– Senedd Cymru am 2:55 pm ar 28 Medi 2021.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y cysylltiadau rhynglywodraethol, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad.
Llywydd, diolch yn fawr. Heddiw, rwy'n cyhoeddi adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar berthnasau rhynglywodraethol am y flwyddyn 2020-21. Mae'r adroddiad yn rhan o ymroddiad y Llywodraeth i rannu gwybodaeth gyda'r Senedd ynglŷn â'r berthynas rynglywodraethol. Fe wnaf i barhau i adrodd ar ein perthynas a'n cydweithio gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â'n partneriaid yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig. Yn ddiweddar, cytunais gyda Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i adnewyddu ein cytundeb ar y berthynas ryngsefydliadol yn y chweched Senedd, ac mae swyddogion yn gweithio ar hyn.
Llywydd, ni fydd neb yn synnu wrth glywed bod gwahaniaethau mawr rhwng agwedd Llywodraeth Cymru ac agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Serch hynny, mae'r berthynas yn un hanfodol bwysig. Pan gaiff honno ei nodweddu gan barch, hyblygrwydd, a phwyslais ar y mannau y gellir dod o hyd i gytundeb, fe all y berthynas fod yn fanteisiol iawn i Gymru a'r DU gyfan. Pan fydd honno'n pallu, mae'r canlyniadau, yn anochel, yn siomedig iawn.
Mae cyfnod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y ddwy her, COVID-19 a'r cyfnod pontio Ewropeaidd. Roedd y ddwy her yn tanlinellu'r angen am strwythurau cryf ac amseru dibynadwy o ran cyfathrebu rhwng Llywodraethau. Roedd y graddau y cyflawnwyd hyn yn ymarferol yn amrywio, gyda rhai canlyniadau cadarnhaol mewn rhai agweddau ar COVID-19 ond stori fwy cyson ddilewyrch o ran trefniadau pontio Ewropeaidd.
Mae'r pandemig wedi amlygu'r ffordd y mae cyfrifoldebau datganoledig a'r rhai a gadwyd yn ôl yn cydgysylltu â'i gilydd. Fel Llywodraeth Cymru ac fel Senedd, fe fu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau, ac rydym ni'n parhau i wneud hynny'n unol â'r hyn, yn ein barn ni, sydd fwyaf buddiol i Gymru. Ond rydym ni wedi ymdrin â'r penderfyniadau hynny yng nghyd-destun y cysylltiadau gwyddonol, economaidd, a chymdeithasol a rennir rhwng Cymru a gweddill y DU. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus ni hefyd, wrth gwrs, wedi cydweithredu yn yr un modd mewn llawer iawn o agweddau ymarferol.
Pryd bynnag y ceir parodrwydd o'r ddwy ochr i wneud hynny, bwriad Llywodraeth Cymru yw parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU o ran cam nesaf yr ymateb a'r adferiad wedi COVID, gan gynnwys y goblygiadau gweithredol ac ariannol. Yn gynharach yn ystod yr haf, fe gynhaliwyd uwchgynhadledd COVID a oedd yn dangos gwerth cydweithio mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin, ac mae gennym ni yng Nghymru ddiddordeb arbennig o ran sicrhau bod ein hagenda werdd ni'n ganolog i'n hymagwedd ni tuag at adferiad.
Yn y cyd-destun hwnnw, mae adolygiad cynhwysfawr o wariant y DU yn hanfodol i'n perthynas ni â Llywodraeth y DU. Mae angen i ni gael partneriaeth wirioneddol ac ymagwedd gytunedig at adferiad a ysgogir gan fuddsoddiad a fydd o fantais i Gymru. Pan fo'n synhwyrol i ni weithio ar sail pedair gwlad, fe ddylem ni wneud hynny, ac mae hi'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn sefydlu strwythurau digonol i ganiatáu i hynny ddigwydd.
Nawr, fel enghraifft ymarferol iawn o undod rhynglywodraethol, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithio ar unwaith gyda ni i ddatblygu strategaeth ar y cyd a rhaglen ariannu ar gyfer adfer safleoedd tomenni glo yn y tymor hir. Fe fydd y Senedd yn trafod y mater hwn y prynhawn yma. Fe grëwyd y tomenni glo ymhell cyn i ddatganoli gael ei ragweld hyd yn oed. Peth hurt yw dadlau, fel y gwna Llywodraeth y DU, mai ein cyfrifoldeb ni yma yng Nghymru yw ymdrin ar ein pennau ein hunain â'r mater clasurol hwn o etifeddiaeth neu fod gennym yr adnoddau i wneud hynny. Llywydd, yn hytrach na gwneud y mater hynod sensitif hwn yn bwnc dadleuol, fe ddylai hon fod yn enghraifft ddiffiniol o sut y gall Llywodraeth y DU weithio gyda ni i ddatblygu manteision effeithiol o weithio'n rhynglywodraethol, ac yn arbennig felly yng nghyd-destun y DU sy'n llywyddu COP26.
Fel dywedais i'n gynharach, Llywydd, mae cydweithio yn ystod y pandemig wedi arwain at rai enghreifftiau cadarnhaol o weithio rhynglywodraethol. Eleni, fe gawsom ni gyfarfodydd rheolaidd rhwng Llywodraethau datganoledig a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn ar y pryd, yn cwmpasu COVID-19 a materion arall. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â hyn yn dilyn yr ad-drefnu diweddar, lle bydd Michael Gove, fel rwy'n deall, yn cadw ei gyfrifoldeb am gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae'r rhaglen frechu yn enghraifft arall o sut y gellir gwneud gwaith da, gyda chytundeb o ran caffael canolog, a rennir ar sail poblogaeth ledled y DU, ond gyda'r ddarpariaeth yn cael ei rheoli gan bob gwlad yn unigol. Y tu hwnt i COVID, Llywydd, rydym ni wedi gweithio ar y cyd ar fframweithiau cyffredin, a ddyfeisiwyd o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, gyda chytundeb dros dro rhwng y Llywodraethau, i'w ddilyn, gobeithio, gan gytundeb terfynol yn ddiweddarach eleni.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fwynhau perthynas gref â'r Llywodraethau datganoledig eraill, a chydag aelodau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, yn arbennig felly. Rwy'n edrych ymlaen at groesawu'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig i Gymru, yn ddiweddarach yr hydref hwn, ar gyfer ei unfed uwchgynhadledd ar bymtheg ar hugain, ac fe fyddaf i'n dychwelyd i'r Senedd yn ddiweddarach gyda rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am gyfarfod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, fe euthum i gyfarfod blynyddol Cymdeithas Prydain ac Iwerddon. Bu cyfle yn y fan honno i rannu llwyfan gyda Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Paul Givan, ac i gyfarfod â chynrychiolwyr y pleidiau eraill sydd yn y Weithrediaeth yno. Ym mis Tachwedd, fe fydd Gweinidogion Cymru yn cymryd rhan yn nhrafodaethau COP26 yn Glasgow, gan weithio gyda Llywodraeth yr Alban i sicrhau'r cyfraniad mwyaf y gallwn ni ei wneud wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd yn gyfochrog â Llywodraethau rhanbarthol eraill.
Mae'r berthynas hon â gwledydd eraill y DU yn elfen bwysig iawn o'n hymdrechion rhynglywodraethol sy'n ein galluogi ni i weithio'n agos gydag eraill a hyrwyddo buddiannau Cymru. Yr hyn sydd ei angen arnom ni, er hynny, yw i'r enghreifftiau cadarnhaol hyn ddod yn gyffredin mewn cysylltiadau rhynglywodraethol. Mae undeb gwirfoddol o bedair gwlad yn llawer mwy tebygol o barhau i'r dyfodol gyda phatrwm o ymgysylltu rheolaidd a dibynadwy, gyda pharch, â pheirianwaith rhynglywodraethol ar sail rheolau eglur a chadarn. Yr hyn sydd gennym ni'n ymarferol yw cydweithredu tameidiog, ad hoc ac ysbeidiol. Ar y gorau, fe all hynny gyflawni canlyniadau defnyddiol, ond yn llawer rhy aml ceir rhwystredigaeth a mudandod yn ei sgil pan oedd angen deialog a chyflawniad.
Rwy'n gresynu bod ein cysylltiadau dwyochrog ni â Llywodraeth y DU yn llipa ac yn anodd, yn rhy aml o lawer. Mae eu hundebwriaeth cyhyrol, eu gelyniaeth tuag at ddatganoli, a'u hunochroldeb ymosodol nhw'n gwbl wrthgynhyrchiol ac yn groes i'n teimladau ni yma yng Nghymru. Mae hi'n anodd iawn cysoni'r mynegiadau cadarnhaol a wneir ar adegau, gan rai o Weinidogion y DU, â'r achosion hynny o ymosod ar feysydd datganoledig, er enghraifft drwy eu rhaglen ddeddfwriaethol a'u cynlluniau gwariant, gan ddal arian a ddylai ddod i Gymru yn ei ôl, a chymryd cyfrifoldebau yn ôl sydd, yn eglur iawn, wedi cael eu datganoli.
Llywydd, nid oes raid iddi hi fod fel hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i weld Cymru gadarn mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus. Mae ein dogfen ni 'Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU', a gyhoeddwyd yn ei ail argraffiad ym mis Mehefin eleni, yn amlinellu dyfodol cadarnhaol o'r fath. Mae'n rhagweld undeb sy'n parhau, gan ddefnyddio datganoli fel cadernid a chydweithio mewn ffyrdd a fyddai'n perswadio dinasyddion ym mhob un o'r pedair gwlad i ddymuno perthyn iddo. Ar gyfer bwrw ymlaen â'r gwaith hwn yma yng Nghymru, fe fyddwn ni, yn fuan, yn cyhoeddi rhai manylion am ein comisiwn cyfansoddiadol newydd ni ein hunain. Fe fydd y ddogfen 'Diwygio ein Hundeb' ar gael iddo wrth iddo ddechrau ar ei drafodaethau, ac rwy'n gobeithio, wrth gwrs, y bydd rhai eraill yn cyflwyno syniadau creadigol ac ymarferol hefyd.
Llywydd, roeddwn i wedi gobeithio gallu nodi i'r Senedd benllanw'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol heddiw, a gomisiynwyd mor bell yn ôl â 2018. Yn gynharach eleni, fe amlygwyd y gyfradd gynyddol o gytundeb sydd rhwng y Llywodraethau yn y cyhoeddiad o becyn drafft o ddiwygiadau, gydag ychydig iawn o feysydd ar ôl i'w cytuno. Nid yw hynny'n golygu y bydd pob Llywodraeth yn cael popeth yr oedd hi'n ei ddymuno, oherwydd, yn anochel ac yn gwbl briodol, mae hon wedi bod yn broses o negodi a chyfaddawdu. Ond, fe wnaethpwyd cynnydd ac rwy'n ceisio parhau i fod yn obeithiol y bydd yr adolygiad yn barod i'w gwblhau o'r diwedd. Roedd y manylion terfynol yn cael eu trafod pan ddigwyddodd yr ad-drefnu yn Llywodraeth y DU, ac fe geir ansicrwydd nawr o ran a fydd yna oblygiadau i gwblhau'r adolygiad mewn modd sy'n foddhaol.
Mae'r rhaglen ddiwygio ddrafft yn welliant sylweddol ac mae hi'n cynnwys strwythurau newydd i hwyluso deialog well. Er gwaethaf y berthynas sy'n heriol ar y cyfan â Llywodraeth y DU, mae'r rhain yn gamau pwysig y mae'r adolygiad yn eu nodi: fe fydd yn sefydlu peirianwaith rhynglywodraethol newydd ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd ar bob lefel o Lywodraeth; fe fyddai'n gweld mwy o barch a chyfranogiad sy'n gyfartal; am y tro cyntaf, fe fyddai'n creu ysgrifenyddiaeth ddiduedd; ac mae'n nodi mecanwaith gwell i osgoi a datrys anghydfodau, gyda'r gallu i gynnwys mewnbwn annibynnol i anghydfodau a chyda mwy o dryloywder o ran eu datrys nhw.
Y prynhawn yma, Llywydd, fe hoffwn i orffen ar y nodyn cadarnhaol yna. Mae cyd-destun cysylltiadau rhynglywodraethol yn anodd, ond fe ellir gwneud cynnydd. Rwy'n gobeithio y byddaf i'n gallu adrodd y flwyddyn nesaf fod materion mor ddwys â dyfodol y Deyrnas Unedig yn cael eu hystyried gyda'r difrifoldeb y maen nhw'n eu haeddu ar frys.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi. Fel rydych chi'n dweud, ni ddylai hi fod yn syndod i neb yn y Siambr hon, oherwydd y gwahaniaethau gwleidyddol sydd rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Geidwadol y DU, fod yna densiynau, ar brydiau; mae hynny'n ddealladwy mewn democratiaeth sy'n ethol Llywodraethau o wahanol liwiau yng Nghymru ac ar lefel y DU. Felly, rwyf i braidd yn siomedig, gan edrych ar rai o'r ymadroddion a'r geiriau yn eich datganiad chi heddiw, oherwydd nid ydyn nhw'n cyd-fynd yn llwyr â'r ddogfen y gwnaethoch chi ei chyhoeddi, roeddwn i o'r farn ei bod hi'n tynnu sylw at lawer o ymgysylltu cadarnhaol a oedd yn digwydd ar bob math o lefelau rhwng Gweinidogion a swyddogion yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac, yn wir, y gwledydd datganoledig eraill ledled y Deyrnas Unedig gyfan.
Mae'r ddogfen yn sôn am y Gyd-ganolfan Bioddiogelwch, mae hi'n sôn am y gwaith da ynglŷn â'r rhaglen frechu, y cydweithio ynghylch y pandemig, y cyfarfodydd wythnosol sy'n digwydd rhwng llawer o adrannau'r Llywodraeth yma ac adrannau'r Llywodraeth ar lefel y DU, y ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd COBRA, yr ymgysylltiad a fu ar y fframweithiau cyffredin, a'r gwaith da, cadarnhaol a wnaethpwyd hefyd o ran cynnwys Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau mewn cytundebau masnach newydd. Felly, roeddwn i'n credu ei bod hi braidd yn siomedig clywed y Prif Weinidog yn gwneud sylwadau ar lawer o agweddau negyddol yn yr adroddiad, sydd, ar y cyfan—ac fe fyddwn yn annog unrhyw un i'w ddarllen—yn mynd yn groes i'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud yn y ddogfen lawnach.
Mae hi'n bwysig fod gennym ni berthynas waith dda, er mwyn pobl Cymru, rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a dyna pam yr wyf yn falch fod Llywodraeth y DU wedi comisiynu'r adolygiad rhynglywodraethol a bod llawer iawn o gynnydd a chytundeb wedi bod rhwng y gwledydd datganoledig a Llywodraeth y DU ynglŷn â fframwaith ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol. Roeddech chi'n amlinellu, yn gadarnhaol iawn, yn fy marn i, rhai agweddau ar hwnnw y cytunwyd arnyn nhw eisoes, ac rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld y canlyniad terfynol. Wrth gwrs, mae'r oedi wrth gyhoeddi'r ddogfen honno a chwblhau'r ddogfen honno i raddau helaeth o ganlyniad i'r pandemig, sydd wedi mynd â sylw pawb i raddau helaeth, wrth gwrs, ac yn ddealladwy felly. Ond rwy'n credu y bydd llawer o'r heriau a welsom yn y gorffennol, o ganlyniad i ddwy blaid wleidyddol wahanol yn y Llywodraethau ar ddau ben yr M4, yn cael eu goresgyn o ganlyniad i'r fframweithiau a fydd, rwy'n gobeithio, yn cael eu rhoi ar waith.
Roeddwn i'n nodi bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at domenni glo, ac mae hi'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, fy mod i a'm cyd-Aelodau ar feinciau Ceidwadwyr Cymru yn cytuno yn llwyr fod angen dull cydweithredol, ar y cyd o fynd i'r afael â phryderon ynglŷn â thomenni glo yma yng Nghymru, o gofio mai gwaddol y cyfnod cyn datganoli ydyn nhw. Mae hynny'n gwbl briodol ac nid wyf i'n cydnabod yr amharodrwydd yr ydych chi'n ei awgrymu o ran ymgysylltiad Llywodraeth y DU yn y mater penodol hwnnw.
Roeddech chi'n cyfeirio hefyd, wrth gwrs, at yr angen i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid. Fe hoffwn i eich atgoffa chi a phawb arall yn y Siambr hon heddiw fod Cymru wedi cael £8.6 biliwn yn ychwanegol gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r pandemig. Rhandal aelodaeth yw hwnnw, os hoffech chi, ac yn deillio o'r ffaith fod Cymru yn rhan bwysig o'r Deyrnas Unedig—rhan gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig. Nid wyf i'n ymddiheuro am y ffaith fy mod i'n credu bod Llywodraeth y DU wedi gwneud gwaith da iawn o ran sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael i Gymru pan oedd ei angen ar gyfer gallu cynllunio ymateb effeithiol. Felly, rwy'n credu bod angen i Weinidogion Llywodraeth Cymru, ar adegau, fod yn fwy croendew o ran yr anghytundeb achlysurol, sy'n gwbl ragweladwy oherwydd y ffaith bod gwahaniaethau gwleidyddol yn bodoli rhwng dwy blaid wleidyddol.
A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog: a ydych chi'n derbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am suro'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar adegau, yn enwedig o ystyried y tarfu a'r ffordd aflonyddgar yr oedd eich plaid chi'n ymddwyn wrth geisio atal y DU rhag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd? Rwy'n credu bod y broses honno—a wnaeth suro'r berthynas, roedd hi'n peri rhwyg, ac yn ddiangen iawn ar adegau yn fy marn i, o gofio ei bod hi'n rhaid i bawb fwrw ymlaen a chyflawni canlyniad y refferendwm hwnnw. Roedd yna bobl yn y Blaid Lafur yma yng Nghymru, ac yn wir yn Lloegr, sy'n parhau i fod yn awyddus i ddychwelyd a gwrthdroi penderfyniad pobl Prydain a phobl Cymru, cofiwch chi, oherwydd fe bleidleisiodd y mwyafrif o bobl yma yng Nghymru dros ymadael â'r UE. Ond fe wnaeth hynny suro'r berthynas mewn gwirionedd. Nid oedd angen iddi hi fod felly bob amser, yn fy marn i, ond wrth gwrs, fe fyddwn i'n gobeithio y byddech chi'n derbyn rhywfaint o gyfrifoldeb ar ran eich plaid chi am suro'r gydberthynas honno bryd hynny.
Nawr, mae'r pethau hynny, wrth gwrs, y tu ôl i ni, rwy'n gobeithio, ac fe allwn ni fwrw ymlaen a sicrhau bod y berthynas yn cael ei hadfer yn y dyfodol. A chyda'ch caniatâd caredig chi, Llywydd, os caf i—
Rydych chi'n trethu fy amynedd i nawr. Mae eich amser chi ar ben.
Rwy'n awyddus i orffen ar nodyn cadarnhaol.
Iawn; byddwch chi'n gadarnhaol, felly.
Roeddwn i'n falch iawn, Prif Weinidog, o glywed eich cyfeiriadau chi at ymgysylltu ag Iwerddon drwy'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ac yn wir y gwaith arall yr ydych chi wedi bod yn ei wneud. Yn amlwg, rwy'n ymfalchïo fy mod i'n ddinesydd Gwyddelig yn ogystal â bod yn ddinesydd Prydeinig, ac rwyf i o'r farn fod y cydberthnasau hynny'n eithriadol o bwysig i Gymru, o gofio bod gennym ni gyd-genedl Geltaidd sy'n frwdfrydig i ymgysylltu yn gadarnhaol â ni, ac rwy'n credu y bydd cydweithio â Gweriniaeth Iwerddon yn eithriadol o bwysig i'r dyfodol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at wneud datganiadau pellach ynglŷn â'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ac yn edrych ymlaen, rwy'n gobeithio, at weithredu canlyniad yr adolygiad rhynglywodraethol fel y gall y cydberthnasau hyn ffynnu yn y dyfodol.
Rwy'n diolch i Darren Millar am hynna. Fy asesiad personol i o'r datganiad a wneuthum yw fy mod i wedi gwneud fy ngorau glas i geisio bod yn haelfrydig drwy'r cyfan oll. Fe ddileais i'r sylwadau at y gronfa ffyniant gyffredin, at effaith wenwynig Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, at yr ymdrechion i berswadio'r Trysorlys i weithredu'r rheolau y dylai hi fod yn rhwym wrthyn nhw, oherwydd roeddwn i'n dymuno—rwy'n mynd i wneud hynny gymaint ag y gallaf i—pwysleisio'r angen am berthynas gadarnhaol rhwng pob Llywodraeth ledled y Deyrnas Unedig. A dyna'r hyn yr oeddwn i'n ceisio ei wneud.
Pan fydd yr adroddiad o gysylltiadau rhynglywodraethol yn adrodd, rwy'n gobeithio y bydd yn gwneud yr hyn a fynegodd Darren Millar: rwy'n gobeithio y bydd yn nodi cyfres o strwythurau a fydd yn rhoi cadernid peirianwaith rhynglywodraethol i ni a fydd yn osgoi rhywfaint o natur dros dro'r cysylltiadau rhwng y pedair gwlad yn ddiweddar. Ond un rhan yn unig o gysylltiadau rhynglywodraethol yw strwythurau; mae diwylliant yn un arall, ac fe fydd yn rhaid i ni weld ym mha ysbryd yr ymdrinnir â hynny.
Rwy'n nodi'r hyn a ddywedodd yr Aelod am domenni glo gyda diddordeb mawr, ac rydym ni wedi gweld rhywfaint o ddulliau gweithredu ar y cyd yn hyn o beth. Mae'r grŵp tomenni glo a sefydlwyd yn sgil y llifogydd yn 2019 wedi cael ei gadeirio ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol a minnau. A dyma'r anhawster, Llywydd: mae'r Awdurdod Glo, sy'n gorff sydd heb ei ddatganoli o gwbl, yn gyfan gwbl yng nghyfrifoldeb Llywodraeth y DU, wedi gwneud gwaith rhagorol. Mae gennym ni ymdeimlad llawer gwell o'r mannau lle mae gennym wendidau gyda thomenni glo, ac mae gennym ni ymdeimlad llawer gwell o'r hyn y bydd hi'n ei gostio i gywiro'r rheini. Mae'r Awdurdod Glo wedi bod—mae'n parhau i weithio ar hyn, fe wn i, ond mae wedi bod yn cynnig rhaglen o fuddsoddiad gwerth £600 miliwn dros gyfnod o 10 mlynedd i gywiro'r pethau a adawyd pan ddaeth y sefydliad hwn i fod. Ac er gwaethaf y ffaith nad oes yna ffrwd ariannu o gwbl yng Nghymru at y diben hwnnw, mae'r Trysorlys yn ysgrifennu llythyrau hynod drahaus atom ni, sy'n dweud, o'u rhan nhw, na fydd yna geiniog goch yn dod, a'i bod hi'n rhaid i ni ddod o hyd i £600 miliwn ein hunain o gyllidebau sy'n dod atom ni ar gyfer adeiladu ysbytai, adeiladu ffyrdd, adeiladu ysgolion a gwneud yr holl bethau eraill yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw. A dyna pam y cyfeiriais i at hwn fel maes lle, pe bu cyfle erioed i Lywodraeth y DU allu dangos i bobl yng Nghymru'r rhandal a ddaw o fod yn aelod o Deyrnas Unedig, mae'n sicr mai cydweithio â ni ar y mater hwn fyddai hwnnw.
Welwch chi—y ddau bwynt olaf, Llywydd—mae'r ffordd a ddefnyddiodd yr Aelod o sôn am yr arian a ddaeth i Gymru yn ystod y pandemig, yn fy marn i, yn amlygu'r gagendor sy'n ein gwahanu ni. Nid drwy haelioni rhyw Lywodraeth yn y DU y cafodd Cymru'r arian hwnnw; nid gwlad sy'n un o gleientiaid Llywodraeth y DU ydym ni. Fe ddaw'r arian i Gymru oherwydd bod dinasyddion Cymru yn talu i mewn i'r gronfa yr ydym ni'n tynnu allan ohoni hi wedyn. Yr holl ymdeimlad yna o—wyddoch chi, absenoldeb unrhyw ymdeimlad o gydraddoldeb yn y berthynas sydd, yn fy marn i, yn gwahaniaethu'r ffordd yr ydym ni'n meddwl amdani ar ein hochr ni a'r ffordd y mae'r Blaid Geidwadol yn cysyniadu pethau.
Ond gadewch i mi orffen, fel y gwnaeth Darren Millar, gyda nodyn cadarnhaol: mae'n gwybod bod cytundeb newydd gennym ni gyda Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon i gryfhau'r berthynas sydd rhyngom ni. Fe ddisgwyliwn i ddirprwyaeth o nifer o Weinidogion o'r Llywodraeth honno ddod i Gymru ym mis Hydref, i dreulio diwrnod cyfan yma yng Nghymru, yn cwrdd ag eraill, yn edrych ar brosiectau sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr ac yn cryfhau ein gallu ni i weithio ar faterion hanfodol, fel y defnydd ar y cyd o'r môr Celtaidd a'r posibiliadau morol y mae hynny'n eu cynnig i ni, ac rwy'n edrych ymlaen at allu adrodd i'r Aelodau am y gwaith hwnnw.
Fel y buasech chi yn ei ddisgwyl, rwy'n credu efallai roeddech chi'n ordeg ac yn orhael yn eich darlunio o'r sefyllfa mor bell ag y mae agwedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol atom ni. Mae'n wir amdanoch chi, fel amdanom ni i gyd, dwi'n credu, bod eich cryfder pennaf, sef eich ffordd resymol, bwyllog, yn ceisio dwyn perswâd ar bobl, weithiau'n gallu troi yn wendid pan ŷch chi'n wynebu, hynny yw, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol sydd ag agwedd mor afresymol, mor haerllug i'r syniadau digon rhesymol ŷch chi wedi'u cyflwyno eto'r prynhawn yma. A beth i wneud yn y sefyllfa yma ydy'r cwestiwn, a dweud y gwir.
Dwi'n ddigon cyfarwydd, yn anffodus, gyda San Steffan. Rôn i yno eto yn ddiweddar a dyw'r lle ddim wedi newid dim: yr eglwys gadeiriol yma ar lannau'r Tafwys, onid e, yn glafoerio gydag agweddau haerllug. Peidiwch â meddwl am eiliad eu bod nhw'n credu ym mhotensial rhyw bartneriaeth gydradd gyda ni fan hyn yng Nghymru a'r Alban a Gogledd Iwerddon. Teyrn a thaeog, onid e? Dyna'u hagwedd nhw, ac maen nhw, wrth gwrs, yn credu yn sofraniaeth San Steffan a San Steffan yn unig. 'Beth ŷn ni'n ei wneud yn y sefyllfa yma?' ydy'r cwestiwn, a buaswn i yn ymbil arnoch chi—. Ac mae enghraifft eto'r prynhawn yma, yr LCMs; maen nhw'n dod atom ni—mae flotilla ohonyn nhw'n dod atom ni nawr. Wrth gwrs, maen nhw'n gwybod eu bod nhw'n methu dymchwel y Senedd yma yn gyfan oll, ond beth maen nhw'n ei wneud, wrth gwrs, ydy ceisio'n tanseilio ni, fesul cam wrth gam—y Bil sybsidi yr wythnos diwethaf, Bil y farchnad fewnol; tynnu oddi ar ein seiliau ariannol dro ar ôl tro ar ôl tro. Wel, does bosib bod yn rhaid inni sefyll gyda'n gilydd a gwrthod hyn.
Gaf i awgrymu cwpwl o bethau? Mae'r adroddiad yn ddefnyddiol a dwi dal yn ddigon o economegydd i gredu mewn gwerth data. So, beth am ddangos tryloywder, er enghraifft? Beth am ddangos yn yr adroddiadau yma y nifer o weithiau, Brif Weinidog, rydych chi wedi gofyn am gyfarfodydd i drafod materion o bwys lle maen nhw wedi gwrthod neu anwybyddu'r cynigion hynny. Faint o weithiau ydych chi wedi cael gwahoddiadau yn hwyr iawn i gyfarfodydd mewn meysydd datganoledig, a'r agenda ddim wedi cael ei rhannu gyda chi na'r papurau cefndir, felly'n eich atal chi wedyn rhag cyfrannu yn rhesymol i'r drafodaeth? Gad inni weld gwir natur y berthynas yna; cael rhyw fath o log, os mynnwch chi, o natur yr ymagwedd haerllug sydd gan y Llywodraeth lawr yn San Steffan i ni fan hyn yng Nghymru ar hyn o bryd.
Gaf i hefyd ofyn i chi: a fuasech chi'n fodlon adeiladu, a dweud y gwir, ar yr hyn sydd yn sail i'r adroddiad yma—hynny yw, dangos tryloywder ynglŷn â'r berthynas—ond agor hynny mas i'r cyhoedd yng Nghymru? Felly, nid yn unig adroddiad i'r Senedd fel sydd gyda ni fan hyn, ond ymgysylltu gyda phobl Cymru, a dweud y gwir, a ddylai wybod y ffeithiau ynglŷn â'r agwedd sydd yn cael ei dangos gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ac efallai drwy'r comisiwn cyfansoddiadol a'r sgwrs genedlaethol dŷch chi wedi cyfeirio ati.
Yn olaf, onid yr unig ffordd dŷn ni yn mynd i ddangos herfeidd-dra, a dweud y gwir—gwrthwynebiad i'r math yma o agwedd—yw ein bod ni'n cydweithio? Cydweithio fan hyn yng Nghymru ar draws pleidiau, hyd yn oed lle, wrth gwrs, rŷn ni'n anghytuno ynglŷn â'r ateb yn y pen draw o ran dyfodol cyfansoddiadol i Gymru—mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, yn dilyn beth ddywedodd y mudiadau annibyniaeth ddoe eu bod nhw'n rhan o'r sgwrs genedlaethol a bod hynny yn cael ei adlewyrchu yn y cylch gorchwyl ar ei chyfer hi—ond hefyd bod yna gydweithio ar draws y gwledydd Celtaidd. Ein bod ni, os mynnwch chi, yn creu, os oes gyda nhw eu hunolyddiaeth gyhyrog, wel gad inni gael ein cydweithio cyhyrog ar draws y gwledydd Celtaidd—ie, ar draws pleidiau, gan gynnwys, wrth gwrs, Llywodraeth yr Alban, sydd hefyd â phersbectif gwahanol ynglŷn â dyfodol yr ynysoedd hyn. Ond, yn hyn o beth, dŷn ni yn unedig yn gwrthwynebu y geidwadaeth yma o San Steffan sydd yn gwadu'n hawl ni fan hyn yng Nghymru ac yn y gwledydd eraill i ddewis ein cwys ein hunain.
Wel, diolch yn fawr, Llywydd, i Adam Price. Pan oeddwn i'n ymateb i Darren Millar, roeddwn i'n disgwyl i Darren ddweud ein bod ni'n rhy gas i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac roeddwn i'n disgwyl i Mr Price ddweud fy mod i'n rhy gyfeillgar. Mae nifer o bwyntiau pwysig mae Adam Price wedi'u codi, ac mae nifer o enghreifftiau ble gallaf i dynnu sylw at enghreifftiau lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb fod yn rhesymol gyda ni o gwbl. Gaf i gyfeirio at jest un—mae'n rhywbeth bach ond mae yn dangos y cyd-destun. Ni sy'n gyfrifol am gyfarfod nesaf y British-Irish Council. Y pwnc sydd i'w drafod yn y cyngor yw ieithoedd lleiafrifol, so ni'n arwain yng Nghymru ar y gwaith sy'n mynd ymlaen ac mae'r gwaith yn bwysig. Mae'n bwysig yn yr Iwerddon, yn yr ynys i gyd. Roedden ni eisiau gwahodd pobl o Gernyw i ddod i'r cyngor, nid i siarad, achos dydyn nhw ddim yn aelodau'r cyngor ond jest i wrando ar y drafodaeth a phan fyddai pethau gyda nhw i'w ddweud tu fas i'r cyngor bydden nhw'n gallu ei wneud e. Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig jest ddim yn fodlon i'w wneud e o gwbl. So, syniad bach oedd e, syniad sy'n berthnasol i ni yng Nghymru achos rydym ni'n gyfrifol am y pwnc yn y cyngor, yn rhesymol, fel oedd Adam Price yn ei ddweud, ond dim byd. Ddim yn fodlon i'w wneud e o gwbl, a ni sy'n cynllunio’r cyfarfod, ni sy'n gyfrifol am y cyngor ond doedden nhw ddim yn fodlon i gytuno ar y syniad bach yna. So, dwi'n ei defnyddio hi fel enghraifft o'r meddylfryd rwyt ti'n ei ffeindio pan wyt ti'n trio gwneud pethau rhesymol, fel oedd Adam Price yn ei ddweud.
Ar ochr yr LCMs, un o'r pethau sy'n hollol bwysig am y flwyddyn nesaf yw confensiwn Sewel. Nawr, rydym ni wedi setio mas yn ein dogfen ni ffyrdd i gryfhau'r confensiwn, ac rydym ni wedi gweithio gyda phobl eraill ar y syniadau yna hefyd. Os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn meddwl nad yw Sewel yn golygu dim byd, wel, bydd hwnna'n mynd i greu mwy a mwy o broblemau.
Llywydd, roedd Adam Price yn awgrymu nifer o bosibiliadau i gryfhau'r adroddiad ac i ddefnyddio'r adroddiad am fwy o bwrpasau, a diolch am y syniadau. Wrth gwrs, rydym ni'n fodlon eu hystyried nhw. Pan ydych chi yn gweithio gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, rydych chi yn dod i weithio gyda phobl o gefndir gwleidyddol hollol, hollol wahanol, ac mae hwnna'n grêt onid yw e, achos rydych chi'n dysgu pethau ac rydych chi'n ffeindio ffyrdd i gydweithio gyda phobl sy'n dod o gefndir gwahanol ac mae gwneud hwnna ar ochr pobl sy'n byw yn yr Alban, yn Iwerddon ac yng Nghymru yn rhywbeth dwi'n awyddus i gryfhau dros y flwyddyn sydd i ddod.
Prif Weinidog, diolch am y datganiad ond hefyd am yr adroddiad hwn, y byddwn i'n ei argymell yn fawr i unrhyw un sy'n ymhél â'r trefniadau cyfansoddiadol presennol ar hyn o bryd ac ystyr hynny i Gymru a'r DU. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, fel nododd Darren, fod rhai tameidiau da yma, ond mae'n rhaid i mi ddweud fod yma ddarlun cymysg hefyd, ac fe wnaiff, wrth ddarllen yr adroddiad hwn, mewn gwirionedd, ddangos bod rhai—ychydig fel y tywydd presennol, fe geir llawer o stormydd yma ac yna fe ddaw ambell i lygedyn o heulwen drwy'r stormydd hynny. Nid oes gennyf i amser i fynd drwyddyn nhw heddiw, rwy'n awyddus i ganolbwyntio ar un mater yn arbennig, ond rwy'n sylwi bod Llywodraeth Cymru, o fewn yr adroddiad hwn, yn nodi unwaith eto ei gweledigaeth o Gymru gadarn o fewn DU lwyddiannus—yr angen i ailosod cysylltiadau rhynglywodraethol yn seiliedig ar weledigaeth o DU ddiwygiedig a chadarnach lle mae'r holl Lywodraethau yn gweithio gyda'i gilydd er lles pob un.
Sy'n ein cyfeirio ni, yn absenoldeb gallu mynd drwy hwn i gyd, rwyf i wedi mwynhau ei ddarllen yn fawr, ac fe wn i y bydd gan y pwyllgor ddiddordeb yn ei ddarllen, at fater yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, a allai fod yn un llygedyn o heulwen yn y storm, ond nid oedd datganiad y Prif Weinidog yn egluro hynny i mi. Roedd hi'n ymddangos bod y Cwnsler Cyffredinol, pan oedd o flaen y pwyllgor y diwrnod o'r blaen, yn glynu wrth rywfaint o obaith y gallem ni fod yn gwneud gwir gynnydd ac efallai y bydd yna rywbeth i fod yn hapus yn ei gylch. Ond pa obaith sydd ganddo ef y gallai'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, a allai fod yn ailosodiad mor fawr â hynny yn y berthynas rhwng gwledydd y DU, fod yn gyfle i fynd y tu hwnt i gymylau'r ddrycin a gweld wybren sydd ychydig yn fwy clir, neu a ddylem ni gymedroli ein disgwyliadau ni?
Llywydd, rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies. Roeddwn i'n ceisio dweud yn fy natganiad agoriadol fy mod i'n dymuno bod yn optimistaidd ynglŷn â'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, oherwydd fe gafodd llawer iawn o waith ei wneud ar hwnnw, gan swyddogion yn arbennig felly. Ac mae rhai o'r datblygiadau mwyaf gyda chysylltiadau rhynglywodraethol wedi bod mewn meysydd y mae Llywodraeth Cymru, a'n swyddogion ni, wedi bod yn gyfrifol amdanyn nhw. Felly, mae'r ffaith ei fod yn cynnwys elfen annibynnol o ran datrys anghydfodau yn gam mawr ymlaen—nid ydym ni erioed wedi gweld hynny o'r blaen. Llywodraeth y DU yn unig oedd y barnwr, y rheithgor, y dedfrydwr, a'r Llys Apêl i gyd ar yr un pryd, ac nid dyna fydd yr achos erbyn hyn. Pan wnaethom ni geisio, gyda Llywodraeth yr Alban, Llywydd—efallai eich bod chi'n cofio—codi anghydfod ynghylch y £1 biliwn a aeth i Ogledd Iwerddon, heb unrhyw symiau cyffelyb i Gymru, na'r Alban, nac yn wir i Loegr, fe ddywedodd Llywodraeth y DU wrthym ni, yn eu barn hwy, nad oedd yna anghydfod. Felly, fe wnaethom ni ysgrifennu, gan ddweud, gan ddatgan anghydfod, ac fe wnaethon nhw ysgrifennu yn ôl a dweud, 'Yn ein barn ni, nid oes yna anghydfod, ac ni fyddwn ni, felly, yn mynd â'r mater ymhellach.' Wel, ni fydd hynny'n bosibl os daw'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol i ben. Pam ydw i'n petruso? Oherwydd ein bod ni—. Fe ddywedwyd wrthyf i, dros sawl mis erbyn hyn, ein bod ni ar fin ei arwyddo. Fe ddylem ni fod wedi ei arwyddo cyn toriad yr haf; ni ddigwyddodd hynny. Fe ddylem ni fod wedi ei arwyddo cyn i ni ddod yn ein holau; ni ddigwyddodd hynny. Fe ddylem ni fod wedi ei arwyddo ychydig cyn yr ad-drefnu, ond ni ddigwyddodd hynny. Felly, rwy'n dymuno bod yn optimistaidd, oherwydd fy mod yn credu bod llawer iawn o waith wedi cael ei wneud, ac mae hwnnw'n rhoi llwyfan newydd i ni a chyfle newydd i ni allu ailosod y cysylltiadau hynny, ond hyd nes y bydd hyn wedi ei gyflawni, ni fyddaf i'n gorfoleddu mewn unrhyw ffordd.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad ef. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ni dynnu sylw at feysydd lle mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn cydweithio, a hynny wedi bod o fudd i Gymru. Rydym ni wedi gweld cyflwyno'r brechlynnau, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran cadw trigolion Cymru yn ddiogel. Fel rwyf i wedi sôn yn gynharach, am gytundebau o ran twf, maen nhw wedi bod yn llwyddiant mawr o ran tyfu economi Cymru ac mewn gwirionedd mae'r ddwy Lywodraeth yn cydweithio a'r arian ychwanegol a anfonwyd i Gymru i gefnogi busnesau, ac mae'r gwaith a wnaethoch chi ar y cyd â Llywodraeth y DU wedi bod o fudd gwirioneddol i fusnesau yn hynny o beth.
Ond rwy'n credu mai bod â pharch yw ystyr llawer o'r hyn yr ydych chi wedi sôn amdano yn y cyswllt hwn, Prif Weinidog. Ac rwy'n credu y gellir bod â pharch, yn fy marn i, ar ddau ben yr M4—o un i'r llall. Ac mae parch yn allweddol i gysylltiadau da a'r gwaith a wnawn ni yn y lle hwn, ac mae'n mynd at hanfod yr hyn yr ydym ni i gyd yn ei gredu. Ond nid yw'r sylwadau a wnaeth dirprwy arweinydd y Blaid Lafur dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn adeiladol o gwbl o ran unrhyw berthynas rhwng eich plaid chi a'm plaid innau, ac mae hyn wedi achosi llawer o helynt a dolur.
Prif Weinidog, fe wn i eich bod chi'n unigolyn parchus ac anrhydeddus iawn, ac, yn arweinydd Llywodraeth Cymru, nid yw'r sylwadau a wnaeth eich dirprwy arweinydd chi yn San Steffan yn helpu cysylltiadau rhynglywodraethol mewn unrhyw ffordd. Felly, yn fy marn i, Prif Weinidog, pe byddech chi'n condemnio'r sylwadau hyn, rwy'n credu y byddai hynny'n dwyn ein pleidiau ni'n nes at ei gilydd ac o gymorth gwirioneddol gyda chysylltiadau rhwng y llywodraethau, oherwydd nid yw galw pobl yn 'wehilion' yn beth neis ac nid gwleidyddiaeth garedig na thyner mo hynny.
Llywydd, rwyf i wedi clywed popeth sydd gan yr Aelod i'w ddweud.
Mae gan fy etholwyr i, fel llawer o bobl yn y gogledd-ddwyrain, gysylltiadau agosach â Chaer, Lerpwl, a Manceinion na'r rhai sydd ganddyn nhw â Chaerdydd. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda meiri metro yng ngogledd-orllewin Lloegr i gyflawni nodau cyffredin a hyrwyddo cydwasanaethau? Mae materion trawsffiniol yn peri pryder arbennig yn Nyffryn Clwyd, felly sut mae Llywodraeth Cymru am weithio gyda Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol Lloegr i fynd i'r afael â mwy o weithio trawsffiniol, ym maes iechyd a gofal yn arbennig felly? Yn olaf, Prif Weinidog, pa effaith y mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn ei chael ar fargen twf y gogledd, a sut mae Llywodraeth Cymru am weithio i atgyfnerthu cydweithio agosach rhwng awdurdodau lleol, fel Cyngor Sir Ddinbych, Llywodraethau Cymru a'r DU i wella ffyniant economaidd y rhanbarth cyfan ar y naill ochr a'r llall i Glawdd Offa? Diolch yn fawr iawn i chi.
Rwy'n diolch i'r Aelod, oherwydd mae'r rhain yn bwyntiau gwirioneddol bwysig yn fy marn i. Ac rwy'n credu, wrth i ni gynllunio trefniadau rhynglywodraethol ar gyfer y dyfodol, yna fe fydd ffyrdd o allu denu lleisiau rhanbarthol yn Lloegr yn bwysig iawn yn hynny i gyd. Nawr, yn y dyddiau diwethaf, fe gefais i gyfleoedd i gwrdd â meiri metro o sawl rhan o Loegr, ac mae hynny'n cynnwys y gogledd-orllewin hefyd, ac mae Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy yn rhan bwysig iawn o'r dirwedd ar gyfer economi gogledd-ddwyrain Cymru.
Un o'r anawsterau o ddod o hyd i ffordd o weithredu—rwy'n chwilio am y gair cywir, am eiliad, Llywydd—mewn ffordd drylwyr gyda meiri metro yw eu bod nhw i gyd yn wahanol—mae gan bob un ohonyn nhw bwerau sy'n amrywio, mae gan bob un ohonyn nhw gyfrifoldebau sy'n amrywio; nid oes unrhyw batrwm. Felly, ni allwch chi fod ag un dull o weithredu sy'n hawdd ei ddwyn o un gyfres o gysylltiadau i un arall. Ond rwy'n credu bod y pwynt cyffredinol y mae'r Aelod yn ei wneud yn un pwysig, ac, wrth i gyfundrefn o feiri metro a datganoli aeddfedu yn Lloegr, yna, fe fydd y cydberthnasau hynny ar hyd ein ffin ni, yn y gogledd-ddwyrain gyda Lerpwl a Manceinion, ond gyda de-orllewin Lloegr hefyd, yn bwysig iawn i Gymru.
Diolch i'r Prif Weinidog. Felly, mae'r eitem yna ar ben. Ac fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr nawr, tra ein bod ni'n ail-drefnu'r Siambr.