cwblhau'r achos busnes amlinellol, ac mae hynny bron bum mlynedd yn ddiweddarach. Sut ydym ni'n mynd i allu bwrw ymlaen ag argymhellion rhagorol comisiwn Burns ar gyfer metro de-ddwyrain Cymru os nad oes gennym ni unrhyw syniad beth y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig? Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth betrusgar y DU yn effeithio ar ein cynlluniau ar gyfer metro de-ddwyrain Cymru, o gofio mai asgwrn cefn y busnes cyfan yw'r ffordd yr ydym ni'n defnyddio'r llinellau lliniaru rhwng Casnewydd a Chaerdydd, a thu hwnt.
Diolch. Rwy'n sicr yn rannu eich siom o weld mai'r lefelau nitrogen deuocsid hynny ar y trenau oedd yr uchaf ar GWR. Rwy'n credu ei bod yn ganlyniad cwbl uniongyrchol i Lywodraeth y DU yn rhoi'r gorau i drydaneiddio ychydig cyn Caerdydd, yn hytrach na thrydaneiddio'r holl linell. Roeddwn i'n edrych ar rai ffigurau ynghylch trydaneiddio, ac os oes unrhyw enghraifft arall bod Llywodraeth y DU wedi siomi Cymru'n llwyr: Yn Lloegr, mae 41 y cant o'r trac wedi'i drydaneiddio; yn Yr Alban, mae 25 y cant o'r trac wedi'i drydaneiddio; ac yng Nghymru, dim ond 2 y cant o'r trac sydd wedi'i drydaneiddio ar hyn o bryd.
Felly, mae Llywodraeth Cymru wir yn gwneud ei rhan ar ein seilwaith, ond mae gwir angen i Lywodraeth y DU gynyddu a chwblhau trydaneiddio rhwng Caerdydd ac Abertawe fel man cychwyn, ac yna ymrwymo i raglen dreigl o drydaneiddio ledled Cymru, ac mae hynny'n cynnwys arfordir y gogledd, fel y gallwn ni gael y gwasanaethau trydan hynny. Rwy'n credu mai'r ffordd orau, mewn gwirionedd, fyddai iddyn nhw ddatganoli seilwaith rheilffyrdd i ni, ond, wrth gwrs, gyda setliad ariannu teg fel y gallwn ni flaenoriaethu a chyflawni datgarboneiddio ein gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.
Fel llefarydd ar newid hinsawdd, yr wyf i'n gefnogwr brwd o'r sector ynni adnewyddadwy. Yn wir, mae fy etholaeth yn gartref i lawer o dyrbinau gwynt alltraeth sy'n hawdd eu gweld—un o'r rhai mwyaf—felly rwy'n chwilio am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ac ynni ynghylch fferm wynt alltraeth Awel y Môr. Bydd y cynnig hwn yn gweld 91 o dyrbinau enfawr newydd oddi ar yr arfordir os caiff caniatâd ei roi. Y bwriad yw i'r tyrbinau hyn gael eu cynllunio ar gyfer 10.6 cilometr oddi ar arfordir Llandudno, gydag uchder o 332m i'w copa; dyna yw maint Tŵr Eiffel. Mae'r cynlluniau hyn yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd gydag ychydig iawn o gyfranogiad gan randdeiliaid, felly a gaf i ofyn am ddatganiad ar y canlynol: a yw Awel y Môr eisoes wedi cael caniatâd ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru, fel sydd wedi'i awgrymu? Pa fesurau sydd ar waith i ddiogelu bioamrywiaeth, yn enwedig o ystyried pryderon ynghylch effeithiau morol negyddol cynllun blaenorol Gwynt y Môr o ran dirywiad rhywogaethau, gydag aflonyddu ar adar a bywyd morol? Pa amddiffyniadau gallai Llywodraeth Cymru eu hystyried ar gyfer cymunedau glan môr lle mai'r gorwel arfordirol yw'r prif atyniad i dwristiaid, fel y gallwn ni helpu i ddiogelu ein diwydiant twristiaeth gwerthfawr? A hefyd, sut y gall ein preswylwyr fod â hyder llwyr mewn proses gynllunio sydd, mae'n debyg, yn esgus cefnogi ar hyn o bryd yn hytrach na chynnal digwyddiadau ymgynghori ystyrlon a hygyrch i'r rhai sydd eisiau cyfrannu eu syniadau. Diolch.
Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi egluro eich bod yn cefnogi ynni adnewyddadwy, oherwydd yn sicr nid oedd gweddill eich cwestiwn yn rhoi'r argraff i mi eich bod chi o gwbl. Yn amlwg, mae ynni adnewyddadwy yn rhan o'n datrysiad o ran lliniaru newid yn yr hinsawdd, yr wyf yn credu eich bod chi'n rhannu'n huchelgais yn ei gylch.
Nid wyf i eisiau gofyn i'r Gweinidog wneud datganiad penodol ynghylch y prosiect yr ydych chi'n cyfeirio ato, oherwydd nid wyf i'n credu y byddai hynny'n briodol, ond, yn amlwg, ar adegau penodol yn ystod busnes y Llywodraeth, rydym ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau o ran ein cynlluniau ar gyfer ynni adnewyddadwy. Ac rydych chi'n hollol gywir—mae'r gogledd yn lleoliad gwbl wych, ac yn sicr, pan oeddwn i'n Weinidog ynni, yr oedd gennym ni lawer, iawn o ddatblygwyr a chwmnïau a oedd eisiau dod i gipio'r potensial mawr sydd yn y gogledd.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Mae un ohonyn nhw mewn gwirionedd yn adleisio'r pwynt a gafodd ei wneud yn gynharach—byddai'n wych cael datganiad ar amseriad canlyniad yr ymgynghoriad estynedig ar gludiant i'r ysgol. Mae wedi'i ymestyn i edrych ar y mater hwn ynghylch yr agweddau teithio am ddim a'r pellter. Yn draddodiadol, darparodd Pen-y-bont ar Ogwr cludiant fwy hael na'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru, ond cafodd ddegawd o gyllid cyni. Sylwais i, pan gafodd hyn ei drafod yn siambr y cyngor, na chafodd unrhyw ddewis arall ei gyflwyno gan unrhyw wleidydd yn y siambr i symud i'r lleiafswm statudol. Fodd bynnag, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ganlyniad ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i weld a yw'n cyflwyno unrhyw gynigion newydd yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod fy etholwyr i'n edrych ymlaen at hynny hefyd.
Yn ail, a gawn ni ddatganiad ar fater profion a hyfforddiant dosbarth 1 Cerbydau Nwyddau Trwm? Mae gennyf i etholwyr sy'n barod i gymryd y cam olaf, i lamu at y cam olaf hwnnw i yrru lorïau cymalog, ond gall y gost fod hyd at £2,000, ynghyd â'r ffi prawf ar ben hynny hefyd. Tybed a oes cefnogaeth gan Lywodraeth y DU neu gefnogaeth Llywodraeth Cymru, neu a oes cwmnïau yng Nghymru y gall Llywodraeth Cymru siarad â nhw, fel yr wyf i'n ymwybodol ohonyn nhw yn Lloegr, a fydd mewn gwirionedd yn noddi ymgeiswyr nawr i fynd drwy hyn i lenwi rhywfaint o'r ôl-groniad hwnnw yn absenoldeb cludwyr sydd gennym ni ar hyn o bryd.
Diolch. Byddwch chi wedi clywed fy ateb i Luke Fletcher ynghylch yr adolygiad o'r Mesur cludiant i ddysgwyr, a gwnes i sôn bod angen i ni edrych ar y materion ehangach a godwyd yn yr adolygiad hwnnw ar ddiwedd tymor blaenorol y llywodraeth, ac a oes angen i ni ystyried cwmpas y ddeddfwriaeth yn ehangach er mwyn sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau effeithiol hynny.
O ran cymorth i yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm gael eu hyfforddi i lefel dosbarth 1, mae rhaglen ReAct, y byddwch chi'n ymwybodol iawn ohoni, ac yn sicr mae grant hyd at £1,500 ar gael a fydd yn cynnwys pob agwedd ar hyfforddiant, profi a thrwyddedu. Felly, mae'r cyllid hwnnw, sydd wedi bod ar gael nawr am ryw chwe blynedd, rwy'n meddwl. Hefyd, mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnal rhaglen dreialu ledled y DU, ac mae hynny'n cynnwys sir y Fflint a'r de-orllewin, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol a chwmnïau trafnidiaeth lleol. Mae hynny'n ateb ail ran eich cwestiwn ynghylch gweithio gyda phobl ddi-waith, yn enwedig pobl ddi-waith sy'n bwriadu bod yn yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm.
Hoffwn i alw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau meddygon teulu yng Nghymru. Er bod pandemig COVID wedi taflu goleuni ar y rhain, mae rhybuddion i Lywodraeth Cymru ynghylch argyfwng meddygon teulu yng Nghymru wedi rhagflaenu hyn ers tro byd. Yn 2012, ail-lansiodd BMA Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ymgyrchoedd yn rhybuddio bod Cymru'n wynebu argyfwng meddygon teulu, bod 90 y cant o gysylltiadau cleifion â meddyg teulu ac eto roedd cyllid fel cyfran o gacen y GIG wedi gostwng, a'u bod wedi ail-lansio eu hymgyrchoedd oherwydd nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwrando.
Mewn sesiwn friffio gan BMA Cymru yn 2014 yn y Cynulliad, dywedodd cadeirydd pwyllgor meddygol lleol y gogledd fod ymarfer cyffredinol yn y gogledd mewn argyfwng, nad oedd sawl practis wedi gallu llenwi swyddi gwag, ac roedd llawer o feddygon teulu yn ystyried ymddeol o ddifrif oherwydd y llwyth gwaith sy'n ehangu ar hyn o bryd. Neidiwch ymlaen a, ddydd Iau diwethaf, dywedodd cyngor iechyd cymuned y gogledd fod pobl yn wynebu argyfwng yn gallu manteisio ar wasanaethau meddygon teulu. Dywedodd cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymru yn y BMA, sy'n cynrychioli meddygon, fod problemau'n datblygu cyn COVID, a mwy o feddygon teulu yn cael eu colli ar ôl ymddeol yn gynnar. Rwy'n galw am ddatganiad brys yn unol â hynny.
Rydw i wir ym dymuno y byddai Aelodau efallai ychydig yn fwy pwyllog pan fyddan nhw'n defnyddio'r gair 'argyfwng'. Er ein bod ni, wrth gwrs, wedi gweld galw ar ein meddygon teulu i wneud gymaint mwy o waith, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19—ac rydym ni'n hynod ddiolchgar am gyflwyniad anhygoel y rhaglen frechu COVID-19—fel y byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn ei ddweud, rydym ni yn awr yn gofyn iddyn nhw wneud rhaglen brechu ffliw'r gaeaf, ac rydym ni'n gofyn iddyn nhw wneud rhaglen frechu atgyfnerthu COVID hefyd. Felly, mae ein meddygon teulu ni allan yno'n gweithio gyda'n poblogaethau a'n cleifion i sicrhau eu bod nhw'n cael yr amddiffyniad hwnnw.
Wrth gwrs, rydym ni'n gweld meddygon teulu'n ymddeol, yn union fel yr ydym ni yn gweld hynny mewn unrhyw sector arall ledled Cymru, ac mae'n bwysig iawn bod y cynllunio hwnnw, nad ydym ni efallai wedi gweld gymaint ohono yn y gwasanaeth iechyd. Ond, wrth gwrs, mae meddygon teulu'n hunangyflogedig, ac rwy'n ymwybodol o fy nhrafodaethau fy hun, gan weithio gyda meddygon teulu, mae'n bwysig iawn bod ganddyn nhw'r cynllunio hwnnw o fewn eu meddygfeydd eu hunain i sicrhau nad oes y bwlch hwnnw.
Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio'n galed iawn gyda'n byrddau iechyd, oherwydd maen nhw'n gyfrifol am sicrhau bod eu poblogaethau'n cael y cyfle i fanteisio ar wasanaethau meddygon teulu.
Ac yn olaf, Jayne Bryant.
Diolch, Llywydd. Mae'r cartref, hosbisau plant yng Nghymru yn darparu gwasanaeth cwbl amhrisiadwy i'r plant y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw a'u teuluoedd. Mae'r mwyafrif helaeth o'r cyllid y mae hosbisau plant yn dibynnu arno yn dod drwy roddion. Yn y gwanwyn, rhoddodd Llywodraeth Cymru newyddion calonogol eu bod yn gweithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes i adolygu cyllid ar gyfer hosbisau. A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd yr adolygiad hwnnw, a sut y bydd hosbisau plant yn arbennig, a'r plant sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau eu hunain, yn cael eu hystyried ynddo?
Diolch i chi. Cewch, mae'r adolygiad hwnnw i fod i gael ei gwblhau erbyn diwedd y mis nesaf, h.y. mis Hydref 2021. Fe wn i y bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno i'r Gweinidog iechyd, ac yn sicr fe fyddaf yn gofyn iddi hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd yr adolygiad hwnnw wedi cael ei gwblhau.
Diolch i'r Trefnydd.