Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 28 Medi 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf yn sefyll i gynnig y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ac, fel y dywedwyd, dim ond ar ôl trychineb dychrynllyd Aberfan yn 1966 y deddfwyd Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969. Hanner canrif yn ddiweddarach, dim ond ar ôl storm Dennis ym mis Chwefror 2020 a llithriad tomen lo yn Nhylorstown y gwahoddwyd Comisiwn y Gyfraith yn ffurfiol yn awr i gynnal adolygiad annibynnol o'r ddeddfwriaeth berthnasol a darparu argymhellion ar gyfer Bil yn y dyfodol. Mae'r ffaith ei bod yn cymryd trychinebau i ni sylweddoli nad yw'r ddeddfwriaeth yn ddigon cadarn nac yn addas at ei diben yn bwynt y dylem ni i gyd fod yn adlewyrchu arno yma heddiw. Mae ein cymunedau ni yn haeddu Senedd Cymru nad yw'n adweithiol ond yn rhagweithiol yn ei dull o ymdrin â materion mor bwysig. Maen nhw'n haeddu Senedd Cymru sy'n gwneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu ein cymunedau a'u pobl. Ond maen nhw hefyd yn haeddu Llywodraeth Cymru sy'n onest am ei chyfrifoldebau ei hun.
Dirprwy Lywydd, cynghorwyd y Prif Weinidog yn ysgrifenedig gan y Gwir Anrhydeddus Stephen Barclay AS ar 5 Gorffennaf 2021, fod
'rheoli tomenni glo yng Nghymru yn fater datganoledig ac felly nid yw'n un y byddai Llywodraeth y DU yn disgwyl darparu cyllid ychwanegol ar ei gyfer.'
Yn wir, mae'r Prif Weinidog yn gwybod yn iawn bod rheoli tomenni glo wedi'i ddatganoli, oherwydd mae hyd yn oed wedi'i gynnwys yn ei raglen lywodraethu, sy'n gwneud addewid sydd i'w groesawu i gyflwyno deddfwriaeth i fynd i'r afael ag etifeddiaeth canrifoedd o gloddio a sicrhau diogelwch tomenni glo. Felly, rwy'n gofyn i'r sefyllfa gael ei hegluro i adlewyrchu hynny. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am reoli unrhyw gostau hirdymor sy'n gysylltiedig â sicrhau diogelwch ein tomenni glo yng Nghymru. Rwy'n sylweddoli y gallai'r problemau etifeddol sy'n ymwneud â thomenni glo yr ydym yn eu hwynebu gostio tua £0.5 biliwn dros gyfnod o 10 mlynedd. Fodd bynnag, nid oes rheswm pam na ellir ariannu hynny. Er enghraifft, ar gyfer 2021-22, mae setliad adolygu o wariant cyffredinol Llywodraeth Cymru yn darparu £123 y pen am bob £100 o gyllid cyfatebol yn Lloegr. Felly, rwy'n diflasu braidd erbyn hyn yn fy nhrydydd tymor i gael gwybod yn gyson mai Llywodraeth y DU sy'n penderfynu. Yn wir, bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn tua £1 biliwn yn fwy yn 2021 na'r hyn y cytunwyd arno fel cyllid teg i Gymru o'i gymharu â Lloegr, felly gallwch fforddio gymryd cyfrifoldeb am yr hyn sy'n fater datganoledig.
Fel y gwyddoch chi, mae Llywodraeth y DU yn barod i gydweithredu i sicrhau bod deiliaid tai a busnesau yn gwybod bod y risg yn cael ei chymryd o ddifrif. Ni ddylai hyn fod yn bêl-droed wleidyddol. Ym mis Rhagfyr 2020, derbyniodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys gais Llywodraeth Cymru am £31 miliwn i helpu gyda'r effeithiau nas rhagwelwyd—[Torri ar draws.]—Fe wnaf dderbyn ymyriad os dymunwch chi—[Torri ar draws.]—iawn—gydag effeithiau annisgwyl storm Dennis, a oedd yn cynnwys £9 miliwn i atgyweirio tomenni glo bregus ledled Cymru.
Mae Llywodraeth y DU yn parhau i sicrhau bod arbenigedd yr Awdurdod Glo ar gael i gefnogi'r gwaith o sicrhau bod tomenni yn ddiogel, ac wrth gwrs, ym mis Chwefror 2020, sefydlwyd tasglu a gadeiriwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Weinidog Cymru i drafod a chydlynu'r gwaith. Gallem ni weld glaw trwm yng Nghymru y gaeaf hwn, ac o'r herwydd, byddwn i'n falch o gael y wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau rhag y tomenni a ystyrir yn risg uchel. Nawr, gwnaed £180,000 ar gael y llynedd ar gyfer treialu offer synhwyro, sy'n golygu bod gan leoliadau fel tomen y National, Wattstown, systemau monitro telemetrig amser real, sy'n cadw llygad ar symudiad yn y ddaear a lefelau dŵr. Nod hwnnw oedd cynnwys mwy o domenni yn y treialon. A yw hyn wedi'i gyflawni? A fydd rhagor o systemau monitro telemetrig amser real yn cael eu cyflwyno? Y gaeaf diwethaf, archwiliodd yr Awdurdod Glo ac awdurdodau lleol bron i 300 o domenni risg uchel, gan nodi gwaith cynnal a chadw pwysig a brys iawn. Felly, fy nghwestiwn: faint o'r tomenni glo yr oedd angen i waith ddechrau o fewn chwech i 12 mis sydd wedi gweld y targed hwnnw'n cael ei gyflawni?